Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Mynd yn Wyrdd: Elusennau a Chyfrifoldeb Amgylcheddol

(Rhagfyr 2008)

Gallwch weld fersiwn lliw argraffedig o'r cyhoeddiad hwn hefyd: RS17 - Mynd yn Wyrdd: Elusennau a Chyfrifoldeb Amgylcheddol (fformat PDF).

Y Comisiwn Elusennau yw'r rheolydd annibynnol ar gyfer gweithgarwch elusennol. Mae hwn yn un o gyfres o adroddiadau sy'n seiliedig ar waith ymchwil annibynnol a gomisiynwyd, yn ogystal â'n data mewnol, gwybodaeth a phrofiad ein hunain o weithio gydag elusennau.

Diben yr adroddiadau hyn yw helpu cynyddu dealltwriaeth o bwnc arbennig. Maen nhw'n rhan o'n cenhadaeth i helpu elusennau gael yr effaith fwyaf a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol, er mwyn hybu arloesi o fewn y sector elusennol a gwella effeithiolrwydd.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno ein casgliadau o waith ymchwil ar y ffordd y mae elusennau yn cymryd cyfrifoldeb am yr amgylchedd. Mae'n cynnwys syniadau efallai yr hoffech ystyried eu mabwysiadau, yn dibynnu ar sefyllfa arbennig eich elusen eich hun.

Cynnwys

Rhagair

Mae pob rhan o gymdeithas yn cael ei hannog i feddwl am gynaliadwyedd amgylcheddol, ac mae disgwyl i elusennau fynd i'r afael fwyfwy â'r materion hyn.

Cyhoeddwyd yr adroddiad ymchwil hwn fel rhan o'n rôl i annog pob elusen i asesu'n feirniadol yr hyn a wnânt ac adolygu'n barhaus effeithiolrwydd eu gweithrediadau a'u dulliau gweithio. Gan ddefnyddio profiadau elusennau eu hunain, mae'n dangos sut y gallant chwarae mwy o rôl mewn materion amgylcheddol, hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ac addasu eu dulliau gweithio eu hunain er mwyn gwneud newidiadau allweddol.

Ar hyn o bryd mae nifer o fentrau sy'n annog elusennau i gymryd rhan mewn cynaliadwyedd amgylcheddol. Er enghraifft, mae'r Third Sector Declaration On Climate Change, a luniwyd gan Every Action Counts, yn dangos sut y gall elusennau weithredu trwy gynnig datganiad o fwriad sy'n esbonio sut y byddant yn mynd i'r afael â'r mater o newid hinsawdd, yn fewnol ac o fewn ein cymunedau. Mae'r Carbon Trust hefyd newydd gyhoeddi cyfleoedd arbed ynni cyffredinol ar gyfer elusennau.

Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu profiadau elusennau sy'n cymryd cyfrifoldeb amgylcheddol, o'r lefel fwyaf sylfaenol i newidiadau yn y ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau. Drwy ddangos rhai o'r ffyrdd y mae elusennau'n ymateb i faterion amgylcheddol, rydym yn gobeithio ysbrydoli ymddiriedolwyr sydd heb feddwl am y mater hwn eto i ddechrau gwneud hynny.

Cyflwyniad

Ni fu sylw'r byd erioed wedi'i hoelio gymaint ar gyfrifoldeb amgylcheddol ag y bu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae pob rhan o gymdeithas, boed y llywodraeth, busnes neu unigolion, yn cael ei hannog i weithredu mewn ffyrdd mwy ecogyfeillgar, er mwyn helpu cynnal nid yn unig yr ansawdd bywyd rydym yn ei ddisgwyl heddiw ond i genedlaethau'r dyfodol.

Mae gan elusennau rôl hir-sefydledig yn y maes hwn, trwy'r gwaith uniongyrchol a wnânt i wella'r amgylchedd a thrwy eu systemau gweinyddol eu hunain.

Mae mwy na 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, felly mae potensial mawr i hyd yn oed y fenter werdd leiaf a fabwysiadir gan rai, neu bob un o'r elusennau hyn, gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Yn 2007, roeddem wedi cyfarfod â grŵp o sefydliadau trydydd sector oedd yn awyddus i gynyddu cynaliadwyedd eu harferion gwaith ac yn dilyn hynny cyhoeddwyd ein canllaw Cyfrifoldeb Amgylcheddol: pa rôl ddylai elusennau ei chwarae?

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau amgylcheddol y mae elusennau'n ymgymryd â nhw, naill ai fel rhan o'u dibenion elusennol, neu'n anuniongyrchol trwy'r ffordd y maent yn rhedeg eu hunain. Mae'n tynnu sylw at y casgliadau o gyfweliadau gyda chroestoriad bach o elusennau ac mae'n dod â'u gweithgarwch amgylcheddol yn fyw. Mae'r adroddiad yn disgrifio'r camau y gall elusennau eu cymryd fel arfer da, ac mae'n tynnu sylw at rai syniadau arloesol eraill y gall elusennau eu hystyried.

Er na all adroddiad o'r natur hon obeithio adlewyrchu pob agwedd ar waith amgylcheddol elusennau, rydym yn gobeithio bod profiadau croestoriad o'r elusennau sy'n cael sylw yn yr adroddiad hwn o fudd ac o werth i bawb.

"Mae canfyddiad y cyhoedd yn newid. Os yw elusennau eisiau parhau i fod yn gystadleuol, rhaid iddynt fod yn atebol a gwybod yn union beth mae'r cyhoedd yn chwilio amdano. Mae'n dra phosib y byddant yn penderfynu mai'r sefydliadau sy'n cymryd eu perfformiad amgylcheddol eu hunain o ddifrif yw'r rhai yr hoffent fuddsoddi ynddynt."

Cyfweliad gydag elusen ryngwladol heb fod yn amgylcheddol

Prif gasgliadau

  • Mae elusennau'n cydnabod ac yn ymateb fwyfwy i bryderon amgylcheddol. Roedd ein gwaith ymchwil wedi dangos bod elusennau yn troi'n 'wyrddach' drwy amryw o ffyrdd ac yn gwella eu cynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Fe ddangosodd y gwaith ymchwil y bydd elusennau yn gweithredu mentrau amgylcheddol o ganlyniad i bwysau gan unigolion allweddol yn aml, unigolion sydd naill ai'n gweithio o fewn yr elusen, neu'n gysylltiedig â'r elusen, yn hytrach nag o ganlyniad i benderfyniad strategol yr ymddiriedolwyr. Hefyd roedd pryder pe byddai unigolion allweddol o'r fath yn gadael, byddai'r momentwm ar gyfer gweithredu amgylcheddol yn cael ei golli.
  • Roedd elusennau wedi sôn am amryw o rwystrau ymarferol, ariannol ac agweddol at gymryd cyfrifoldeb amgylcheddol, ond roedd yn glir os oedd pwysau yn cael eu dwyn gan unigolion allweddol, neu os oedd yr elusen yn dangos parodrwydd i newid, roedd yn bosibl goresgyn y rhwystrau hyn.
  • Mae rhai elusennau yn cefnogi eu hymagwedd at fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol gydag adnoddau, er enghraifft trwy ofyn i staff ymgymryd â rôl 'hyrwyddo ynni' neu drwy roi'r dasg ffurfiol i staff o hybu gweithgarwch amgylcheddol o fewn y sefydliad.
  • Mae tystiolaeth bod elusennau yn datblygu themâu amgylcheddol yn eu gwaith os yw'r ymagwedd hon yn berthnasol i'w dibenion, ac yn eu gwella.
  • Dangosodd y gwaith ymchwil fod rhai ymddiriedolwyr elusen yn amharod i'w helusen wneud unrhyw waith amgylcheddol, oherwydd maent yn pryderu nad yw hyn yn ddefnydd cyfreithlon o adnoddau'r elusen.
  • Roedd ychydig llai na hanner yr elusennau a arolygwyd wedi, neu wrthi'n datblygu, datganiad ysgrifenedig ar faterion amgylcheddol.
  • Mae rhai elusennau'n cynnal archwiliadau amgylcheddol, ond dim ond rhai elusennau sydd fel petaent yn cynnal profion effeithlonrwydd ynni.
  • Erbyn hyn mae rhai elusennau (gan gynnwys saith o'r tri deg elusen fwyaf) yn cynnwys Datganiad Amgylcheddol yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

1. Y cyd-destun cyfreithiol a rheoleiddiol

1.1. Gofynion cyfreithiol

Mae amcanion statudol gan y Comisiwn Elusennau i hybu'r defnydd effeithiol o adnoddau elusennau a chynyddu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau. Fel rhan o'n gwaith i gyflawni yn erbyn yr amcanion hyn, mae'r Comisiwn yn annog elusennau i fod yn gyfrifol am yr amgylchedd ac ymgymryd â gweithgarwch amgylcheddol, sy'n cyd-fynd â'u dibenion.1

Mae gofynion cyfreithiol yn sail i'r ffocws cynyddol ar y mater hwn. Mae rhai o'r gofynion hyn yn gymwys i bob elusen, ond mae rhai yn gymwys i elusennau corfforedig yn unig:

Y gyfraith elusennau - Mae'n ofynnol i elusennau weithredu o fewn eu hamcanion. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'w holl asedau gael eu defnyddio i hybu'r amcanion hynny, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Hefyd mae dyletswydd gyffredinol ar ymddiriedolwyr elusen i warchod a rheoli eiddo'r elusen mewn ffordd sy'n hybu eu dibenion elusennol.

Deddf Cwmnïau 2006 - Roedd adran 172 (1) (d) o Ddeddf Cwmnïau 2006 wedi cyflwyno dyletswydd amgylcheddol newydd i gyfarwyddwyr. Ers Hydref 2007, mae'n ofynnol i gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol weithredu mewn modd y teimlant sy'n fwyaf tebygol o gyflawni dibenion elusennol eu sefydliad. Drwy wneud hynny, mae'n rhaid iddynt ystyried materion amrywiol, gan gynnwys effaith gweithrediadau'r cwmni ar y gymuned a'r amgylchedd. Mae tua 28,000 o elusennau corfforedig ar gofrestr elusennau y Comisiwn, sef bron 15% o'r cyfanswm ar y gofrestr. Mae'n rhaid i bob un o'r elusennau hyn gydymffurfio â'r ddyletswydd hon.

Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007 SI 2007/91 - O Hydref 2008, bydd angen Tystysgrif Perfformiad Ynni ar bob adeilad pan gânt eu hadeiladu, eu gwerthu neu eu rhentu. Mae'r Dystysgrif yn dangos pa mor ynni effeithlon yw'r adeilad.

1.2. Adrodd am gynaliadwyedd

Rydym wedi adolygu Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr2 30 o'r elusennau mwyaf3 ar gyfer y cyfnod 2006 i 2008 i weld a yw'r elusennau hyn wedi mesur ac adrodd ar eu heffaith amgylcheddol.

Rhwng 2006 a 2008, roedd nifer yr elusennau sy'n gwneud datganiad amgylcheddol wedi cynyddu ychydig (o bump i saith elusen) ac mewn rhai achosion roedd lefel yr wybodaeth wedi cynyddu a datblygu. Yn ogystal, roedd pum elusen arall wedi rhoi manylion am eu polisïau buddsoddi moesegol yn 2008. Er bod y gwelliannau yn dangos tueddiadau cadarnhaol, mae'r niferoedd yn parhau i fod yn isel, gan adlewyrchu o bosibl y ffaith bod gwaith amgylcheddol ar gyfer rhai yn rhywbeth gweddol newydd. Yr her nesaf yw ystyried y ffordd orau o fesur tystiolaeth o effaith amgylcheddol.

Rhoddwyd y darlun mwyaf manwl o weithgarwch amgylcheddol gan ddwy elusen, heb fod yn elusennau amgylcheddol penodol, ond roedd themâu amgylcheddol wrth wraidd eu gwaith.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 205846

Roedd Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • dadansoddiad o effaith newid hinsawdd ar yr arfordir y mae'n berchen arno;
  • prynu bwyd lleol sy'n cael ei ddefnyddio yn ei fwytai;
  • polisïau rheoli tir cynaliadwy;
  • lefel y trydan a ddefnyddir ac ymrwymiad i ymchwilio i hyn;
  • grantiau amgylcheddol ar gyfer yr adeiladau; a
  • chynlluniau i annog pobl i brynu bwyd lleol a chymryd camau i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

OXFAM 202918

Roedd Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • newid hinsawdd yn adroddiad y Cadeirydd;
  • nod cyhoeddedig i ymgysylltu'n gryf â newid hinsawdd;
  • datblygu mecanweithiau cadarn ar gyfer mesur ei ôl troed carbon; a
  • dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer perfformiad amgylcheddol.

Nid oes unrhyw ofyniad Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP) ar hyn o bryd i elusennau gynnwys yr wybodaeth hon yn yr adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, mae'r ddyletswydd amgylcheddol newydd i gyfarwyddwyr yn Neddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol ystyried effaith gweithrediadau'r cwmni ar y gymuned a'r amgylchedd. Mae'n arfer da, yn sicr ar gyfer elusennau mwy, i ystyried y mater hwn o ran eu gwybodaeth gyfrifyddu. Er enghraifft, gall elusennau ddewis cymryd rhan mewn mentrau arferion da megis prosiect Accounting for Sustainability a ACCA awards for sustainability.4

2. Yr hyn sy'n ysgogi ac yn rhwystro cyfrifoldeb amgylcheddol

Cyfwelwyd ag elusennau o bob lliw a llun, elusennau sy'n gweithredu'n genedlaethol neu'n rhyngwladol, ac sydd â graddfeydd amrywiol o ddiddordeb mewn materion amgylcheddol. Roedd y cyfweliadau yn ceisio tynnu sylw at y profiadau gwahanol a gafodd yr elusennau o'r materion hyn.

Nodwyd ystod o ffactorau a oedd yn ysgogi gweithgarwch amgylcheddol ac, yn yr un modd, nodwyd ystod o ffactorau a oedd yn creu rhwystrau i elusennau weithredu.

2.1. Yr hyn sy'n ysgogi ymwneud â gweithgarwch amgylcheddol

Roedd arolwg Mori yng Ngorffennaf 2007 yn dangos bod 88% o bobl o'r farn bod hinsawdd y byd yn newid a bod 78% o bobl o'r farn y byddai hyn yn broblem fawr i genedlaethau'r dyfodol.5

Mae'n amlwg bod elusennau yn cydnabod y pwyslais cynyddol ar bryderon amgylcheddol. Roedd tair elusen a gafodd eu cyfweld wedi nodi'r angen i gynnal eu henw da fel elusen oedd yn ysgogi gweithgarwch amgylcheddol. Ym marn un ymatebwr o elusen ryngwladol, roedd cyfrifoldeb gan bob sefydliad ac unigolyn i wneud yr hyn a allant.

Roedd y pethau eraill oedd yn ysgogi elusennau heb fod yn amgylcheddol i weithredu'n amgylcheddol yn cynnwys:

  • unigolyn(unigolion) allweddol o fewn yr elusen;
  • pwysau gan ddefnyddwyr gwasanaeth/aelodau;
  • staff;
  • ymddiriedolwyr;
  • ymwybyddiaeth unigol;
  • landlordiaid;
  • tystiolaeth wyddonol;
  • ethos crefyddol;
  • nod ar gyfer rhagoriaeth/arferion gorau trwy'r sefydliad; a
  • busnes craidd.

Thema gyffredin oedd bod unigolion allweddol o fewn yr elusennau yn cychwyn ac yn gweithredu mentrau amgylcheddol. Ond mynegwyd pryder pe byddai unigolyn allweddol o'r fath yn gadael, gallai'r momentwm gael ei golli.

Roedd pedair elusen y buom yn siarad â nhw wedi sôn am unigolyn, neu unigolion allweddol o fewn yr elusen oedd yn annog mwy o weithgarwch amgylcheddol. Dywedodd dwy elusen fod eu gweithgarwch amgylcheddol yn cael ei sbarduno gan eu defnyddwyr gwasanaeth neu aelodau a dywedodd dwy elusen fod staff a gwirfoddolwyr yn ymgymryd â gweithgareddau amgylcheddol ar gyfer yr elusen yn eu hamser eu hunain.

"Mae ein prif weithredwr yn ymwybodol iawn o'r amgylchedd; llawer o'n gwirfoddolwyr hefyd, ac un o'n noddwyr, ond nid yw Cyngor y Ddinas eisiau unrhyw un i yrru i mewn i'r ddinas; gallwch chi ddim byw yma a heb fod yn ymwybodol o faterion amgylcheddol."
Elusen heb fod yn amgylcheddol sy'n gweithio yn nwyrain Lloegr.

Dywedodd rhai elusennau fod aelodau staff penodol wedi cael y rôl arbennig o fod yn hyrwyddwyr ynni, neu'n aelodau o 'grŵp gwyrdd' a diben y grŵp oedd hybu ac annog gweithgarwch amgylcheddol o fewn y sefydliad.

2.2. Materion a rhwystrau i weithredu

Roedd ein cyfweliadau gydag elusennau wedi dangos mai'r rhwystrau sylfaenol a oedd yn eu hatal rhag ymgymryd â gweithgareddau mwy amgylcheddol oedd diffyg adnoddau, amser ac arian. Roedd mwy na dwy ran o dair o'r rhai a gafodd eu cyfweld wedi sôn am yr anawsterau hyn.6

"Ar hyn o bryd rwy'n delio â materion amgylcheddol. Mewn byd delfrydol byddai'n wych cael Pennaeth yr Amgylchedd a thîm o ddau neu dri sy'n gyfrifol am bob agwedd ar welliant amgylcheddol, ond rwy'n teimlo bod cael tîm a chyllideb ar ei gyfer yn bell i ffwrdd."
Cyfweliad gyda chynrychiolydd elusen genedlaethol heb fod yn amgylcheddol.

Roedd rhai elusennau, a oedd yn datblygu themâu amgylcheddol fel rhan o'u gwaith, wedi dweud ei bod yn anodd i gael cyllid grant ar gyfer gweithgareddau amgylcheddol, a dywedodd un elusen wrthym fod eu cais am grantiau yn cael eu gwrthod trwy'r amser. Teimlai'r elusen hon mai canfyddiad y rhai oedd yn rhoi grantiau oedd bod elusennau'n cynhyrchu incwm ac felly gallant gyllido'r gweithgaredd hwn eu hunain. Roedd yr elusen yn awyddus i bwysleisio, fodd bynnag, y byddai'n croesawu cymorth ychwanegol ar gyfer ochr amgylcheddol ei gwaith. Tynnwyd sylw at hyn hefyd mewn adroddiad gan The City Bridge Trust a daeth i'r casgliad mai dim ond ychydig o noddwyr fydd yn rhoi grantiau penodol ar gyfer gwelliannau amgylcheddol.7

City Bridge Trust 1035628

City Bridge Trust yw enw gweithredol braich rhoi grantiau Bridge House Estates. Gall ddefnyddio cronfeydd sydd dros ben o waith adeiladu a chynnal a chadw Pontydd Llundain i roi grantiau ar gyfer gweithgarwch elusennol sy'n cynnig budd i bobl yn Llundain.

Yn ein cyfarfod â'r elusen soniwyd am ei gwaith diweddar o dan drydydd llinyn ei hamcanion: 'dibenion elusennol eraill ar gyfer budd cyffredinol trigolion Llundain Fwyaf mewn ffyrdd y gwêl yr ymddiriedolwyr yn dda.' Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys nifer o 'eco-archwiliadau' a gafodd eu cynnal ar elusennau a gafodd grantiau, a chyhoeddwyd y casgliadau yn adroddiad City Bridge Trust: Greening the Third Sector. Yn ôl yr adroddiad hwn y prif rwystrau i weithgarwch amgylcheddol oedd:

  • absenoldeb polisi amgylcheddol clir;
  • diffyg ymwybyddiaeth;
  • prinder arian; a
  • rhwystrau ymarferol, megis meddiannu llety ar rent.

Erbyn hyn mae gan yr elusen raglen gyfredol o roi grantiau ar gyfer eco-archwiliadau i elusennau yn Llundain.

Fodd bynnag, nid cyllid grant cyfyngedig oedd y profiad i bob elusen. Dywedodd un elusen wrthym am gais cyllido llwyddiannus i weithredu system gyfrifiadurol newydd a oedd yn helpu'r elusen i weithio'n fwy electronig gan felly lleihau'r defnydd o bapur.

Hefyd gall fod rhwystrau i ddefnyddio cyllid presennol. Dywedodd un elusen wrthym y byddai'n amharod iawn i ymwneud ag unrhyw beth a allai gynyddu costau. Dywedodd un arall y byddai'r ymddiriedolwyr yn amharod i fuddsoddi mewn unrhyw beth a gafodd ei ystyried yn rhywbeth sydd y tu allan i amcanion eu helusen, ac ni fyddai'n darparu elw cyflym.

Codwyd y mater o weithgarwch amgylcheddol sydd y tu allan i amcanion penodol yr elusen hefyd fel rhwystr gan rai elusennau.

"Mae'r trydydd sector yn cael ei herio'n gynyddol ynghylch eu polisïau buddsoddi ac a ydynt yn cyfateb yn briodol â'n hamcanion elusennol. Yn yr un modd rhaid i ni hefyd ystyried a yw ein perfformiad amgylcheddol wedi'i integreiddio'n dda i'r gwasanaethau a ddarparwn."
City Bridge Trust

Wrth benderfynu p'un ai i ymgymryd ag unrhyw waith neu weithgarwch amgylcheddol neu beidio, dylai'r ymddiriedolwyr ddefnyddio'r un egwyddorion ac a fyddai'n gymwys wrth ystyried unrhyw weithgareddau eraill. Y cwestiwn allweddol yw ' Fydd y gweithgaredd hwn yn helpu hyrwyddo dibenion ein helusen?' Gall y Comisiwn ddarparu cyngor ac arweiniad i elusennau os nad yw eu hymddiriedolwyr yn sicr a yw gweithgareddau penodol yn cyd-fynd â'u hamcanion neu beidio.

Mewn achosion eithriadol, mae'n bosibl y bydd angen i ddogfen lywodraethol yr elusen gael ei diweddaru i adlewyrchu gweithgareddau newydd. Bydd rhai elusennau yn gallu gwneud y newidiadau o dan delerau dogfen lywodraethol yr elusen; gall fod angen cymorth ar eraill gan y Comisiwn Elusennau.8

Y rhwystrau eraill i weithredu'n amgylcheddol y soniwyd amdanynt gan un neu fwy o elusennau oedd:

  • Lle storio annigonol ar gyfer ailgylchu/ailddefnyddio.
  • Diffyg gwybodaeth.
  • Ddim yn gwybod beth i'w wneud.
  • Anhawster o ran newid diwylliant y sefydliad.
  • Anhawster i gael pobl i newid eu harferion.
  • Blaenoriaethau anghyson, megis y ddyletswydd gofal sy'n gofyn i elusen ddarparu polisi pensiwn sy'n cynnig y fargen orau i'w staff, ond mae'r ddyletswydd hon yn groes i benderfyniadau'r ymddiriedolwyr i ddarparu polisi pensiwn moesegol gan gyflenwr gyda phortffolio buddsoddi ecogyfeillgar.
  • Adeiladau nad ydynt yn ecogyfeillgar.
  • Landlordiaid/datblygwyr sydd heb unrhyw ddiddordeb mewn materion amgylcheddol.
  • Anhawster i gadw i fyny gyda'r arferion amgylcheddol gorau, a llunio barn amdanynt.
  • Heb fod yn fusnes craidd.
  • Amrywiadau mewn ymagwedd a pharodrwydd staff a gwirfoddolwyr unigol.
  • Staff a gwirfoddolwyr sydd â diddordeb/gwybodaeth yn symud ymlaen.
  • Y canfyddiad y dylai'r newid ddod drwy fentrau'r Llywodraeth, nid unigolion neu sefydliadau.
  • Y canfyddiad y gall cynhyrchion ac ymagweddau amgylcheddol gynnig ansawdd mwy gwael na'r dewisiadau eraill.
  • Pobl nad ydynt yn credu mewn newid hinsawdd - yn ôl arolwg Mori yn 2007, nid yw 8% o bobl yn meddwl bod hinsawdd y byd yn newid.9

3. Sut mae elusennau'n cymryd cyfrifoldeb

Yn ymarferol, mae elusennau yn gwneud gwahaniaeth mewn sawl ffordd ac yn cymryd camau ymarferol i fynd i'r afael â materion amgylcheddol. Yn aml roedd yn cael ei wneud ar lefel sylfaenol iawn, gan ddangos yr hyn y gellid ei wneud gydag amser ac adnoddau prin. Roedd eraill yn datblygu, neu eisoes wedi datblygu gweithdrefnau manwl i gynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol.

"Rwy'n dal i feddwl y gallwn ni wneud mwy yn ein swyddfa; mae bob amser rhywbeth i'w wneud i roi gwybod i bobl am y dulliau gorau o fod yn gynaliadwy. Mewn sefydliad lle mae gan bawb wybodaeth arbennig o faterion amgylcheddol, gall fod problemau o hyd. Mae pobl yma yn anghofio diffodd pethau; mae'n gwneud i mi fod mor ymwybodol o'r hyn rydym yn ei wynebu gyda sefydliadau eraill, pan nad yw'n rhywbeth penodol ar eu hagenda."
Cyfweliad gydag elusen amgylcheddol yn ne orllewin Lloegr

3.1. Ailgylchu/ailddefnyddio

Yn yr elusennau a gafodd eu cyfweld, ailgylchu oedd y gweithgaredd amgylcheddol mwyaf cyffredin. Roedd pob elusen yn ailgylchu i ryw raddau. Roedd pob elusen yn ailgylchu papur, y rhan fwyaf yn ailgylchu cetris argraffwyr, ac roedd rhai yn ailgylchu bron popeth, gan gynnwys cardfwrdd, plastig, gwydr a gwastraff organig - er bod hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar ymdrechion staff a gwirfoddolwyr yn yr elusen dan sylw.

Roedd rhai elusennau y buom yn siarad â nhw yn defnyddio cyfleusterau ailgylchu'r awdurdod lleol ond roedd rhai wedi cael problemau gyda hyn gan ddweud bod diffyg gwasanaethau o'r fath ar gael.

"Un o'r pethau rydym wedi ei chael yn anodd yn ein siopau a'n swyddfeydd yw'r diffyg gwasanaethau [ailgylchu], ond mae hynny'n newid. O fewn y 12-18 mis nesaf dylai fod modd i ni allu cael at ryw fath o wasanaeth ar gyfer ein holl adeiladau. Roedd wedi achosi problemau dros y blynyddoedd diwethaf ond mae awdurdodau lleol yn gwneud mwy erbyn hyn."
Cyfweliad gydag elusen genedlaethol

Sue Ryder Care 1052076

Mae Sue Ryder Care yn darparu gofal a chymorth trugarog i bobl sy'n byw gyda salwch a chyflyrau difrifol, yn ogystal â'u teuluoedd a'r rhai sy'n eu caru. Mae Sue Ryder Care yn ddarparwr arweiniol o ofal hosbis, gofal niwrolegol a gofal cartref, gan ddarparu gwasanaeth o'r diagnosis hyd at ofal diwedd bywyd arbenigol.

Mae enghreifftiau o'r mentrau gwyrdd y mae'r elusen yn eu defnyddio yn ei gwaith bob dydd yn cynnwys:

  • BOBB - Ymgyrch 'Bring Our Bag Back'. Mae gan yr elusen fwy na 370 o siopau elusen a, chan gydnabod y costau enfawr sy'n gysylltiedig â darparu bagiau plastig am ddim i'w gwsmeriaid, teimlai y dylai ddefnyddio'r arian yma i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn lle hynny. Mae'r ymgyrch yn gofyn i gwsmeriaid ddychwelyd eu bag siopa pan fyddant yn galw heibio'r siop nesaf er mwyn iddynt ei ailddefnyddio. Mae Sue Ryder Care yn cynnig amrywiaeth o fagiau y gellir eu hailddefnyddio o fagiau jiwt ffibr i ofyn am gyfraniad o 10c ar gyfer bag plastig y gellir ei ailddefnyddio sy'n hybu'r ymgyrch.
  • Ymgyrch 'Rags2Riches'. Mae'r elusen, am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi ymuno â rhwydwaith ailgylchu lleol a choleg cymunedol i droi dillad nad oes eu heisiau a defnyddiau bob dydd wedi'u hailddefnyddio a'u hadfer yn ddillad wedi'u hysbrydoli gan ddylunwyr.

Dywedodd Kay Barnes, Rheolwr Datblygu Busnes Sue Ryder Care: "[mae'r elusen] wedi lansio strategaeth newydd i dynnu sylw at ailgylchu ac ailddefnyddio i'n cefnogwyr. Mae'n llwyfan ffantastig i ni atgyfnerthu ein negeseuon trwy weithgareddau seiliedig yn y gymuned...yn ogystal â'r manteision amgylcheddol o beidio â thaflu unrhyw eitemau nad oes eu heisiau a pheidio â chyfrannu at dirlenwi. Trwy roi eitemau nad oes eu heisiau i'n siopau, gall pobl leol helpu Sue Ryder Care i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau'r miloedd o bobl rydym yn gofalu amdanynt bob blwyddyn".

Yn ogystal, mae'r elusen, ynghyd â sefydliadau trydydd sector eraill, wedi arwyddo Datganiad Newid Hinsawdd y Trydydd Sector,10 ac maent wedi gwneud ymrwymiad i helpu lleihau eu hôl troed carbon. Dywedodd yr elusen wrthym am ei chynlluniau i fod yr adwerthwr mwyaf ecogyfeillgar a'i chynlluniau i weithredu System Rheoli Amgylcheddol i gael achrediad ISO 14001. Mae'r dull rheoli hwn yn cynnig modd i sefydliad o unrhyw faint neu fath adnabod a rheoli effaith amgylcheddol ei weithgareddau, ei gynhyrchion neu ei wasanaethau. Mae'r elusen yn gweithio tuag at achrediad ar gyfer ei braich masnachu - Sue Ryder Care Direct, a bydd y gwersi a'r arferion a ddysgwyd yn cael eu hehangu trwy'r gadwyn adwerthu, sy'n llawer mwy cymhleth oherwydd nifer y safleoedd sydd ganddynt.

Gwelwyd bod ymwybyddiaeth o fanteision ailgylchu deunyddiau, a bod hyn yn cael ei hybu, yn ogystal ag ymwybyddiaeth ehangach o arferion ailgylchu - er enghraifft, prynu cynhyrchion megis papur wedi'i ailgylchu. Roedd elusennau eraill yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ailgylchu. Er enghraifft, roedd un elusen wedi dangos sut y mae nwyddau a roddwyd yn gwyro defnyddiau o dirlenwadau oherwydd gallai hyd yn oed garpiau gael eu rhoi i fasnachwyr a'u hailgylchu.

Dim ond dwy elusen a gafodd eu cyfweld oedd yn compostio. Dywedodd rhai elusennau nad oeddent yn gallu compostio oherwydd eu bod yn gweithredu mewn ardaloedd trefol lle nad oedd yr awdurdod lleol yn casglu gwastraff organig.

3.2. Cyflenwyr

Dywedodd mwy na dwy ran o dair o'r elusennau a gafodd eu cyfweld eu bod yn defnyddio cyflenwyr lleol lle'n bosibl, gan gydnabod y potensial ar gyfer lleihau costau teithio ac allyriadau carbon wrth gael hyd i gyflenwyr. Fodd bynnag, dywedodd un elusen wrthym ei bod yn credu bod dangos cyfrifoldeb amgylcheddol am y mater hwn yn golygu mwy na dim ond ystyried agosrwydd cyflenwyr lleol a'i bod yn ystyried 'ffactorau amgylcheddol' eraill wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Dywedodd wyth o'r un ar hugain elusen eu bod yn ystyried agweddau amgylcheddol sefydliadau eraill, o leiaf i ryw raddau, wrth ddewis cyflenwyr neu bartneriaid. Roedd gweithgaredd yn y maes hwn yn amrywiol ac yn cynnwys:

  • Elusen oedd yn cynnwys, fel rhan o'i threfn brynu, archwilio polisïau a gweithgareddau darpar gyflenwyr, er mwyn ceisio asesu eu hagwedd tuag at yr amgylchedd. Er enghraifft, dywedodd un elusen wrthym: "Os ydym yn defnyddio sefydliad i argraffu un o'n dogfennau cyhoeddusrwydd, rydym yn edrych i weld pa ddefnyddiau y maent yn eu defnyddio."
  • Elusen amgylcheddol sy'n defnyddio cyflenwr ynni gwyrdd.
  • Cael safon sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd.

"Mae gennym safon argraffu gyda ffocws cryf ar yr amgylchedd. Rydym ond yn defnyddio inciau llysieuol a phapur wedi'i ailgylchu a chwmnïau sy'n gwneud hynny 100%, felly wrth chwilio am waith mae hwnnw'n gwestiwn y byddwn yn ei ofyn. Mae ein cylchgrawn, sy'n cael ei anfon i bob un o'n haelodau, yn cael ei gynhyrchu ar bapur wedi'i ailgylchu 100%, yn defnyddio inciau seiliedig ar lysiau, ac wedi'i lapio mewn deunydd 100% bioddiraddadwy."
Cyfweliad gydag elusen amgylcheddol

3.3. Teithio a chludiant

Roedd gan fwy na dwy ran o dair o'r elusennau a gafodd eu cyfweld naill ai bolisi teithio neu gludiant ffurfiol neu anffurfiol. Roedd nifer o elusennau wedi cyflwyno mentrau gwahanol i annog teithio mwy gwyrdd o fewn eu sefydliadau, gan gynnwys:

  • parcio beiciau a chyfleusterau eraill ar gyfer beicio i'r gwaith, megis cawodydd ac ystafelloedd newid;
  • benthyciadau ar gyfer beiciau; a
  • chostau cynnal a chadw beiciau.

Roedd mentrau eraill yn cynnwys defnyddio tacsis trydanol a rhannu ceir.

Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen defnyddio ceir mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft i gludo offer trwm. Dywedodd un elusen wrthym fod rhaid iddi gludo pobl ifanc ar draws y ddinas yn ddiogel ac yn yr amgylchiadau hyn y car oedd y ffordd fwyaf boddhaol i wneud hyn.

Roedd rhai elusennau yn cynnig y dewis i staff weithio o gartref, gan ddileu'r angen iddynt deithio i'r gwaith. Roedd un elusen y buom yn siarad â hi yn cydnabod bod angen gwresogi cartref aelod staff yn y gaeaf, ond nid dyma fyddai'r achos o reidrwydd pe byddai'r unigolyn yn yr amgylchedd gwaith. Yn yr achosion hyn, teimlai'r elusen nad gweithio o gartref oedd yr ateb amgylcheddol gorau bob amser. Teimlai elusen arall bod gweithio o gartref yn adlewyrchu'r diwylliant yn y sector gwirfoddol yn hytrach na bod yn fenter gyda manteision amgylcheddol.

3.4. Rheolaeth a pholisïau amgylcheddol

Dywedodd wyth elusen a gafodd eu cyfweld fod o leiaf un polisi neu ddatganiad ysgrifenedig ganddynt, neu eu bod yn datblygu un, oedd yn cwmpasu materion amgylcheddol.

Roedd polisi caffael gan un elusen oedd yn amlinellu safonau moesegol ac amgylcheddol sylfaenol. Dywedodd yr elusen wrthym nad oedd y polisi yn rhagnodol ond yn ceisio tynnu sylw at faterion amgylcheddol pan fydd penderfyniadau caffael yn cael eu gwneud.

Pwysleisiodd elusen arall mai'r hyn sy'n allweddol wrth gyflwyno polisi oedd ei weithredu a sicrhau bod y polisi yn cael ei roi ar waith.

"Gallwch greu polisi da ond a allwch chi weithredu'r polisi, ac os gallwch, ydy unrhyw beth wedi newid o ganlyniad?"
Cyfweliad gydag elusen genedlaethol

Roedd un elusen yn galw am bolisi enghreifftiol y gellid ei addasu ar gyfer anghenion ac amgylchiadau arbennig. Er nad ydym yn ymwybodol o bolisi enghreifftiol, ar ddiwedd yr adroddiad hwn rydym wedi rhestru ffynonellau gwybodaeth a all helpu elusennau i adnabod y prif ystyriaethau wrth ysgrifennu polisi amgylcheddol.

Doedden ni ddim wedi gofyn i elusennau yn benodol a oedd systemau rheoli amgylcheddol ganddynt 11 ond, yn ddiddorol ddigon, dywedodd dwy elusen heb fod yn amgylcheddol eu bod wedi cael achrediad amgylcheddol (Safon Prydain 8555).

"Roedden ni wedi ystyried Safon Prydain 8556 a oedd fel dull chwe chymal ac yn teimlo ei bod yn dda i ni yn wyneb yr adnoddau prin sydd gennym. Nid ydym yn disgwyl cael yr achrediad gorau am amser hir, ond os ydym yn mynd trwy'r camau hyn, un ar y tro, gallwn adrodd nôl i'n cwsmeriaid wrth i ni fynd yn ein blaenau a gallant weld ble rydym yn gwneud cynnydd."
Elusen heb fod yn amgylcheddol

Roedd naw elusen wedi cynnal archwiliadau amgylcheddol ac roedd tair yn bwriadu gwneud hynny.12 Roedd chwech o'r un ar hugain elusen yn y sampl yn monitro eu gweithgareddau amgylcheddol a/neu eu heffaith mewn rhyw ffordd. Roedd gweithredu fel hyn yn rhoi gwybodaeth sylfaen i elusennau er mwyn iddynt fesur newid yn ei herbyn. Gall y broses o fesur y newid hwn helpu elusennau i benderfynu ar ble a sut i ganolbwyntio eu gweithgareddau.

Roedd un elusen yn mesur y defnydd o ddŵr ac ynni, ac roedd yn bwriadu gwneud hynny fesul awr. Yn ogystal, roedd hefyd yn cadw cofnodion o faint o wastraff oedd yn cael ei waredu a'i ailgylchu.

Roedd elusen arall heb fod yn elusen amgylcheddol wedi dechrau trwy gyfrifo ei ôl troed carbon ac yn awyddus i fesur a monitro ei heffaith. Yn y flwyddyn gyntaf roedd yr elusen wedi lleihau ei hôl troed gan ychydig mwy na phump y cant ac yn yr ail flwyddyn gan bump y cant arall.13

Dim ond dwy elusen ddywedodd eu bod yn cynnal profion effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n cynnal archwiliadau amgylcheddol bron yn sicr yn ystyried mesurau effeithlonrwydd ynni fel rhan o'r broses.

3.5. Adeiladau a thechnoleg

Drwy ein cyfweliadau gwelwyd bod adeiladau rhai elusennau yn gweithredu fel rhwystr iddynt fod yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol ond, ar gyfer eraill, roedd eu hadeiladau yn galluogi neu'n ysgogi gweithgaredd amgylcheddol. Er enghraifft, i nifer o elusennau roedd eu hadeiladau yn hen a/neu wedi'u rhentu, felly roedd hyn yn creu anawsterau mawr o ran cynyddu effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, dywedodd elusennau eraill wrthym fod eu landlord yn hwyluso gweithgareddau amgylcheddol, megis darparu cyfleusterau ailgylchu ar gyfer tenantiaid.

St Mary's Parish Centre (Ambleside) Trust 1093947

Mae'r elusen yn gweithredu'n lleol o fewn Cumbria ac mae'n ganolfan i'w defnyddio gan bobl o fewn yr ardal leol ar gyfer cyfarfodydd a chyfleusterau amser hamdden.

Roedd y Comisiwn wedi cyfweld â'r elusen yn ddiweddar ac wedi dysgu bod y ganolfan wedi agor yn 2006 a bod rhai cyfleusterau 'gwyrdd' ganddi fel gwydro dwbl, ynysiad da, a gwresogi dan y llawr. Mae'n defnyddio bylbiau goleuni hir oes hefyd. Mae'r ymddiriedolwyr wedi meddwl am fentrau amgylcheddol eraill fel ffordd o leihau costau. Er eu bod wedi ystyried cynlluniau mawr fel paneli solar, mae'r ymddiriedolwyr yn cydnabod y gall yr elusen weithredu ar raddfa fach ac arbed arian o hyd a lleihau ei hôl troed carbon. Er enghraifft, mae'r elusen yn bwriadu gwneud addasiadau i'r tapiau i atal dŵr rhag rhedeg yn ormodol a gwneud addasiadau i'r boeler er mwyn atal gwastraffu gwres.

Er mwyn asesu lefelau effeithlonrwydd a mesur cynnydd yn y dyfodol, mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn bwriadu cynnal profion effeithlonrwydd ynni am y tro cyntaf.

Mae'r ymddiriedolwyr eisoes wedi gweithredu gwelliannau syml. Mae'r rhain yn cynnwys rhesymoli'r defnydd o le i leihau unrhyw wresogi diangen, addasu thermostatau ym mhob ystafell a darparu cyflenwad wedi'i reoli'n well o ddŵr i'r wrinalau.

Dangosodd ein hymchwil bod llawer yn cael ei wneud o fewn adeiladau elusennau. Roedd rhai o'r elusennau y buom yn siarad â nhw yn gwneud defnydd o dechnoleg i leihau eu heffaith amgylcheddol. Er enghraifft:

  • Newid i sgriniau cyfrifiadurol fflat i leihau'r defnydd o ynni.
  • Buddsoddi mewn offer cynadledda fideo i leihau teithio.
  • Defnyddio Skype ar gyfer cyfarfodydd i leihau costau teithio.
  • Symud i ffeilio electronig i leihau'r defnydd o bapur.
  • Defnyddio post electronig i leihau'r defnydd o bapur.

3.6. Arbed costau

Roedd ychydig llai na hanner yr elusennau yn ein sampl wedi adrodd bod rhai o'u gweithgareddau amgylcheddol yn arbed arian ar gyfer y sefydliad. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain wedi adrodd am arbedion papur trwy naill ai ailgylchu neu symud i ffeilio electronig. Dywedodd un elusen ei bod wedi haneru ei chostau deunyddiau ysgrifennu gan ei bod yn gweithredu ffeilio electronig. Roedd un arall wedi dweud ei bod yn arbed trwy leihau gradd y papur a'r math o inciau y mae'n eu defnyddio.

3.7. Materion amgylcheddol, cymdeithasol a moesegol

Roedd bron dwy ran o dair o'r elusennau yr oeddem wedi'u cyfweld yn awyddus i bwysleisio nad yw materion amgylcheddol yn bodoli ar eu pennau eu hunain ac nid oedd modd gwahanu materion amgylcheddol yn aml o'r ffactorau cymdeithasol a moesegol.

"Y bobl y mae newid hinsawdd yn eu heffeithio gwaethaf yw'r bobl dlotaf yn y byd felly mae cysylltiad uniongyrchol."
Cyfweliad gydag elusen ryngwladol

Dywedodd un elusen wrthym ei bod yn awyddus i ddatblygu system rheoli amgylcheddol ar gyfer ei braich masnachu, gan gydnabod bod materion moesegol yn codi yn achos nifer o'r cynhyrchion a ddefnyddiwyd. Nid oedd y cynhyrchion yn rhai lleol bob amser a gallent ddod o Tsiena ac Asia. Roedd yr elusen yn pryderu am y defnydd posibl o slafdai a materion ecsploetiaeth. Roedd yr elusen eisiau sicrhau bod gweithgareddau masnachu yn y dyfodol yn ystyried y math hwn o fater moesegol.

Oherwydd natur eu gwaith, nid oedd nifer o'r elusennau a gafodd eu cyfweld yn gweld unrhyw wahaniaeth clir rhwng gweithgareddau amgylcheddol yn y gwaith a gweithgareddau amgylcheddol yn y cartref. Er enghraifft, dywedodd elusen y buom yn siarad â hi nad oedd ei hawdurdod lleol yn darparu casgliadau yn y lle gwaith ar gyfer gwydr y gellir ei ailgylchu, felly byddai'r staff a'r gwirfoddolwyr yn mynd â'r gwydr gartref i'w hailgylchu yn y cartref.

Dywedodd un elusen wrthym ei bod yn gweld cysylltiad uniongyrchol rhwng amgylchedd gwell a gwelliannau mewn materion cymdeithasol megis llai o droseddau. Dywedodd elusen arall bod ei gweithgareddau yn gysylltiedig â chyfiawnder cymdeithasol i raddau helaeth. Dywedodd un bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gallu cymuned i ddatblygu a chynnal ei hun a chynaliadwyedd amgylcheddol.

4. Elusennau yn datblygu themâu amgylcheddol

Bydd nifer o elusennau yn gwneud rhywfaint o waith amgylcheddol i hyrwyddo eu hamcanion cyfreithiol presennol, er bod ganddynt brif ddibenion sydd heb unrhyw gysylltiad â materion amgylcheddol.

O'r enghreifftiau a gafodd eu hystyried, os oedd elusennau yn ymwneud â gweithgareddau amgylcheddol roedd hyn yn hyrwyddo eu hamcanion, ac roedd y gweithgaredd ei hun yn ategu ac yn gwella gwaith presennol yr elusen.

Hefyd roedd yn glir bod yr elusennau hyn yn ymwybodol bod rhaid i'w gweithgarwch amgylcheddol gydymffurfio â'u hamcanion.

Cymorth Cristnogol 1105851 (corfforedig)

Mae Cymorth Cristnogol yn elusen ryngwladol sy'n gweithio gyda phobl dlotaf y byd, o bob ffydd a phobl heb ffydd, er mwyn mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau tlodi ac anghyfiawnder, ac ymgyrchu dros newid. Mae'n gweithio mewn tua 50 o wledydd gyda mwy na 650 o sefydliadau lleol, ble bynnag y mae'r angen mwyaf. Ei diben hanfodol yw dwyn tlodi at sylw'r byd, helpu mewn ffyrdd ymarferol i'w ddileu o'r byd a herio a newid y systemau sy'n ffafrio'r cyfoethog a'r pwerus yn hytrach na'r tlawd a'u hymyleiddio.

Mae gwaith ymgyrchu amgylcheddol yr elusen yn cael ei ysgogi gan effaith unionyrchol newid amgylcheddol ar gymunedau tlawd. Er enghraifft, mae'n amcangyfrif y gallai 182 o bobl yn Affrica is-Sahara farw o ganlyniad unionyrchol i newid hinsawdd.

Mae Cymorth Cristnogol hefyd yn gweithio gyda'i bartneriaid rhyngwladol i'w helpu i addasu i effeithiau newid amgylcheddol, ac mae'n ymrwymedig i leihau ei ôl troed carbon ei hun yn ei weithgareddau bob dydd.

Daethom ar draws un elusen oedd yn datblygu themâu amgylcheddol mewn amrywiaeth o ffyrdd.

National Federation of Women's Institutes of England, Wales, Jersey, Guernsey and the Isle of Man 803793

Mae'r elusen genedlaethol hon yn darparu cyfleoedd addysgol i fenywod, y cyfle i feithrin sgiliau newydd, a'r cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau ac ymgyrchu ar faterion sydd o bwys iddyn nhw a'u cymunedau. Mae'r elusen wedi ymgymryd â sawl prosiect amgylcheddol i gyflawni'r amcanion hyn. Er enghraifft, mae wedi:

  • Trefnu ymgyrch compostio oedd yn annog aelodau i leihau tirlenwi trwy greu bin compostio ar gyfer sbwriel organig. Bu'r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â WRAP (Waste and Resources Action Programme) oedd wedi darparu cyfres o weithdai compostio cartref.
  • Sefydlu Eco Dimau sy'n cynnwys grwpiau o aelodau sy'n cynrychioli eu cartrefi. Trwy gynnal cyfarfodydd rheolaidd, mae'r grwpiau'n dysgu sut mae eu gweithrediadau bob dydd yn effeithio ar faterion amgylcheddol, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â dŵr, ynni, gwastraff, cludiant a siopa. Mae'r Eco Dimau yn rhannu syniadau ac yn cydweithio i ddysgu sut i wneud newidiadau syml ond effeithiol i'w bywydau er mwyn bod yn fwy ecogyfeillgar ac arbed arian.
  • Sefydlu gwasanaeth tacsi am ddim o'r gorsafoedd rheilffordd a bws i annog myfyrwyr yng Ngholeg Denman, Coleg Addysg Oedolion NFWI, i deithio ar gludiant cyhoeddus.

Nid yw pob elusen yn ddigon ffodus i gael cyfleusterau sy'n ei gwneud hi'n hawdd i gymryd rhan mewn materion gwyrdd. Roedd nifer o'r elusennau y buom yn siarad â nhw wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo bod y math o weithgareddau amgylcheddol y gallent ymwneud â nhw yn dibynnu ar eu cyfleusterau yn aml.

Woodbrooke Quaker Study Centre 313816

Mae dibenion elusennol gan yr elusen hon, ar gyfer darparu cyfarwyddyd yn y ddealltwriaeth o Gristnogaeth a chrefyddau eraill o bersbectif y Crynwyr a hyfforddiant mewn Crynwriaeth bresennol, ond hefyd ar gyfer darparu cyfarwyddyd ar gwestiynau cymdeithasol ac economaidd ac agweddau eraill ar ddiwylliant deallusol. Mae'r elusen wedi cynnwys nifer o agweddau amgylcheddol yn ei gwaith bob dydd.

Mae'r elusen wedi'i lleoli o fewn amgylchedd trefol. Mae'r ganolfan ei hun yn ei thir ei hun, sy'n cynnwys ardal gadwraeth. Mae rhan o'r ardal hon wedi cael ei dynodi fel Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur.

Mae'r elusen wedi cyflwyno nifer o fentrau gwyrdd fel rhan o gynnal a chadw'r tir, gan gynnwys:

  • garddio'n organig;
  • cynhyrchu ei fwyd ei hun ar gyfer y ganolfan;
  • compostio;
  • abwydfeydd; a
  • rheoli bywyd gwyllt.

Yn ogystal, mae'r elusen wedi cyflwyno polisi cynaliadwyedd o'r enw Good Practice Menu sy'n hybu ystod o arferion cynaliadwy, gan gynnwys gofynion rheoli ynni sy'n argymell defnyddio bylbiau goleuni ynni isel a nodi y dylid diffodd peiriannau ac nid eu gadael ar 'standby'. Ond mae'r prif broblemau 'amgylcheddol' a brofir gan yr elusen yn ymwneud â'u hadeiladau. Mae'r adeiladau ar y safle yn dyddio'n ôl 200 o flynyddoedd ac mae unrhyw addasiadau i'w gwneud yn fwy ecogyfeillgar yn anodd.

5. Elusennau amgylcheddol

Roedd y sampl o elusennau a gafodd eu cyfweld yn cynnwys rhai elusennau a gafodd eu sefydlu ar gyfer dibenion amgylcheddol yn unig. Drwy hyn cawsom wybod sut yr oedd elusennau yn mynd i'r afael â materion amgylcheddol mewn cymdeithas, a sut yr oedd yr elusennau arbenigol hyn yn cymhwyso'r arferion amgylcheddol da yr oeddent yn eu hybu yn eu gweithdrefnau mewnol eu hunain a gweithgareddau swyddfa.

Er y bu elusennau'n gweithio tuag at achosion amgylcheddol am flynyddoedd lawer, dim ond yn weddol ddiweddar y mae gweithgarwch amgylcheddol wedi bod yn ddiben elusennol ei hun.

 

5.1. Amcanion amgylcheddol ar waith

Mae elusennau sy'n gweithredu gydag amcanion amgylcheddol yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau i helpu mynd i'r afael ag amryw o faterion amgylcheddol, o fynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd i hybu ynni cynaliadwy. Edrychwyd ar y Gofrestr Elusennau i gael blas ar amcanion a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch amgylcheddol. Roedd y rhain yn cynnwys.

  • Teithio'n wyrddach: "Gwarchod a diogelu'r amgylchedd trwy hybu dulliau effeithlon o deithio, gan gynnwys rhannu cerbydau" Dial-A-Ride (North Denbighshire) Limited 1071162
  • Gwastraff ac ailgylchu: "Hybu er budd cyhoeddus arferion rheoli gwastraff sy'n hybu cadwraeth, diogelu, gwella a chynnal yr amgylchedd ffisegol a naturiol yn Llundain a'r cyffiniau" London Waste Action 1067460

Yn ymarferol, mae'r elusen hon yn ceisio annog ailwampio ar gyfer ailddefnyddio neu ailbrosesu, er mwyn i'r defnyddiau mewn cynnyrch gael eu troi'n ddefnyddiau newydd (wedi'u hailgylchu). Os nad yw'r naill ddull yn bosibl yn economaidd, bydd gwastraff yn cael ei brosesu i adfer rhyw werth cynhenid arall fel ynni.

  • Newid hinsawdd: "Hybu er budd y cyhoedd ddiogelu systemau hinsawdd y byd mewn rhannau arbennig o'r byd a thrwy ddulliau elusennol fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn dda o bryd i'w gilydd." Climate Change Organisation 1102909
  • Cynaliadwyedd:"...gwarchod a gwella'r amgylchedd ffisegol a naturiol trwy hybu cynaliadwyedd a bioamrywiaeth hirdymor yng nghoetiroedd Lloegr..." Forest Inspirations Charitable Trust 1122136

A: "Hybu cadwraeth, diogelu a gwella cynefinoedd naturiol a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor cynefinoedd o'r fath..." International Eco Fund 1115374

  • Addysg a'r Celfyddydau: Mae'r Eco Trust yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n dathlu dawn greadigol ac yn ysbrydoli ffyrdd o fyw ecogyfeillgar, gwyrddach a mwy cynaliadwy. Mae ei hamcanion yn adlewyrchu'r nod hwn:1) Hyrwyddo addysg y cyhoedd trwy gynyddu eu gwybodaeth, a'u gwerthfawrogiad, a'u hymwneud â'r celfyddydau a diwylliant a 2) Hyrwyddo addysg y cyhoedd trwy gynyddu eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o'r amgylchedd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Eco Trust UK1106959.

Yn ymarferol, mae'r elusen hon yn ceisio hybu ffordd o fyw sy'n edrych ar ganlyniadau gweithrediadau cymdeithas. Mae'n ceisio hybu dealltwriaeth a gweithio gyda phrosesau naturiol i ddangos i bobl yr effaith y maent yn ei chael ar ein hamgylchedd, a'u helpu i gymryd camau i leihau'r effaith honno trwy arbrofi gyda ffyrdd o fyw eraill.

  • Cyffredinol: Mae amcanion rhai elusennau wedi'u geirio'n gyffredinol iawn, gan gynnig y potensial ar gyfer gweithgareddau amgylcheddol amrywiol (er nad dyma'r achos yn ymarferol o reidrwydd). Er enghraifft: "Er budd y cyhoedd yn gyffredinol, gwarchod cefn gwlad a gwella'r amgylchedd gyda'r nod o ddiogelu iechyd meddwl a chorfforol y cyhoedd." Y Ganolfan Dechnoleg Amgen Gyfyngedig 265239

Ymddiriedolaeth Cyfeillion y Ddaear Gyfyngedig 281681

Mae Ymddiriedolaeth Cyfeillion y Ddaear Gyfyngedig yn elusen amgylcheddol sy'n gweithredu'n genedlaethol a thramor. Roedd wedi disgrifio ei hamcanion yn ei Ffurflen Gwybodaeth Gryno ddiweddaraf fel:

"...yn ymrwymedig i warchod, diogelu a gwella'r amgylchedd. Mae'n hybu datblygiad cynaliadwy ar gyfer budd y cyhoedd; yn ymgyrchu; yn gwneud gwaith ymchwil, addysg a chyhoeddi; ac yn darparu gwasanaeth gwybodaeth ar broblemau amgylcheddol a chynnig eu hateb"

Roedd yr elusen wedi sôn wrthym am y ffyrdd amrywiol yr oedd yn mynd i'r afael â materion amgylcheddol trwy ei gweithrediadau bob dydd.

Er enghraifft, roedd yr elusen wedi cynnal archwiliadau amgylcheddol yn 2002, a 2006 ac yn 2007 fe sefydlodd raglen monitro'r amgylchedd i fonitro a lleihau'r adnoddau yr oedd yr elusen ei hun yn eu defnyddio.

Mae gan yr elusen 'hyrwyddwyr gwyrdd.' Grŵp bach o bobl yw'r rhain sy'n annog staff a gwirfoddolwyr i fod yn gyfrifol am yr amgylchedd. Maen nhw'n llunio adroddiadau monitro amgylcheddol rheolaidd i staff sy'n tynnu sylw at bethau fel lleihau'r defnydd o bapur a chynyddu ailgylchu, ac ati.

Mae rhan o raglen sefydlu reolaidd yr elusen yn cynnwys 'sesiwn sefydlu gwyrdd' i bob aelod staff a'r gwirfoddolwyr. Mae'r sesiwn sefydlu yn codi ymwybyddiaeth ymysg y rhai sy'n newydd i'r elusen o weithdrefnau mewnol 'gwyrdd' yr elusen a'r hyn y caiff pobl ei annog i'w wneud yn yr adeilad, lleoliad pwyntiau ailgylchu ac ati.

Wrth ailwampio rhan o'r adeilad yn ddiweddar, roedd yr elusen wedi sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud drwy ddefnyddio defnyddiau cynaliadwy. Er enghraifft, roedd y desgiau wedi'u gwneud o bapur wedi'u hailgylchu. Fodd bynnag, dywedodd yr elusen nad oedd yn gallu gwneud popeth a hoffai. Er enghraifft, mae adeilad yr elusen yn hen iawn, ac nid oes unrhyw wydro dwbl sy'n lleihau ei heffeithlonrwydd ynni. Gan fod yr adeilad ar brydles, mae'r elusen o'r farn nad yw'n ymarferol i wario arian ar fesurau arbed ynni pellach. Hefyd mae'n ceisio defnyddio lle yn fwy effeithlon trwy ei dulliau gweithio yn y tymor byr ac, yn y tymor hir, mae'n ystyried symud ei phrif swyddfa.

5.2. Ymgyrchu

O'n gwaith ymchwil, mae'n amlwg bod nifer o elusennau amgylcheddol yn ymgyrchu i hybu'r gwaith amgylcheddol a wnânt. Yn ôl y rhai a gafodd eu cyfweld, mae ymgyrchu yn cael diffiniad bras ac mae'n cynnwys, er enghraifft, codi ymwybyddiaeth staff a gwirfoddolwyr o fewn y sefydliad, yn ogystal â chefnogi sefydliadu sector gwirfoddol eraill sy'n ymwneud ag ymgyrchu amgylcheddol.

London Cycling Campaign 1115789

Mae'r London Cycling Campaign yn elusen sy'n gweithredu'n lleol ac yn ceisio cynyddu beicio yn Llundain er budd unigolion, cymunedau lleol a'r amgylchedd. Mae ei hamcanion yn cynnwys ymgyrchu yn benodol:

"Hybu cadwraeth a gwarchod yr amgylchedd...a lobïo ac ymgyrchu ar faterion sy'n ymwneud â beicio a mathau eraill o gludiant."

Mae'r elusen yn hybu beicio mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:

  • darparu grantiau, cyngor ar feicio i grwpiau cymunedol a'r cyhoedd, gan gynnwys hwyluso mynediad i grantiau ar gyfer mentrau beicio;
  • datblygu ymgyrchoedd grŵp a gweithgareddau lleol; a
  • hybu manteision beicio, megis iechyd gwell, llai o allyriadau carbon ac amgylchedd glanach, mwy pleserus.

Mae enghreifftiau o waith LCC yn cynnwys:

  • canllawiau beicio lleol Llundain, wedi'u cynhyrchu mewn partneriaeth â Transport for London;
  • mewnbwn allweddol a threfnu taith beicio London Freewheel i filoedd o feicwyr; a
  • chyfrannu at gynlluniau gwella cynlluniau ffyrdd er mwy cynnig budd i ddefnyddwyr beiciau fel rhan o brosiect Rhwydwaith Beicio Llundain.

Yn ddiddorol, roeddem wedi cyfweld â rhai elusennau a oedd yn ymwneud â rhyw fath o ymgyrchu amgylcheddol er nad oedd dibenion cysylltiedig â'r amgylchedd ganddynt.

Dywedodd un elusen ei bod eisiau gwneud mwy o ymgyrchu gwleidyddol a bod ein canllaw Dweud eich Dweud: Canllaw ar Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9) yn ddefnyddiol wrth wneud penderfyniadau.

Casgliadau ac argymhellion

  • Er nad yw'r gyfraith elusennau yn ei gwneud hi'n ofynnol i elusennau sydd heb ddibenion elusennol amgylcheddol ymwneud â gweithgareddau amgylcheddol, mae'r Comisiwn Elusennau yn cefnogi ac yn annog pob elusen sy'n ystyried datblygu arferion cynaliadwy amgylcheddol lle'n bosibl fel ffordd o sicrhau eu heffeithiolrwydd mwyaf.
  • Mae'n amlwg y gall pob elusen wneud gwahaniaeth trwy eu gweithgareddau. Mae nifer ohonynt eisoes yn gweithredu er mwyn bod yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol ac, yn achos elusennau corfforedig, mae Deddf Cwmnïau 2006 yn rhoi cylch gorchwyl uniongyrchol iddynt wneud hynny.
  • Ar hyn o bryd, mae rhai elusennau yn dibynnu ar unigolion allweddol sy'n chwarae rôl hanfodol o ran helpu elusennau i leihau eu heffaith amgylcheddol. Mae'r cymorth y mae'r unigolion hyn yn allweddol i weithgarwch amgylcheddol cyfrifol elusennau.
  • Os yw'n briodol, dylid ystyried cydnabod ymdrechion unigolion yn ffurfiol. Gellid gwneud hyn trwy wneud mentrau amgylcheddol yn rhan unigryw o'u rôl, neu trwy blannu mentrau mewn prosesau gweithio a gweithdrefnau ffurfiol yr elusen.
  • Mae gweithgarwch amgylcheddol yn faes lle y gall elusennau ddysgu oddi wrth ei gilydd ac mae potensial i elusennau rannu gwybodaeth, profiad ac arferion. Roedd gwaith ymchwil blaenorol gan y Comisiwn, Cydweithio a Chyfuniadau (RS4), wedi canfod bod trefniadau cydweithio yn gallu gweithio trwy rannu sgiliau a phrofiad er budd y ddwy elusen, hyd yn oed os yw elusennau'n gweithredu mewn meysydd gwahanol.
  • Er bod cyfrifoldeb amgylcheddol yn fater y mae elusennau yn ei gymryd o ddifrif, gellid gwneud mwy i fonitro effaith eu hymdrechion, er enghraifft trwy ddefnyddio archwiliadau amgylcheddol rheolaidd a gweithredu system rheoli amgylcheddol os yw'n ymarferol.
  • Mae'r casgliadau yn dangos tystiolaeth o bryderon ynghylch cyllido mentrau amgylcheddol. Rhaid i noddwyr weld mentrau amgylcheddol fel cost ddilys er mwyn helpu elusennau i wneud cynnydd yn y maes hwn.
  • Er nad yw mesurau amgylcheddol sy'n golygu newidiadau costau yn ddewis i elusennau fel arfer, mae llawer y gellir ei wneud sy'n costio ychydig neu ddim o gwbl. Hefyd gall gweithgarwch amgylcheddol greu arbedion cost hefyd, sy'n ychwanegu at yr angen i bob elusen ystyried y maes gweithgarwch hwn.
  • Gall datblygu unrhyw ofynion adrodd yn y dyfodol chwarae rhan bwysig o ran datblygu arferion da yn y maes hwn. Yn y cyfamser, mae lle i elusennau gymryd rhan yn y prosiect Accounting for Sustainability a ACCA awards for sustainability.
  • Mae'n fwyfwy amlwg bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn fater na all elusennau, fel rhannau eraill o gymdeithas, ei anwybyddu. Mae elusennau'n bodoli i hyrwyddo eu dibenion elusennol trwy ateb anghenion y buddiolwyr y maent yn bodoli i'w gwasanaethu. Fel rhan o weithgareddau ehangach i gefnogi hyn, os oes ffyrdd o wella enw da elusennau a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, neu drwy beidio â gweithredu gael effaith negyddol o bosibl, rhaid ystyried o ddifrif sut i ymateb i'r mater hwn.

Atodiad A - Technegau ymchwil

Roedd ein hymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn yn ansoddol ei natur yn unig. Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn gydag un ar hugain, gyda lefelau o elusennau, diddordeb amrywiol mewn materion amgylcheddol. Roeddent yn cynnwys elusennau seiliedig yn lleol gyda llai na dau aelod staff, yn ogystal ag elusennau sy'n gweithredu'n rhyngwladol gyda chyllidebau mawr.

Roedd yr elusennau'n cynnwys tair elusen amgylcheddol, un ar ddeg elusen heb fod yn amgylcheddol, a saith elusen heb fod yn amgylcheddol oedd wedi datblygu agwedd amgylcheddol ar gyfer rhan o'u gwaith.

Gofynnwyd cwestiynau manwl i'r rhai a gafodd eu cyfweld am weithgareddau amgylcheddol yr elusen a sut oedd y rhain yn cyd-fynd â nodau ac amcanion elusennol yr elusen.

Atodiad B - Rhai cwestiynau cyffredin a ofynnir i'r Comisiwn am elusennau a gweithgarwch amgylcheddol

Nodwyd isod rhai atebion i gwestiynau y mae elusennau wedi'u gofyn am eu gweithgareddau amgylcheddol. Gobeithio eu bod yn ddefnyddiol i elusennau sy'n ystyried pa rôl y dylent ei chwarae o ran gwella cyfrifoldeb amgylcheddol yn y ffordd y maent yn gweithio.

C. Mae rhai mesurau y gall elusennau eu cymryd i wella effaith amgylcheddol eu hadeiladau a gall y ffordd y maent yn gweithio greu arbedion cost. Gallai eraill gynnwys cost sylweddol - megis gosod paneli solar er enghraifft. Oes hawl gan elusennau wario eu harian fel hyn?

A. Oes, ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr yn hapus ei fod yn rhesymol i wneud hynny a bydd yn cynnig modd iddynt gyflawni eu dibenion elusennol yn effeithiol ar ôl ystyried y ffactorau perthnasol. Os bydd y mesurau hyn yn lleihau costau i elusen, er enghraifft, diffodd cyfeiriaduron personol ar ddiwedd y dydd, bydd yr elusen yn gwneud y defnydd mwyaf o'u hadnoddau, rhywbeth y mae'n ofynnol iddynt ei wneud beth bynnag. Os yw costau'n codi, teimlwn ei fod yn rhesymol i ymddiriedolwyr wneud hyn os ydynt wedi cydbwyso'r gost ychwanegol o fesurau amgylcheddol yn erbyn ffactorau eraill megis manteision i'w henw da a hyder rhoddwyr.

C. Ble allwn ni gael mwy o wybodaeth ymarferol am y mesurau mewnol y gall ein helusen eu cymryd?

A. Mae nifer o adnoddau y gall elusennau gyfeirio atynt am gyngor ymarferol, gan gynnwys Defra (www.defra.gov.uk), Every Action Counts (www.everyactioncounts.org.uk), Carbon Trust (http://www.carbontrust.co.uk/) a Nottingham CVS (http://www.nottinghamcvs.co.uk/green/index.htm).

C. Rydym yn ystyried symud i adeiladau newydd. Pa fath o ffactorau amgylcheddol ddylem ni eu hystyried? Beth os yw sicrhau ein bod yn symud i adeiladau newydd sy'n ynni effeithlon ac yn ecogyfeillgar yn golygu ei fod yn fwy drud?

A. Mae sefydliadu arbenigol a all roi cyngor da ar adeiladau. Fel y nodwyd uchod, os yw dewis adeilad ecogyfeillgar yn golygu costau uwch, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydbwyso'r gost ychwanegol yn erbyn ffactorau eraill megis buddiannau i'w henw da a hyder rhoddwyr. Byddai'n ddefnyddiol meddwl am fesurau eraill y gellid eu cymryd, megis defnyddio cyflenwyr ynni 'gwyrdd' a sicrhau bod yr adeiladau wedi'u hynysu'n dda.

C. Oes rhaid i elusennau weithredu'n amgylcheddol?

A. Nac oes. Yr ymddiriedolwyr sy'n penderfynu a yw ymwneud â gweithgareddau amgylcheddol er lles gorau'r elusen a'r ffordd fwyaf effeithiol o hyrwyddo eu dibenion elusennol.

C. Rydym yn elusen fach iawn, felly os ydym yn penderfynu gwario arian ar fesurau mewnol neu wyro adnoddau i weithgareddau amgylcheddol fel ffordd o hyrwyddo ein hamcanion, mae'n debygol o gymryd cyfran uchel iawn o'n hamser a'n hadnoddau. Nid yw'n deg na allwn wneud rhywbeth i helpu'r amgylchedd dim ond oherwydd na allwn fforddio gwneud pethau eraill yr un pryd.

A. Y cwestiynau i'w ofyn yw: faint o amser sy'n debygol o fod ei angen? Faint fydd y gost? Pa mor effeithiol fydd hyn? Os yw ymwneud â gweithgareddau amgylcheddol yn mynd i olygu neilltuo amser ac adnoddau afresymol yn y tymor hir, mae'n rhaid i chi ystyried a yw'n ddefnydd effeithiol o'ch adnoddau, a hefyd y risgiau i'ch enw da os ydych yn cymryd rhan neu beidio.

C. Nid yw amcanion ein helusen yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at yr amgylchedd. Oes hawl gennym hybu gwarchod yr amgylchedd yn ein gwaith, neu a fyddem yn cyflawni tor-ymddiriedaeth?

A. Mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i elusennau weithredu o fewn eu hamcanion, sy'n golygu bod rhaid i'w holl asedau gael eu defnyddio i hybu'r amcanion hynny yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Byddai'r Comisiwn yn annog elusennau i archwilio eu hamcanion i gyd heb weithredu y tu allan iddynt. Os caiff ei herio, rhaid i'r ymddiriedolwyr allu dangos, gyda thystiolaeth, bod cyswllt rhwng eu gweithgareddau a sut mae eu dibenion elusennol yn cael eu bodloni.

C. Pa fath o waith allem ni ei wneud o fewn ein hamcanion?

A. Wrth benderfynu gweithredu'n amgylcheddol neu beidio, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn yr union un egwyddorion ag y byddant yn eu dilyn wrth ystyried unrhyw ddulliau posibl eraill o gyflawni dibenion yr elusen. Yn y pen draw yr ymddiriedolwyr sy'n penderfynu pa weithgareddau sy'n hyrwyddo amcanion yr elusen orau, a gall y Comisiwn ddarparu cyngor ac arweiniad i ymddiriedolwyr sy'n ansicr. Gallai rhai enghreifftiau o elusennau sydd heb amcanion ar gyfer cadwraeth yr amgylcheddol ond a all serch hynny wneud gwaith amgylcheddol sy'n hyrwyddo eu hamcanion presennol gynnwys:

  • Elusen gydag amcanion 'lleddfu tlodi' sy'n ymwneud â phrosiectau amgylcheddol oherwydd bod tystiolaeth ganddynt fod effeithiau newid hinsawdd yn cyfrannu at dlodi mewn rhai rhannau o'r byd a gall eu hymdrechion helpu lleihau'r effeithiau hyn.
  • Elusen gydag amcanion 'lleddfu salwch' neu 'hybu iechyd' sy'n ymchwilio i effeithiau llygredd ar achosion salwch, neu sut y mae ffactorau amgylcheddol yn effeithio ar wellhad y rhai sy'n dioddef salwch arbennig.

C. Nid yw ein hamcanion yn rhoi unrhyw ryddid i ni weithredu'n amgylcheddol a hoffem newid ein hamcanion. Sut ydym ni'n gwneud hynny?

A. Efallai y bydd rhai elusennau eisiau cymryd pethau cam ymhellach a mabwysiadu amcan sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd. Bydd angen Cynllun gan y Comisiwn ar elusennau anghorfforedig yn ôl pob tebyg er mwyn newid eu hamcanion, a byddai'n rhaid iddynt fodloni'r prawf 'cy-près' o dan adran 13 Deddf Elusennau 1993. Mae'r newidiadau i'r ddarpariaeth cy-près a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 yn nodi bod yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd cyfredol yn faterion priodol i'w hystyried pan fydd elusen anghorfforedig yn gwneud cais am gynllun cy-près. Ni ddiffinnir ystyr 'amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd' yn y Ddeddf, ond yn sicr mae'n bosibl y gallai materion amgylcheddol fod yn berthnasol yma. Rhaid i gwmnïau elusennol wneud cais i'r Comisiwn Elusennau am gydsyniad i newid eu hamcanion o dan adran 64 Deddf Elusennau 1993.

Os ydych yn ansicr o gwbl am yr hyn y gall ac ni all elusennau ei wneud o ran prosiectau gwyrdd o dan y gyfraith elusennau cysylltwch â ni am gyngor ac arweiniad.

Atodiad C - Adnoddau

Mae rhai adnoddau y gall ymddiriedolwyr elusen a staff eu defnyddio i'w helpu wrth ystyried materion amgylcheddol pan fyddant yn gweinyddu eu helusen. Er nad yw hon yn rhestr derfynol neu gyflawn, mae'n cynnig trosolwg da ac mae'n fan cychwyn defnyddiol.

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o ganllawiau print ac ar-lein hefyd sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd am faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arferion gorau. Fe welwch restr lawn o'n canllawiau ar ein gwefan ac yn ein cyhoeddiad CC1.

Sut i gysylltu â ni

Cewch fwy o wybodaeth am y Comisiwn ac ystod o ganllawiau i elusennau ar ein gwefan neu drwy gysylltu â'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol:

Ffôn: 0845 300 0218 (codir galwadau ar gyfradd leol)

Typetalk: 0845 300 0219

Trwy'r post:

Y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG

Ffynonellau gwybodaeth

Mae ffynonellau gwybodaeth wedi cael eu grwpio o dan y penawdau canlynol:

  • Hyfforddiant a chymorth
  • Caffael
  • Gwybodaeth am deithio
  • Adrodd
  • Buddsoddiad moesegol

Hyfforddiant a Chymorth

Every Action Counts
Gwefan: www.everyactioncounts.org.uk
Mae Every Action Counts yn fenter a gefnogwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac yn cael ei gyflwyno trwy gonsortiwm o gyrff sector gwirfoddol a chymunol. Mae'n rhoi cyngor a chymorth i gyrff gwirfoddol a chymunedol sydd eisiau lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, mynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella eu hardal leol.

Federation of Community Development Learning - sustainable development taster session packs
Gwefan: http://www.fcdl.org.uk/
Fel rhan o'r rhaglen Every Action Counts, mae'r Ffederasiwn wedi defnyddio grwpiau cymunedol i hybu neges datblygiad cynaliadwy y llywodraeth. Mae wedi cynhyrchu deunyddiau hyfforddi enghreifftiol y gellid eu defnyddio gydag aelodau o grwpiau cymunedol, pobl sy'n gweithio yn y gymuned a gweithwyr datblygiad cymunedol.

Carbon Trust
Gwefan: http://www.carbontrust.co.uk/
Mae'n gweithio gyda sefydliadau i leihau eu hôl troed carbon a, chyda chymorth y Comisiwn Elusennau, mae wedi cynhyrchu cyhoeddiad penodol i elusennau CTV036 - Charities Sector Overview.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn ystyried ffyrdd cost isel a dim cost i elusennau o bob lliw a llun leihau eu hallyriadau carbon a rheoli eu defnydd o ynni yn fwy effeithiol. Mae'n cynnwys goleuni, gwresogi ac awyru, rheolaeth adeiladu, arlwyo a chadw tŷ cyffredinol yn ogystal â chynnig cyngor ar greu a chynnal ymwybyddiaeth.

Energy Savings Trust
Gwefan: Mae www.energysavingtrust.org.uk
Mae Community Action for Energy (CAfE) yn rhaglen Energy Savings Trust sy'n ceisio hybu a hwyluso prosiectau ynni seiliedig yn y gymuned leol.
Mae CAfE yn rhwydwaith o bobl sydd â diddordeb mewn prosiectau a syniadau ynni cymunedol. Mae aelodaeth o'r rhwydwaith yn rhad ac am ddim a gall aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fentrau ynni yn y gymuned, yn ogystal â chlywed am gyfleoedd cyllido, sesiynau hyfforddi a newyddion o'r rhwydwaith.

Action for Sustainable Living
Gwefan: www.afsl.org.uk/
Mae Action for Sustainable Living (AfSL) yn elusen sy'n helpu pobl i fyw yn fwy cynaliadwy gan ganolbwyntio ar newidiadau syml fydd yn gwneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo. Ar hyn o bryd mae'n gweithredu ym Manceinion, Trafford a Lerpwl, ac ar gael i weithio mewn rhannau eraill o'r DU.

Groundwork UK
Gwefan: www.groundwork.org.uk
Mae Community Spaces (www.community-spaces.org.uk/) yn rhaglen grantiau agored £50 miliwn sy'n cael ei rheoli gan Groundwork UK fel Partner Dyfarniad i'r Gronfa Loteri Fawr. Mae'r rhaglen yn helpu grwpiau cymunedol i greu neu wella mannau gwyrdd ac agored er mwyn gwella ansawdd bywyd mewn cymdogaethau ledled Lloegr.

Green Space Community Network
Gwefan: www.green-space.org.uk/
Mae'r rhwydwaith yn ceisio creu amgylchedd lle mae gwybodaeth berthnasol ar gael yn hawdd, er mwyn galluogi grwpiau cymunedol i ateb problemau yn gyflym gydag atebion adeiladol yn seiliedig ar brofiadau pobl eraill.

The Charities Facilities Management Group
Gwefan: www.upkeep.org.uk/
Mae'r Grŵp yn ystyried sut y gall elusennau weithio i gorffori egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn eu gweithgareddau bob dydd. Mae gan yr aelodau ddiddordeb ym mhob agwedd ar gynaliadwyedd, o gadwraeth ynni i gaffael moesegol. Mae'r Grŵp wedi paratoi polisi enghreifftiol y gall elusennau ei fabwysiadu.

Caffael

Bydd rhai elusennau eisiau gwybod mwy am eu cyflenwyr neu am ddewisiadau caffael neu deithio sy'n fwy ecogyfeillgar.

Forum for the Future - Buying a Better World & the Sustainable Procurement Toolkit
Gwefan: www.forumforthefuture.org.uk
Er bod y cyhoeddiad hwn wedi'i anelu at sefydliadau mwy, gall fod yn ddefnyddiol i elusennau sy'n gweithio gyda'r cyrff cyhoeddus hynny sy'n defnyddio'r pecyn cymorth.

Ethical Consumer
Gwefan: www.ethicalconsumer.org
Mae'r fenter gymdeithasol ddielw hon yn cynnig ystod o wasanaethau ymchwil annibynnol ar gyfer sefydliadau, busnesau ac unigolion.

Gwybodaeth am deithio
Cynllun teithio yr Adran Drafnidiaeth
Gwefan: www.dft.gov.uk/pgr/sustainable/travelplans
Mae'r safle yn darparu gwybodaeth am gynlluniau teithio, sy'n becyn o fesurau wedi'i gynhyrchu gan gyflogwyr i geisio annog staff i ystyried dewisiadau eraill yn lle teithio yn y car ar eu pennau eu hunain.

Transport Direct - Britain's free online journey planner
Gwefan: www.transportdirect.info
Mae Transport Direct yn darparu cyngor ar gynlluniau teithiau ac mae'n cynnwys manylion am allyriadau CO2 o'r teithiau a gynllunnir.

Adrodd

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw brosiectau elusen-benodol ar adrodd amgylcheddol. Fodd bynnag, mae'r prosiectau canlynol wedi dweud y byddent yn croesawu mwy o elusennau i gymryd rhan yn eu gwaith.

Accounting for Sustainability
Gwefan: www.sustainabilityatwork.org.uk/
Lansiodd Tywysog Cymru brosiect yn 2006 i annog arferion ac adrodd cynaliadwy mewn busnes a sefydliadau eraill. Mae'n ceisio helpu sefydliadau i asesu'n well y difrod y maent yn ei achosi i'r blaned ac ystyried ffactorau o'r fath wrth iddynt wneud penderfyniadau. Mae'r wefan The Sustainability at Work yn gymorth i gorffori cynaliadwyedd trwy weithgareddau sefydliad, gan gynnwys adrodd.

ACCA awards for sustainability reporting
Gwefan: www.accaglobal.com/publicinterest
Nod y gwobrau yw adnabod a gwobrwyo ymdrechion arloesol i gyfathrebu perfformiad corfforaethol, ond nid ydynt yn cynnig sylwadau ar y perfformiad ei hun. Ei nod yw gwobrwyo tryloywder.

Elusennau sydd eisoes yn adrodd yn eu cyfrifon

Mae'r elusennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth am eu heffaith amgylcheddol gweithredol neu gynaliadwyedd yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Mae amrywiaeth o ffurfiau i'r datgeliadau hyn oherwydd nid oes unrhyw ofyniad ar hyn o bryd i baratoi datgeliad o'r fath ac felly nid oes unrhyw fformat awgrymedig neu ofynnol. Mae rhai ohonynt hefyd yn cyhoeddi eu dogfen bolisi neu fanylion eu hôl troed carbon ar eu gwefan.

Oxfam
Gwefan: www.oxfam.org.uk

Eden Project
Gwefan: www.edenproject.com/documents/EdenAnnual_Review_0607.pdf

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Gwefan: www.nationaltrust.org.uk/main/w-annual_report_07.pdf

Cymorth Cristnogol
Gwefan: www.christianaid.org.uk

Traidcraft Exchange
Gwefan: www.traidcraft.co.uk

Diolchiadau

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cydweithredu i gynhyrchu'r adroddiad hwn, yn enwedig yr elusennau a roddodd o'u hamser i gymryd rhan yn ein harolwg, a gymerodd rhan yn y gwaith ymchwil ansoddol ac a roddodd ganiatâd i rannu eu profiadau trwy'r astudiaethau achos.

Hoffem ddiolch yn arbennig i Helen Kara o We Research It am ei chymorth a'i mewnwelediad gwerthfawr yn ystod y broses o ymchwilio a dadansoddi'r canlyniadau.

Troednodiadau

1. Gweler Atodiad B am yr atebion i rai cwestiynau cyffredin a ofynnir i'r Comisiwn Elusennau am elusennau a gweithgarwch amgylcheddol.

2. Yn seiliedig ar incwm elusennau yn 2006.

3. Yn seiliedig ar incwm elusennau yn 2006.

4. I wybod mwy am Accounting for Sustainability, ewch i: http://www.sustainabilityatwork.org.uk/. I wybod mwy am ACCA awards for sustainability reporting, ewch i: www.accaglobal.com/publicinterest.

5. www.ipsos-mori.com/content/polls-07/green-britain-survey.ashx.

6. 16 o 21 elusen.

7. Greening the Third Sector, The City Bridge Trust, 2007.

8. Fe gewch wybodaeth ar sut i wneud hyn yn ein Cwestiynau Cyffredin 'Newidiadau i ddogfennau llywodraethol' ar wefan y Comisiwn Elusennau www.charitycommission.gsi.gov.uk.

9. www.ipsos-mori.com/content/polls-07/green-britain-survey.ashx.

10. Am fwy o wybodaeth ewch i www.everyactioncounts.org.uk/declaration.

11. Mae system rheoli amgylcheddol yn rhan o system reoli sefydliad, sy'n diffinio'r cymwyseddau, ymddygiad, gweithdrefnau a gofynion penodol sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu polisi amgylcheddol gweithredol ar gyfer y sefydliad. Dylai gweithredu system gadarn, a all gynnwys ISO 14001, arwain at wella perfformiad amgylcheddol, gan gynnwys cydymffurfiaeth cyfreithiol gwell a mwy cyson.

12. Mae archwiliadau amgylcheddol yn bwriadu meintioli perfformiad amgylcheddol a'r sefyllfa amgylcheddol. Drwy wneud hyn, maent yn cyflawni swyddogaeth sy'n debyg i archwiliadau ariannol. Yn ddelfrydol bydd archwiliad amgylcheddol yn cynnwys datganiad o berfformiad amgylcheddol a sefyllfa amgylcheddol, a gall hefyd geisio diffinio beth sydd angen ei wneud i gynnal neu wella dangosyddion perfformiad a sefyllfa o'r fath.

13. Er enghraifft, mae cyhoeddiad y Carbon Trust CTV036 - Charities Sector Overview yn ystyried ffyrdd cost isel a dim cost i elusennau leihau eu hallyriadau carbon a rheoli eu defnydd o ynni yn fwy effeithiol. www.carbontrust.co.uk/.