Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Elusennau a Budd Cyhoeddus

(Ionawr 2008)

Cynnwys

Egwyddorion Budd Cyhoeddus

Bodloni'r Gofyniad Budd Cyhoeddus

Canllawiau'r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus a'r hyn y dylai ymddiriedolwyr elusen ei ystyried er mwyn dangos bod nodau eu helusen er budd y cyhoedd.

A. Rhagair

Neges gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Elusennau i ymddiriedolwyr elusen ac unrhyw un arall sy'n ystyried sefydlu elusen newydd.

Annwyl Ddarllenydd,

Efallai mwy nag un sector arall o gymdeithas, gall elusennau ennyn ffydd y cyhoedd. Mae elusennau yn ffodus i fod yn y sefyllfa hon ac mae cyfrifoldeb gennym ni, fel eu rheolydd, i sicrhau bod y ffydd hon yn cael ei chynnal ac, os yw'n bosibl, ei chynyddu. Mae'n bwysig i gymdeithas wâr nad yw'r ffydd hon yn cael ei chymryd yn ganiataol, ond yn hytrach yn cael ei gwerthfawrogi'n weithredol, ei hennill a'i hadnewyddu'n gyson.

Mae elusennau yn fwy na 'peth da' ac, fel mae eu cefnogwyr yn ei gydnabod, yn rhywbeth arbennig. Ni all pob sefydliad fod yn elusen. Mae bod yn elusen yn gymysgedd o'r hyn ydych chi, pwy ydych chi a sut ydych chi'n ei wneud. Y nodwedd graidd yw budd cyhoeddus. Er bod y sector elusennol yn enfawr ac yn amrywiol iawn, rhaid i nod pob elusen, beth bynnag fo'i maint, fod er budd y cyhoedd. Felly, mae budd cyhoeddus yn ganolog i waith pob elusen.

Yn 2006, fe basiodd y Senedd ddeddfwriaeth newydd i elusennau a oedd, ymhlith darpariaethau eraill, yn tynnu sylw at y gofyniad i ddangos bod nodau pob elusen er budd cyhoeddus. Er nad yw'r term 'budd cyhoeddus' erioed wedi cael ei ddiffinio fel y cyfryw, mae wedi cywain ystyr arbennig yn y gyfraith. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn Elusennau baratoi, ac ymgynghori ar ganllawiau ar fudd cyhoeddus, ac mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried y rhain. Felly, mae'n rhaid i bob elusen ystyried y canllawiau hyn ac ymateb yn briodol yn ei gwaith ac wrth adrodd i'r cyhoedd trwy'r Comisiwn Elusennau.

Mae'r Comisiwn Elusennau wedi tynnu egwyddorion allweddol budd cyhoeddus o'r gyfraith achosion berthnasol a'u nodi yn y canllawiau hyn er mwyn i ymddiriedolwyr allu sicrhau budd cyhoeddus eu helusen, ac adrodd arno. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus helaeth i helpu sicrhau bod y canllawiau yn gwneud y pwnc cymhleth hwn mor gywir a chlir â phosibl. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu.

Mae math o gyfamod rhwng elusennau â chymdeithas: mae elusennau yn cynnig budd i'r cyhoedd ac, yn gyfnewid am hyn, cânt lefel uchel o ffydd a hyder a manteision statws elusennol. Mae'r manteision i'r ddwy ochr yn fawr: bydd elusennau yn cael buddiannau treth sylweddol; gallant gael at gronfeydd na all eraill eu cael - hyd yn oed cyrff gwirfoddol eraill; bydd gwirfoddolwyr a rhoddwyr yn rhoi eu hamser a'u harian. Mae cymdeithas yn cael ei chyfoethogi'n anfesuradwy gan weithgareddau elusennau.

Nid yw bod yn elusen yr un peth â bod yn sefydliad sy'n gwneud 'pethau da'. Mae natur eang ei gorwelion, gynhwysol gan elusen: nid yw'n gul ei gorwelion, er budd preifat. Dim ond sefydliadau gyda nodau sy'n elusennol er budd cyhoeddus sy'n cael y teitl elusen. Mae'r canllawiau hyn yn olau gwyrdd i elusennau barhau â'u rôl arloesol ac unigryw sydd wrth wraidd ein cymdeithas gan sicrhau bod y cyhoedd yn gallu gweld beth mae elusennau yn ei wneud o dan y faner honno a chyda'u cefnogaeth nhw.

Y Fonesig Suzi Leather
Cadeirydd

Andrew Hind
Prif Weithredwr

B. Cyflwyniad

B1. Am beth mae'r canllawiau hyn?

Dyma ganllawiau statudol y Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus.

Pwrpas y canllawiau yw:

  • esbonio'r gofyniad bod rhaid i sefydliad gael nodau elusennol sy'n darparu budd cyhoeddus er mwyn bod yn elusen yng Nghymru a Lloegr;

  • cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gofyniad budd cyhoeddus ymysg y cyhoedd a'r sector elusennol;

  • esbonio sut y mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn gweithredu'n ymarferol; ac

  • esbonio'r gofyniad newydd i ymddiriedolwyr elusen adrodd ar fudd cyhoeddus.

Mae'r canllawiau hyn yn delio â budd cyhoeddus yn gyffredinol. Mae'n adlewyrchu newidiadau diweddar yn y gyfraith ar fudd cyhoeddus yn deillio o Ddeddf Elusennau 2006. Mae'r canllawiau hyn wedi cael eu paratoi yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth.

Fe welwch ganllawiau ar wahân sy'n esbonio'r sail gyfreithiol ar gyfer yr egwyddorion budd cyhoeddus a ddisgrifir yn y canllawiau hyn yn yr adran Dadansoddiad o'r gyfraith sy'n sail i Elusennau a Budd Cyhoeddus ar ein gwefan.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau atodol, ar ôl ymgynghori ymhellach, ynghylch sut y mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn berthnasol yn benodol i wahanol fathau o elusennau.

B2. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu

Yn y llyfryn hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol Symbol cyfreithiol wrth ymyl yr adran honno.

Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau y mae'r Comisiwn yn eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol i'w cyflawni. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

B3. Defnyddio'r llyfryn hwn

Mae Adran C y llyfryn hwn yn rhoi crynodeb o'r pwyntiau allweddol i'w nodi am y gofyniad budd cyhoeddus.

Bydd Adran Ch yn dweud wrthych am rôl y Comisiwn Elusennau o ran sicrhau bod nodau elusennol sydd er budd y cyhoedd gan bob elusen.

Bydd adrannau D ac Dd yn dweud wrthych am yr egwyddorion budd cyhoeddus sydd wedi'u cynnwys yn y gyfraith achosion sy'n bod. Dyma'r egwyddorion y mae'n rhaid i elusennau eu bodloni er mwyn dangos bod eu nodau er budd y cyhoedd.

Bydd adran E yn sôn wrthych am y gofyniad statudol newydd i ymddiriedolwyr elusen adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

Bydd adran F yn sôn wrthych am yr hyn y bydd y Comisiwn Elusennau yn ei wneud i asesu budd cyhoeddus elusennau unigol.

Bydd adran Ff yn sôn wrthych am yr adnoddau niferus y gall ymddiriedolwyr elusen eu defnyddio i'w helpu sicrhau bod eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus a ble y gallant gael mwy o wybodaeth.

B4. Rhai termau technegol a ddefnyddir

Mae'r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy'r llyfryn hwn, a dylid ystyried bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir isod.

Amcanion: fel arfer bydd nodau (neu ddibenion) sefydliad yn cael eu mynegi yng 'nghymal amcanion' ei dogfen lywodraethol. Fodd bynnag, nid oes gan bob elusen ddogfen lywodraethol gyda chymal amcanion, ac weithiau nid yw'r cymal amcanion yn mynegi nodau'r sefydliad yn ddigonol nac yn gyflawn. Felly, mae gwahaniaeth rhwng nodau'r sefydliad a'r geiriau sy'n ymddangos yn ei chymal amcanion.

Buddiolwr neu Fuddiolwyr: y bobl y mae nodau'r sefydliad yn bwriadu cynnig budd iddynt.

Buddion preifat: yn y canllawiau hyn defnyddiwyd y term 'buddion preifat' i olygu unrhyw fuddion y bydd unigolyn neu sefydliad yn eu derbyn heblaw fel buddiolwyr elusen. Felly, nid yw'n cynnwys y mathau o fuddion personol y gallai pobl eu cael fel buddiolwr, megis cael addysg, neu driniaeth feddygol, neu grant elusennol er enghraifft.

Canllawiau statudol ar fudd cyhoeddus: y canllawiau ar fudd cyhoeddus y mae'n ofynnol i'r Comisiwn Elusennau eu cynhyrchu o dan adran 4 y Ddeddf Elusennau.

Y cyhoedd yn gyffredinol: y cyhoedd yn gyffredinol; gweddill y cyhoedd sydd heb eu cwmpasu gan ddosbarth o fuddiolwyr diffiniedig.

Deddf Elusennau: Deddf Elusennau 1993 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006.

Diben(ion) a diben(ion) elusennol: yn y canllaw hwn defnyddiwn y term ‘dibenion’pan fyddwn yn cyfeirio at y disgrifiadau o ddibenion a restrir yn y Ddeddf Elusennau. Maen nhw'n disgrifio meysydd cyffredin o weithgarwch elusennol posibl ond ni chymerir bod sefydliad gyda nod neu amcan penodol sydd wedi'i gynnwys o fewn un o'r disgrifiadau o ddibenion yn sefydliad elusennol o reidrwydd. Er mwyn bod yn‘ddiben elusennol' rhaid iddo fod er budd cyhoeddus. Rhaid dangos hyn ym mhob achos.

Dogfen lywodraethol: dogfen gyfreithiol sy'n pennu nodau elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn Elusennau, neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Elusennau llai: elusennau sy'n is na'r trothwy archwilio.

Elusennau mwy: elusennau sy'n uwch na'r trothwy archwilio.

Y gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus: mae'n golygu'r gofyniad statudol i ymddiriedolwyr elusen adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

Gweithgareddau: defnyddiwn y term hwn pan fyddwn yn sôn am yr hyn y bydd sefydliadau yn ei wneud i gyflawni eu nodau.

Nodau: yn y canllawiau hyn defnyddiwn y term hwn i olygu dibenion sefydliad unigol. Mae'n bwysig i allu gwahaniaethu'n glir rhwng dibenion sefydliad unigol a dibenion elusennol yn gyffredinol. Felly, defnyddiwyd y term 'nodau' fel ffordd fer o gyfeirio at ddibenion elusen neu sefydliad unigol sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusen.

SORP: mae'r Datganiad o Arferion Cymeradwy, a gyhoeddwyd ym Mawrth 2005, yn amlinellu'r arferion cymeradwy at ddiben paratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a pharatoi'r cyfrifon ar ddull croniadau. Nid yw argymhellion cyfrifyddu’r SORP yn gymwys i elusennau sy'n paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau.

Tribiwnlys Elusennau: y Tribiwnlys Elusennau, a sefydlwyd gan y Ddeddf Elusennau, yw'r lefel gyntaf ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau cyfreithiol y Comisiwn Elusennau.

Trothwy archwilio: o dan y Ddeddf Elusennau, mae archwiliad yn ofynnol os yw incwm gros elusen yn y flwyddyn yn fwy na £500,000, neu os yw'r incwm yn fwy na £100,000 ac mae cyfanswm gwerth ei hasedau yn fwy na £2.8 miliwn.

Ymddiriedolwyr: y bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Mae ymddiriedolwyr elusen yn gyfrifol am reoli gweinyddiad elusen yn gyffredinol.

B5. Canllawiau blaenorol

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cymryd lle'r canllawiau blaenorol ar fudd cyhoeddus sydd i'w gweld yn ein llyfryn, Natur Gyhoeddus Elusennau (RR8).

C. Crynodeb

C1. Beth yw 'budd cyhoeddus'? Symbol cyfreithiol

'Budd cyhoeddus' yw'r gofyniad cyfreithiol sy'n datgan bod rhaid i bob sefydliad a ffurfiwyd ar gyfer un neu ragor o nodau elusennol allu dangos bod ei nodau er budd cyhoeddus er mwyn iddo gael ei gydnabod, a'i gofrestru, fel elusen yng Nghymru a Lloegr.

Gelwir hyn y 'gofyniad budd cyhoeddus'.

C2. Beth yw dibenion elusennol? Symbol cyfreithiol

'Dibenion elusennol' yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion elusennol a bennwyd yn y Ddeddf Elusennau ac sydd er budd y cyhoedd.

Gall dibenion elusennol newydd gael eu cydnabod yn y dyfodol, gan y Comisiwn Elusennau neu'r Tribiwnlys Elusennau neu'r llysoedd, wrth i'r gyfraith elusennau barhau i ddatblygu.

Mae'n ofynnol i elusen gael nodau sydd wedi'u cynnwys o fewn, neu sy'n cyfateb i'r disgrifiadau hyn o ddibenion elusennol.

Mae'r Ddeddf Elusennau yn rhoi'r disgrifiadau canlynol ar gyfer dibenion elusennol:

a) atal neu leddfu tlodi:
b) hyrwyddo addysg;
c) hyrwyddo crefydd;
ch) hyrwyddo iechyd neu achub bywydau;
d) hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygiad cymunedol;
dd) hyrwyddo'r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth;
e) hyrwyddo chwaraeon amatur;
f) hyrwyddo hawliau dynol, datrys anghydfodau neu gymodi neu hybu cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth;
ff) hyrwyddo gwarchod neu wella'r amgylchedd;
g) cynorthwyo'r rhai sydd mewn angen, ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall;
ng) hyrwyddo lles anifeiliaid;
h) hybu effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron, neu effeithlonrwydd yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub neu'r gwasanaethau ambiwlans;
i) dibenion eraill a gydnabyddir ar hyn o bryd fel dibenion elusennol ac unrhyw ddibenion elusennol newydd sy'n debyg i ddibenion elusennol eraill.

Fe gewch fwy o ganllawiau ar ddibenion elusennol yn ein Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn y Ddeddf Elusennau ar ein gwefan.

C3. Beth yw egwyddorion budd cyhoeddus? Symbol cyfreithiol

Mae dwy egwyddor allweddol ac mae'n rhaid bodloni'r ddwy egwyddor er mwyn dangos bod nodau sefydliad er budd cyhoeddus. O fewn pob egwyddor mae rhai ffactorau pwysig y mae'n rhaid eu hystyried ym mhob achos. Y pedair egwyddor yw:

Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddion adnabyddadwy
Egwyddor 1a. Rhaid bod yn glir beth yw'r buddion (gweler adran D2)
Egwyddor 1b. Rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r nodau (gweler adran D3)
Egwyddor 1c. Rhaid pwyso a mesur buddion yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed (gweler adran D4)

Egwyddor 2: Rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd
Egwyddor 2a. Rhaid i'r buddion fod yn briodol i'r nodau (gweler adran Dd2)
Egwyddor 2b. Os cynigir budd i garfan o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i gael budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol: (gweler adran Dd3)

  • drwy gyfyngiadau daearyddol neu gyfyngiadau eraill (gweler adrannau Dd4 - Dd9) neu

  • drwy allu i dalu unrhyw ffioedd a godir (gweler adran Dd10)

Egwyddor 2c. Ni ellir eithrio pobl sy'n byw mewn tlodi o'r cyfle i gael budd (gweler adran Dd11)
Egwyddor 2ch. Rhaid i unrhyw fuddion preifat fod yn atodol (gweler adran Dd12)

Mae'r hyn y mae'r llysoedd wedi'u hystyried er budd cyhoeddus wedi newid dros amser, wrth i anghenion ac amgylchiadau cymdeithas newid. Yn yr un modd, byddwn ni (a'r Tribiwnlys Elusennau a'r llysoedd) yn parhau i ystyried egwyddorion budd cyhoeddus yng nghyd-destun amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol. Cewch arweiniad ar beth mae hyn yn ei olygu yn adran Ch6.

C4. Dyletswyddau budd cyhoeddus ymddiriedolwyr elusen Symbol cyfreithiol

Rhaid i ymddiriedolwyr elusen:

  • sicrhau eu bod yn ymgymryd â nodau eu helusen er budd cyhoeddus;

  • dilyn y canllawiau a gyhoeddwn ar fudd cyhoeddus (os ydynt yn ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau a all fod yn berthnasol): ac

  • adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i ymddiriedolwyr elusen ddilyn y canllawiau hyn ond rhaid iddynt eu hystyried os yw'n berthnasol i'w helusen. Mae hyn golygu y dylent allu dangos:

  • eu bod yn ymwybodol o'r canllawiau;

  • wrth wneud penderfyniad lle mae'r canllawiau'n berthnasol, eu bod wedi eu hystyried; ac

  • os ydynt wedi penderfynu gwyro o'r canllawiau, bod rhesymau da ganddynt dros wneud hynny.

Er nad yw ein canllawiau yn gyfwerth â'r gyfraith ar fudd cyhoeddus, mae'n ganllaw i'r hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud am fudd cyhoeddus a sut yr ydym yn dehongli ac yn cymhwyso'r gyfraith honno. Felly, dylai ymddiriedolwyr a'u hymgynghorwyr fod yn gyfarwydd â'n canllawiau budd cyhoeddus, a'u deall. Dylent ddeall yr hyn sy'n ofynnol er mwyn i'w helusen fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus a sut i osgoi gwneud penderfyniadau a allai gael effaith niweidiol ar fudd cyhoeddus eu helusen. Hefyd, mae'n bwysig i ymddiriedolwyr ddeall y meini prawf y byddwn yn eu defnyddio i asesu a ydynt yn cyflawni nodau eu helusen mewn ffordd sy'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus neu beidio. Fe welwch ganllawiau ar asesiad y Comisiwn Elusennau o fudd cyhoeddus, a'r meini prawf y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer hyn, yn adran F.

Mae dyletswydd newydd ar ymddiriedolwyr elusen i adrodd yn gyson yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ar sut y maent yn cyflawni nodau eu helusen er budd cyhoeddus. Mae Adrannau E3 ac E4 yn esbonio'r gofyniad adrodd ar gyfer elusennau o wahanol faint.

Rhaid i ymddiriedolwyr elusen fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau statudol mewn perthynas â budd cyhoeddus ac adrodd ar fudd cyhoeddus, a'u bodloni.

Rydym yn hapus i roi cymorth, arweiniad a chymorth i ymddiriedolwyr i'w cynorthwyo wrth iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau.

Ch. Y Comisiwn Elusennau a budd cyhoeddus

Ch1. Y Ddeddf Elusennau a budd cyhoeddus Symbol cyfreithiol

O dan y Ddeddf Elusennau, rhaid i bob sefydliad sy'n dymuno cael ei gydnabod fel elusen ddangos, yn ddiamwys, bod eu hamcanion er budd y cyhoedd.

Cyn hyn roedd y gyfraith yn cymryd yn ganiataol mai dyma oedd yr achos i sefydliadau sy'n hyrwyddo addysg neu grefydd neu sy'n lleddfu tlodi. Ar wahân i hynny, mae'r gyfraith gyfredol ynghylch budd cyhoeddus, sy'n seiliedig ar benderfyniadau a wnaed gan y llysoedd a'r Comisiwn Elusennau dros y blynyddoedd, yr un fath.

Nid yw'r Ddeddf Elusennau yn cynnwys unrhyw ddiffiniad newydd o fudd cyhoeddus neu'n awgrymu beth y dylai elusennau ei wneud i ddangos bod eu nodau er budd y cyhoedd. Mae'r Comisiwn Elusennau, fel rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr, yn gyfrifol am esbonio'r gofyniad budd cyhoeddus a'i gymhwyso.

Nid yw'r gofyniad budd cyhoeddus yn ofyniad newydd i elusennau. Mae'n rhaid i elusennau eisoes gael nodau sydd er budd cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sydd â nodau y cymerwyd yn ganiataol eu bod er budd cyhoeddus cyn hynny. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Elusennau yn tynnu sylw at y gofyniad hwn trwy gynnwys budd cyhoeddus yn benodol yn y diffiniad o ddiben elusennol.

Hefyd, mae'r Ddeddf Elusennau yn:

  • rhoi amcan budd cyhoeddus newydd i'r Comisiwn Elusennau i 'hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weithrediad y gofyniad budd cyhoeddus';

  • ei gwneud hi'n ofynnol i'r Comisiwn Elusennau gyhoeddi canllawiau i helpu bodloni ei nod budd cyhoeddus ac ymgymryd â pha bynnag ymgynghoriadau y cred sy'n briodol cyn cyhoeddi'r canllawiau hynny;

  • ei gwneud hi'n ofynnol yn benodol i ymddiriedolwyr ystyried canllawiau'r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus.

Mae'r pwyslais o'r newydd hwn ar fudd cyhoeddus yn rhoi cyfle cadarnhaol i elusennau ddangos y manteision y maent yn eu cynnig i gymdeithas.

Ch2. Beth yw sail gyfreithiol canllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau?

Mae canllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau yn ganllawiau ar yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud am fudd cyhoeddus. Nid yw'n creu cyfraith budd cyhoeddus newydd. Nid yw'n creu diffiniad cyfreithiol newydd ychwaith o fudd cyhoeddus.

Mae ein canllawiau yn pennu fframwaith o ffactorau i'w hystyried wrth asesu budd cyhoeddus yn seiliedig ar egwyddorion budd cyhoeddus sydd wedi'u cynnwys mewn cyfraith achosion sy'n bod.

Rydym wedi mynegi egwyddorion budd cyhoeddus fel gofynion cyfreithiol, oherwydd credwn eu bod yn ofynnol gan gyfraith achosion sy'n bod. Ond cydnabyddwn fod y canllawiau hyn, o reidrwydd, yn grynodeb o'r gyfraith sylfaenol, yn hytrach na datganiad manwl o'r gyfraith gyda'r holl wahaniaethau manwl a all fod yn gymwys mewn achosion amrywiol, unigol.

Ch3. Beth yw rôl y Comisiwn Elusennau o ran asesu budd cyhoeddus?

Rôl y Comisiwn Elusennau o ran asesu budd cyhoeddus yw penderfynu a yw sefydliad arbennig yn elusen neu beidio.

Nid yw'n ymwneud ag asesu a yw grŵp arbennig o elusennau, neu garfan o'r sector elusennol cyfan, er budd cyhoeddus.

Pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch a yw sefydliad yn elusen neu beidio, byddwn yn ystyried tri pheth:

  • Nodau - beth yw nodau'r sefydliad, a yw'r nodau hynny yn elusennol ac a yw'r nodau wedi'u hadlewyrchu’n llawn ac yn fanwl gywir yn amcanion penodedig y sefydliad

  • Budd- rhaid bod budd neu fuddion adnabyddadwy

  • Cyhoeddus- rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd

Os nad yw sefydliad yn gallu bodloni gofynion cyfreithiol unrhyw un neu fwy o'r meysydd hyn, ni all fod yn elusen.

Mae'r Comisiwn Elusennau yn gwneud penderfyniadau am statws elusennol a budd cyhoeddus yn yr un ffordd ag y byddai'r Tribiwnlys Elusennau newydd neu'r llysoedd yn ei wneud. Mae hynny'n golygu ein bod yn llunio barn, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, ynghylch a yw nodau sefydliad arbennig, o'u hystyried yng nghyd-destun yr amgylchiadau y mae'n ymgymryd â'i waith ynddynt, yn elusennol er budd cyhoeddus.

Nid oes unrhyw feincnod 'addas i bawb' y gallwn farnu budd cyhoeddus nodau sefydliad unigol yn ei erbyn. Byddwn yn ystyried pob achos ar ei deilyngdod ei hun.

Ch4. Pryd all y Comisiwn Elusennau ystyried gweithgareddau sefydliad wrth benderfynu a yw ei amcanion yn elusennol er budd cyhoeddus?

Mae'r gofyniad budd cyhoeddus yn golygu, er mwyn bod yn elusen, mae'n rhaid i sefydliad allu dangos ei fod wedi'i sefydlu ar gyfer nodau elusennol sydd, ac a fydd yn cael eu cyflawni er budd cyhoeddus. Mae'n ofyniad sy'n gymwys i bob un o nodau sefydliad.

Pan fyddwn yn ystyried a yw nodau sefydliad yn darparu budd i'r cyhoedd, mae'n bosibl y bydd y Comisiwn Elusennau yn ystyried gweithgareddau'r sefydliad er mwyn:

  • egluro beth yw ei nodau (hy, deall ystyr a chwmpas y geiriau a ddefnyddir yn ei hamcanion);

  • penderfynu a yw'r nodau hynny yn elusennol (hy, bod y nodau wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion elusennol yn y Ddeddf Elusennau, neu'n cyfateb â nhw); a

  • sicrhau y bydd neu y gall y nodau gael eu cyflawni er budd y cyhoedd.

Yn achos sefydliad sy'n gwnned cais i gofrestru fel elusen, gallwn ystyried gwybodaeth gefndir ffeithiol berthnasol, megis gofyn am dystiolaeth o'i weithgareddau, neu weithgareddau arfaethedig, er mwyn penderfynu a yw ei nodau yn elusennol er budd y cyhoedd. Os nad ydym yn fodlon mai dyma yw'r achos, gallwn wrthod ei gofrestru, neu gallwn ofyn i'r ymgeisydd ddiwygio amcanion neu weithgareddau ei sefydliad cyn y gallwn fynd ati i'w gofrestru.

Nid yw asesu a yw nodau elusen sydd eisoes yn gofrestredig yn cael eu cyflawni er budd cyhoeddus yn achos syml o ystyried y geiriau yn ei hamcanion yn unig. Mae'n ymwneud â sicrhau bod ei amcanion, fel y cânt eu deall a'u cymhwyso gan yr ymddiriedolwyr, ar sail tystiolaeth lle mae ei hangen, yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd. Wedi'r cyfan, ni all unrhyw un gael budd o elusen, pa mor dda bynnag y mynegir ei hamcanion, oni bai fod yr elusen yn gweithredu i gyflawni'r amcanion hynny.

Yn achos elusennau sydd eisoes wedi cofrestru, byddwn yn ystyried gweithgareddau i bennu a ydynt wedi'u cynnwys o fewn amcanion elusennol penodedig yr elusen. Os nad ydym yn fodlon mai dyma yw'r achos, gallwn geisio cytundeb â'r ymddiriedolwyr y byddant yn newid eu hamcanion neu'r ffordd y maent yn cyflawni eu nodau. Mewn rhai achosion:

  • gallwn benderfynu bod yr ymddiriedolwyr yn gweithredu'n groes i'r ymddiriedolaeth. Os felly, byddwn yn cymryd unrhyw gamau rheoleiddio angenrheidiol a all fod eu hangen i sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â'r ymddiriedolaethau (megis rhoi cyfarwyddiadau i ymddiriedolwyr neu benodi ymddiriedolwyr newydd);

  • gallwn benderfynu nad yw'n bosibl i nodau'r sefydliad gael eu cyflawni mewn ffordd sydd er budd y cyhoedd. Os felly, mae'n bosibl y bydd angen i ni sicrhau y caiff asedau'r elusen eu cymhwyso yn y dyfodol ar gyfer nodau elusennol tebyg a fydd er budd y cyhoedd; neu

  • gallwn benderfynu nad oedd y nodau erioed er budd y cyhoedd a bod y sefydliad wedi cael ei gofrestru ar gam fel elusen. Os felly, byddwn naill ai'n gofyn i'r ymddiriedolwyr ad-drefnu'r sefydliad, neu ailddatgan ei amcanion er mwyn iddynt fod er budd y cyhoedd, neu gallwn ei ddileu o'r gofrestr.

Mae pwysigrwydd gweithgareddau sefydliad wrth asesu a yw ei nodau er budd y cyhoedd neu beidio yn cael ei drafod yn fwy manwl yn ein dogfen Dadansoddiad o'r gyfraith sy'n sail i Elusennau a Budd Cyhoeddus.

Ch5. Sut gall penderfyniadau'r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus gael eu herio? Symbol cyfreithiol

Os yw ymddiriedolwyr elusen, neu'r sawl sy'n gwneud cais i gofrestru sefydliad fel elusen, neu unigolyn arall sy'n cael ei effeithio gan ein penderfyniad, yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed am fudd cyhoeddus sefydliad, dylent drafod hyn gyda ni yn gyntaf gan ddefnyddio ein gweithdrefnau adolygu penderfyniadau mewnol. Mae canllawiau ar y gweithdrefnau hyn i'w gweld ar ein gwefan.

Os yw'r unigolyn yn anfodlon o hyd ar ôl y broses hon, gallant apelio i'r Tribiwnlys Elusennau. Rôl y Tribiwnlys Elusennau yw llunio barn am gyfreithlondeb gweithredoedd y Comisiwn wrth iddo ymarfer ei bwerau statudol i reoleiddio elusennau. Os yw'r Tribiwnlys Elusennau yn anghytuno â phenderfyniad y Comisiwn, gall benderfynu ddileu'r penderfyniad a'i ddisodli â'i benderfyniad ei hun. Fel arall, gall gyfeirio'r Comisiwn i wneud penderfyniad arall, gan ddilyn y broses gywir. Wrth ystyried apeliadau, bydd y Tribiwnlys Elusennau yn ystyried y mater ac unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd efallai wedi dod i'r amlwg.

Gall y Tribiwnlys Elusennau ddyfarnu costau mewn rhai amgylchiadau ond ni fydd yn gallu dyfarnu iawndal. Nid yw'r Tribiwnlys Elusennau yn ystyried cwynion am ymddygiad a gwasanaeth cyffredinol y Comisiwn, a fydd yn parhau i gael eu hystyried trwy lwybr gweithdrefnau cwyno presennol y Comisiwn. Mae hyn yn cynnig modd cyflwyno apêl i adolygydd cwynion annibynnol (cam olaf ein gweithdrefn gwyno).

Gall sefydliad apelio at yr Uchel Lys yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys Elusennau ar yr amod ei fod wedi cael caniatâd y Tribiwnlys Elusennau yn gyntaf neu, os yw'r Tribiwnlys Elusennau yn gwrthod ei roi, yr Uchel Lys. Gall apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Elusennau gael eu dwyn i'r Uchel Lys dim ond ar y sail bod y Tribiwnlys Elusennau wedi gwneud camgymeriad yn y gyfraith (er enghraifft sut y mae wedi dehongli'r gyfraith) ac nid oherwydd ei fod wedi gwneud camgymeriad ynghylch y ffeithiau. Fel arfer ni fydd yn briodol i gyflwyno tystiolaeth newydd i'r Uchel Lys.

Ch6. Ymagwedd y Comisiwn Elusennau at gymhwyso a dehongli'r gyfraith yn wyneb amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid

Bydd ein hymagwedd at benderfyniadau am yr hyn sy'n elusennol, a'r hyn sydd a'r hyn nad yw o fudd i'r cyhoedd, yn cael ei ddylanwadu gan yr hyn sy'n berthnasol ac yn briodol i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y dydd.

Mae'r hyn y mae'r llysoedd wedi'u hystyried yn elusennol ac er budd y cyhoedd wedi newid a datblygu wrth i anghenion ac amgylchiadau cymdeithas newid. Mae'r newidiadau hyn wedi cael eu dylanwadu gan (ymysg pethau eraill) amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, gan fwy o wybodaeth a dealltwriaeth a chan newidiadau mewn gwerthoedd cymdeithasol.

Mae hyn yn golygu y gall syniadau am yr hyn sy'n ddibenion elusennol er budd y cyhoedd newid dros amser.

Mewn sawl achos, mae newid yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd wedi dylanwadu ar benderfyniad i gydnabod diben elusennol newydd.

Er enghraifft, yn y blynyddoedd diwethaf, mae newid yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd wedi dylanwadu ar ein penderfyniadau i gydnabod y canlynol fel dibenion elusennol:

  • hybu adfywiad trefol a gwledig;

  • hybu meithrin gallu'r gymuned;

  • hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth;

  • hybu cytgord crefyddol;

  • gwarchod yr amgylchedd; a

  • hybu datblygiad cynaliadwy.

Mewn rhai achosion, mae wedi ein harwain at gydnabod ffordd newydd o ymgymryd â hen ddiben elusennol.

Er enghraifft, cofrestrwyd fel elusen seibercaffi oedd yn darparu cyfrifiadur a mynediad i'r rhyngrwyd i gymuned ddifreintiedig fel cyfleuster adloniadol ac amwynder lleol ac fel ffordd o hybu eu haddysg.

Er yn llai cyffredin, bu achosion hefyd lle mae amgylchiadau a syniadau cymdeithas wedi newid ac o ganlyniad nid yw rhywbeth a arferai gael ei ystyried yn ddiben elusennol er budd y cyhoedd yn cael ei ystyried felly mwyach.

Er enghraifft, am gyfnod hir yn gynnar yn yr 20fed ganrif, roedd cyflenwi sigaréts i bobl sâl mewn ysbytai yn cael ei ystyried yn elusennol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, byddai elusennau mawr, wrth ymgymryd â nod elusennol o'r fath, yn darparu sigaréts fel 'tawelyddion defnyddiol i ddynion sâl neu glwyfedig'. Yn nes ymlaen yn y ganrif, roedd sawl 'cronfa cysuron ysbytai' cyffredinol wedi codi arian i brynu papurau newydd, cadeiriau esmwyth, llenni a sigaréts i'r ysbytai a'u cleifion. Heddiw, ni fyddem yn ystyried darparu sigaréts i gleifion ysbytai yn elusennol er budd y cyhoedd. Byddai'r niwed sylweddol a real iawn a achosir i'r cleifion ac eraill gan fwg sigaréts yn drech o lawer na'r fuddion amlwg a ddaw wrth i'r sigarét weithredu fel tawelydd.

Mae hwn yn achos llawer llai cyffredin oherwydd mae'r llysoedd wedi mabwysiadu'r farn mai dim ond newid sylfaenol mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, wedi'i gefnogi gan dystiolaeth ddigonol, fyddai'n cyfiawnhau penderfynu nad yw rhywbeth a arferai gael ei dderbyn yn elusennol yn elusennol mwyach.

Yn fwy cyffredin, yn achos amcanion elusennol a all gael eu geirio mewn ffordd 'hen-ffasiwn', neu sy'n ymwneud ag amgylchiadau cymdeithasol o oes a fu, byddwn yn cael hyd i ffordd o'u diweddaru er mwyn iddynt fod yn berthnasol i'r byd sydd ohoni.

Er enghraifft, mae'n bosibl y byddem yn cytuno i newid amcanion elusen sy'n ymwneud â darparu gwaddolion priodas i forwynion tlawd mewn ardal leol arbennig os yw'n lleddfu tlodi menywod yn yr ardal honno.

Nid yw'n golygu na fyddem yn ystyried unrhyw beth sy'n cael ei weld yn 'hen' neu'n 'hen ffasiwn' yn 'ddrwg' neu'n 'anghywir' o reidrwydd, ac nid yw'n golygu cydnabod yn elusennol y pethau hynny sy'n boblogaidd heddiw.

Er enghraifft, nid yw'n rhan o gylch gwaith y Comisiwn Elusennau i archwilio credoau crefyddol traddodiadol, hir-sefydledig neu geisio eu moderneiddio.

Mae'n golygu sicrhau bod yr hyn a wna elusennau yn parhau i fod yn fuddiol heddiw a pheidio â chymryd yn ganiataol fod rhywbeth yn fuddiol dim ond oherwydd yr arferai gael ei ystyried felly flynyddoedd yn ôl.

Ch7. Sut bydd y Comisiwn Elusennau yn asesu amodau cymdeithasol ac economaidd?

Mae ein dull o asesu amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd yn dibynnu ar yr hyn sy'n berthnasol i'r diben elusennol arbennig neu nodau arbennig yr elusen sydd dan sylw.

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn defnyddio ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth i'n helpu i benderfynu beth yw'r amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd modern mewn perthynas â'r nodau elusennol sydd i'w cyflawni.

Er enghraifft, gallem ofyn i elusen neu ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o amddifadedd cymdeithasol, demograffeg leol a chanlyniadau'r cyfrifiad, adroddiadau'r llywodraeth neu'r sector neu arolygon, ac ati. Neu, os yw ar gael, gallem dynnu ar ein hastudiaethau ymchwil ein hunain mewn rhai achosion.

Mae'n bosibl y bydd angen mathau gwahanol o dystiolaeth yn dibynnu a ydym yn:

  • asesu'r budd cyffredinol a ddaw drwy ymgymryd â diben penodol (er mwyn penderfynu a allwn gydnabod diben elusennol newydd er enghraifft), os yw'r dystiolaeth sydd ei hangen o natur gyffredinol; neu

  • asesu'r budd sy'n deillio o gyflawni nod elusennol arbennig gan elusen arbennig mewn ffordd arbennig neu mewn ardal arbennig, lle y gall y dystiolaeth sydd ei hangen fod yn benodol i'r sefydliad unigol.

Ch8. Wrth ystyried beth sydd er budd y cyhoedd, i ba raddau all y Comisiwn Elusennau ystyried barn gyhoeddus?

Ni all barn gyhoeddus benderfynu beth sy'n elusennol neu heb fod yn elusennol neu er budd y cyhoedd.

Nid yw statws elusennol yn cael ei benderfynu ar sail poblogrwydd. Gall fod gwahaniaeth mawr yn y farn gyhoeddus ar fater ac mae agweddau cyhoeddus ar faterion arbennig yn gallu newid dros amser. Mae elusennau yn arloesol ac yn flaengar yn aml iawn. Gallant ymwneud â materion y mae eu teilyngdod heb gael eu profi eto, neu y mae'r cyhoedd heb werthfawrogi neu gydnabod eu gwerth eto. Weithiau bydd elusennau yn ymwneud â materion dadleuol y gall fod barn gyhoeddus wahanol a chryf yn eu cylch. Neu gallant weithio mewn meysydd, neu ddefnyddio dulliau arbennig nad ydynt yn boblogaidd ond, er hynny, yn werthfawr.

Weithiau, gall fod yn gyfreithlon i wahanol elusennau fynegi barn groes am fater arbennig, ond eto i gyd gall y ddwy elusen gynnig budd i'r cyhoedd.

Er enghraifft, gall elusennau sy'n ymwneud â hybu lles anifeiliaid ac elusennau sy'n ymwneud â hybu iechyd neu leddfu salwch gynnig dadleuon croes ynghylch defnyddio arbrofi ar anifeiliaid mewn ymchwil feddygol. Gall fod nodau gan y ddwy elusen sy'n elusennol er budd y cyhoedd, ond mewn ffyrdd gwahanol.

Felly, er mwyn penderfynu a yw diben elusennol arbennig neu nodau arbennig elusen yn darparu budd cyhoeddus neu beidio, rhaid i'r Comisiwn Elusennau, neu'r Tribiwnlys Elusennau neu'r llysoedd fodloni eu hunain ei fod er budd y cyhoedd, waeth a yw'r cyhoedd, neu yn wir elusennau eraill, yn cytuno mai dyma yw'r achos.

Fodd bynnag, os nad yw budd cyhoeddus yn amlwg, gall y Comisiwn Elusennau, a'r Tribiwnlys Elusennau a'r llysoedd ystyried barn gyhoeddus cyn belled ag y bo'n briodol. Mewn achosion o'r fath, mae'n rhaid i'r ymagwedd gyffredinol a fabwysiadir gan y llysoedd chwilio am dystiolaeth o fudd cyhoeddus.

Er enghraifft, gallai barn gyhoeddus fod yn berthnasol wrth ystyried a oes budd cyhoeddus yn y gwerthfawrogiad cyffredinol o dirlun neu adeilad hardd.

Ar gyfer rhai mathau o fudd, gall hyn gynnwys ystyried consensws cyffredinol o farn wrthrychol a gwybodus, er na fyddai'r farn honno yn unig yn penderfynu'r mater.

Mae penderfyniadau ynghylch budd cyhoeddus yn adlewyrchu bywyd bob dydd, gan ystyried y farn gyffredinol gymeradwy am natur a defnyddioldeb yr hyn y mae sefydliad yn ceisio ei gyflawni a'i fudd cyhoeddus. Gall agweddau a barn gyhoeddus fod yn ffactor defnyddiol i'w ystyried wrth helpu i ddeall amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol. Yn ei dro, gall hyn ein galluogi i lunio'r ddealltwriaeth gyfreithiol o'r hyn sy'n elusennol mewn ffordd sy'n berthnasol i'r gymdeithas sydd ohoni.

Egwyddorion Budd Cyhoeddus

Mae'r adrannau canlynol yn esbonio egwyddorion y gofyniad budd cyhoeddus

D. Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddion adnabyddadwy

D1. Ffactorau pwysig i'w hystyried Symbol cyfreithiol

Mae'r canlynol yn ffactorau pwysig i'w hystyried wrth benderfynu a yw nodau sefydliad yn bodloni egwyddor 'budd' y gofyniad budd cyhoeddus:

Egwyddor 1a. Rhaid bod yn glir beth yw'r buddion

Egwyddor 1b. Rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r nodau

Egwyddor 1c. Rhaid pwyso a mesur buddion yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed

D2. Egwyddor 1a. Rhaid bod yn glir beth yw'r buddion Symbol cyfreithiol

Rhaid bod yn glir pa fuddion gaiff y cyhoedd drwy gyflawni nodau'r elusen.

Bydd nodau elusennol gwahanol yn cynnwys gwahanol fathau o fuddion.

Mae enghreifftiau o wahanol fathau o fuddion yn cynnwys:

  • rhoi grantiau neu ddillad neu fwyd i bobl sy'n byw mewn tlodi;

  • rhoi gofal meddygol i bobl sy'n sâl;

  • rhoi addysg;

  • rhoi mynediad cyhoeddus i adeilad hanesyddol;

  • darparu tai i bobl ddigartref;

  • darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i bobl;

  • gwarchod rhywogaethau mewn perygl;

  • gwarchod yr amgylchedd;

  • gofalu am anifeiliaid sâl, wedi'u hanafu neu ddigartref;

  • hybu gwerthfawrogiad artistig neu lenyddol;

  • cadwraeth adeiladau neu dirnodau hanesyddol y genedl;

  • gwarchod tirlun prydferth;

  • hybu effeithlonrwydd elusennau eraill.

Wrth asesu budd cyhoeddus sefydliad unigol rydym yn ymwneud â'r buddion sy'n codi wrth i'r sefydliad hwnnw ymgymryd â'i nodau arbennig yn unig. Nid yw'r ffaith y gellir dadlau bod buddion yn cael eu darparu i'r cyhoedd yn gyffredinol o fathau penodol o elusen yn ymgymryd â dibenion elusennol arbennig yn golygu y gall y buddion hynny gael eu hawlio gan unrhyw sefydliad sydd â'r dibenion elusennol hynny yn ei amcanion.

Er enghraifft, mae'n sicr bod budd cyffredinol i gymdeithas drwy gael elusennau sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil cancr. Ond ni all y budd cyffredinol hwnnw gael ei hawlio o reidrwydd gan bob sefydliad sy'n ymgymryd â'r math hwnnw o waith ymchwil. Yr hyn sy'n bwysig yw pa fath o ymchwil y mae'r sefydliad arbennig yn ymgymryd ag ef, sut mae'n ymgymryd â'r gwaith ymchwil a beth y mae'n ei wneud â'r canlyniadau.

Bydd elusen ymchwil cancr sy'n gwneud gwaith ymchwil priodol i gael hyd i feddyginiaeth neu driniaeth newydd ar gyfer math arbennig o gancr, ac sy'n cyhoeddi canlyniadau defnyddiol yr ymchwil hwnnw y gall eraill ddysgu ohono, yn cynnig buddion sylweddol i'r cyhoedd.

Ond, pa bynnag budd cyffredinol a ddaw i gymdeithas o ymchwil cancr yn gyffredinol, ni fyddai'r budd hwnnw yn cyfrif ryw lawer wrth asesu budd cyhoeddus sefydliad sy'n ymgymryd ag ymchwil cancr os nad oedd y dulliau a ddefnyddir yn drwyadl yn wyddonol, er enghraifft.

Dylai'r buddion i'r cyhoedd allu cael eu cydnabod, eu hadnabod, eu diffinio neu eu disgrifio ond nid yw hynny'n golygu bod rhaid iddynt allu cael eu meintioli neu eu mesur.

Er enghraifft, gall y buddion a ddaw trwy werthfawrogi tirlun hardd, neu edrych ar weithiau celf neu'r celfyddydau perfformio, myfyrio ysbrydol, neu'r teimladau cadarnhaol a gawn pan fyddwn yn helpu anifeiliaid sâl, gael eu hadnabod a'u profi er nad ydynt yn cael eu cyffwrdd na'u gweld ac ni ellir eu meintioli na'u mesur.

Gall buddion y gellir eu meintioli a'u mesur fod yn haws eu hadnabod, ond mae buddion nad oes modd eu meintioli yn cael eu hystyried hefyd, ar yr amod ei bod yn glir beth yw'r buddion. Gall y buddion gael eu profi'n gorfforol neu heb gael eu profi'n gorfforol. Yn wir, gall rhai o'r buddion ymddangos yn eithaf pell neu'n anodd eu meintioli, megis y buddion i'r cyhoedd yn gyffredinol a ddaw drwy warchod yr amgylchedd.

Mewn rhai achosion gall fod yn amlwg bod nodau sefydliad yn fuddiol i'r cyhoedd felly ni fydd angen i'r sefydliad ddarparu tystiolaeth i ddangos bod budd.

Er enghraifft, fel rheol ni fyddai darparu cymorth brys i ddioddefwyr trychineb naturiol yn gofyn am dystiolaeth arbennig i ddangos ei fod yn fuddiol.

Mewn achosion eraill, gall yr elfen o fudd i'r cyhoedd fod yn fwy dadleuol, neu gall ddibynnu ar yr amgylchiadau, a bydd angen tystiolaeth i'w ddangos.

Er enghraifft, gall fod angen dangos rhinweddau pensaernïol neu hanesyddol adeilad sydd i'w gadw, neu rinweddau artistig casgliad celf, os nad hynny'n amlwg.

Byddai natur unrhyw dystiolaeth yn dibynnu ar natur y budd. Mewn rhai achosion gallwn ofyn am dystiolaeth o farn annibynnol, arbenigol gan rywun sy'n gymwysedig mewn maes arbennig. Mewn rhai achosion, gallwn ystyried consensws cyffredinol o farn wrthrychol a gwybodus. Fel arfer sylfaenwyr neu ymddiriedolwyr y sefydliad fydd yn gyfrifol am ddarparu tystiolaeth i ddangos bod nodau eu sefydliad er budd y cyhoedd. Mewn rhai achosion, gallwn hefyd geisio tystiolaeth gan eraill y tu allan i'r sefydliad os oes angen gwneud hynny naill ai i gadarnhau neu i wrthbrofi'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y sefydliad.

Wrth ystyried a yw budd yn amlwg, mae'r llysoedd wedi cymryd y farn nad ydynt mewn sefyllfa i farnu a yw diben gwleidyddol er budd y cyhoedd neu beidio. Nid yw'r Comisiwn Elusennau neu'r Tribiwnlys Elusennau, drwy gyfatebiaeth, mewn sefyllfa i wnaed hynny ychwaith. Ystyr 'diben gwleidyddol' yw unrhyw ddiben sy'n ceisio hyrwyddo buddion unrhyw blaid wleidyddol; neu sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid yn y gyfraith neu bolisi neu benderfyniadau'r llywodraeth ganol neu'r awdurdodau lleol, boed yn y wlad hon neu dramor. Mae hyn yn golygu na all diben gwleidyddol fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus ac felly ni all fod yn ddiben elusennol. Fodd bynnag, mae llawer o ryddid a hyblygrwydd gan elusennau i ymgymryd â gweithgareddau ac ymgyrchu gwleidyddol fel ffordd o gyflawni eu nodau elusennol.

Fe welwch ganllawiau pellach ar hyn yn ein canllaw ar wahân ar Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9).

D3. Egwyddor 1b. Rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r nodau Symbol cyfreithiol

Rhaid i bob elusen weithredu o fewn eu nodau elusennol. Wrth asesu budd cyhoeddus byddwn yn ystyried unrhyw fuddion a ddaw o gyflawni'r nodau hynny.

Mae'r Ddeddf Elusennau yn datgan, er mwyn bod yn elusen, rhaid i sefydliad gael nodau elusennol yn unig, ac er mwyn i nod fod yn elusennol, rhaid iddo fod er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu, wrth asesu a yw sefydliad yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, y buddion sy'n berthnasol i ni eu hystyried yw'r rhai sy'n deillio o ganlyniad i'r sefydliad yn dilyn ei nodau elusennol.

Os oes mwy nag un nod gan sefydliad, rhaid i bob un o'r nodau hynny fod er budd y cyhoedd. Ni ellir defnyddio'r budd cyhoeddus a ddangosir gan un neu fwy o'i nodau er mwyn 'gwneud iawn' am unrhyw ddiffyg budd cyhoeddus a ddaw drwy ei nodau eraill.

Er enghraifft, elusen y celfyddydau sy'n hybu'r celfyddydau trwy lwyfannu perfformiadau opera o'r radd flaenaf mewn adeilad sydd o bwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol. Mae dau nod gan yr elusen. Y nod cyntaf yw hyrwyddo'r gelfyddyd opera. Yr ail yw gwarchod adeilad cenedlaethol pwysig. Ni fyddai'n ddigonol, er enghraifft, pe byddai'r ail nod yn darparu budd i'r cyhoedd ond nid oedd yr un cyntaf yn gwneud hynny.

Gall natur y budd edrych yn wahanol iawn yn dibynnu ar yr hyn y sefydlwyd yr elusen i'w gyflawni. Er bod rhaid i bob elusen gael nodau sydd er budd y cyhoedd, nid yw'r gyfraith yn mabwysiadu'r un mesurau ymarferol i asesu budd cyhoeddus ym mhob math o achos. Mae hyn yn golygu y gall y ffordd y mae'r cyhoedd yn cael budd fod yn wahanol ar gyfer nod elusennol gwahanol.

Er enghraifft, mae'r budd cyhoeddus a ddaw drwy warchod rhywogaethau mewn perygl yn wahanol iawn i'r budd cyhoeddus a ddaw o leddfu tlodi, sydd yn ei dro yn wahanol iawn i'r budd cyhoeddus a ddaw drwy hyrwyddo addysg neu grefydd.

Bydd rhai elusennau yn ymgymryd â gweithgareddau atodol nad ydynt yn gysylltiedig â chyflawni eu nodau elusennol. Gall gweithgareddau o'r fath gael eu caniatáu, ar y sail eu bod yn rhan fach neu atodol o'r hyn a wna'r elusen, ond ni fyddai unrhyw fudd a ddaw drwy weithgareddau o'r fath yn cyfrif tuag at unrhyw asesiad o fudd cyhoeddus nodau'r elusen.

Er enghraifft, gallai elusen chwaraeon amatur gasglu arian i ddioddefwyr trychineb. Gellir caniatáu hyn fel gweithgaredd atodol. Ond nid oes gan y budd cyhoeddus sy'n codi o leddfu angen dioddefwyr y trychineb ddigon sef gysylltiad â'u nod elusennol o hyrwyddo chwaraeon amatur iddo gael ei gyfrif wrth asesu budd cyhoeddus y nod hwnnw.

Weithiau daw buddion o'r hyn a wna elusen sy'n atodol neu heb ei gynllunio ac sydd heb ei gysylltu â'i nodau.

Er enghraifft, mae elusen sy'n ymwneud â chadwraeth adeilad hanesyddol arbennig yn darparu rhinc iâ yn y clos i ddenu ymwelwyr a gwella eu gwerthfawrogiad o'r adeilad cyfagos. Bydd y gwerthfawrogiad gwell o'r adeilad a'r tir o'i gwmpas yn cyfrif tuag at yr asesiad o fudd cyhoeddus. Fodd bynnag, ni fydd y manteision iechyd a gaiff rhai pobl drwy natur gorfforol sglefrio yn cyfrif wrth asesu'r budd cyhoeddus oherwydd nid oes digon o gysylltiad rhyngddo â nodau cadwraeth yr adeilad yr elusen.

Ni ellir defnyddio buddion i'r cyhoedd sydd heb unrhyw gysylltiad â nodau'r sefydliad fel ffordd o ddangos bod y nodau er budd y cyhoedd. Felly ni chânt eu hystyried wrth asesu budd cyhoeddus.

Am y rheswm hwn, mae'n bwysig bod sefydliadau yn gallu adnabod yr hyn y credant sydd wedi'i gwmpasu gan eu nodau, fel y'u pennwyd yn eu hamcanion penodedig, a mynegi hynny'n eglur. Drwy wneud hyn gallwn ni (neu'r Tribiwnlys Elusennau neu'r llysoedd) wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a yw cwmpas y nodau hynny yn elusennol, a pha fuddion sy'n gysylltiedig â'r nodau hynny. Os yw gwaith sefydliad yn cynnig buddion sylweddol y bernir eu bod heb unrhyw gysylltiad â'i nodau, fel y'u mynegir yn ei hamcanion penodedig, gall hyn ddangos:

  • nad yw amcanion y sefydliad yn adlewyrchu ei nod neu ei ystod lawn o weithgareddau yn ddigonol; neu

  • mae'r sefydliad yn ymgymryd â gweithgareddau sydd y tu allan i'w hamcanion penodedig a all awgrymu ei fod yn gweithredu'n groes i'w ymddiriedolaethau.

Gall hyn olygu ein bod naill ai'n:

  • gofyn i'r ymddiriedolwyr elusen ehangu, neu ailddatgan, amcanion y sefydliad er mwyn iddynt adlewyrchu ei nodau yn well, ac yna byddai'r buddion yn cyfrif wrth asesu budd cyhoeddus;

  • gofyn i'r ymddiriedolwyr elusen roi'r gorau i'r gweithgareddau hynny nad ydynt yn cyd-fynd â'i nodau, os yw'n amlwg yn amhriodol i weithgareddau o'r fath barhau; neu

  • ganiatáu i'r gweithgareddau barhau, os yw hynny'n briodol, ond esbonio na fydd buddion gweithgareddau o'r fath yn cyfrif mewn unrhyw asesiad o fudd cyhoeddus yr elusen.

D4. Egwyddor 1c. Rhaid pwyso a mesur buddion yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed Symbol cyfreithiol

Ystyr 'budd' yw'r budd cyffredinol neu glir sy'n cael ei ddarparu i'r cyhoedd. Nid yw'n gwestiwn syml o ddangos y gellir darparu rhywfaint o fudd.

Gall cyflawni nod arbennig ddarparu ychydig o fudd i'r cyhoedd ond, wrth gyflawni'r budd hwnnw, gall gael effeithiau niweidiol neu andwyol hefyd. Wrth asesu budd cyhoeddus sefydliadau unigol, byddwn yn ystyried unrhyw dystiolaeth o effeithiau niweidiol neu andwyol arwyddocaol sy'n deillio o'r sefydliad hwnnw yn ymgymryd â'i nodau mewn amgylchiadau arbennig. Byddai'n rhaid cael rhywfaint o dystiolaeth go iawn o anfantais neu niwed; ni ellir ei dybio yn unig.

Nid yw bodolaeth anfantais neu niwed yn golygu o reidrwydd na all sefydliad fod yn elusennol. Mae'n gwestiwn o gydbwyso'r buddion yn erbyn yr anfantais neu'r niwed.

Os yw'r canlyniadau niweidiol neu andwyol yn fwy na'r buddion, y canlyniad cyffredinol yw na fyddai'r sefydliad yn elusennol.

Gallai enghreifftiau o bethau y gellid rhoi tystiolaeth eu bod yn niweidiol neu'n andwyol gynnwys:

  • rhywbeth sy'n niweidiol i'r amgylchedd;

  • rhywbeth sy'n beryglus neu'n niweidiol i iechyd meddwl neu gorfforol;

  • rhywbeth sy'n annog neu'n hybu trosedd neu gasineb tuag at eraill;

  • cyfyngu ar ryddid rhywun yn anghyfreithlon.

Nid all unrhyw sefydliad sydd â nodau sy'n anghyfreithiol, neu sy'n twyllo neu'n camgynrychioli ei nodau yn fwriadol ac sydd felly'n ffug-sefydliad, fod yn elusen. Os yw'r math hwnnw o anfantais neu niwed yn bresennol nid oes angen cydbwyso oherwydd heb ystyried unrhyw fuddion a allai godi o gyflawni nodau'r sefydliad, ni ellir ei gydnabod yn elusennol.

Yn yr un modd ag ystyried buddion, rydym yn ymwneud â'r anfantais neu'r niwed sy'n codi o'r sefydliad arbennig hwnnw yn cyflawni ei nodau arbennig yn unig. Nid yw'r ffaith y gellid dadlau fod anfantais neu niwed i'r cyhoedd yn gyffredinol yn codi o rai mathau o elusen yn ymgymryd â dibenion elusennol arbennig yn golygu bod y niwed neu'r difrod hwnnw yn bodoli mewn gwirionedd. Neu, os yw'n bodoli, ei fod yn gymwys o reidrwydd i unrhyw sefydliad sydd â'r dibenion elusennol hynny yn ei amcanion.

Os yw'r buddion yn drech na hyn, ni fyddai'r ffaith bod ychydig o niwed amherthnasol yn bodoli yn effeithio ar fudd cyhoeddus.

Er enghraifft, gellid dadlau bod darparu cludiant moduraidd i bobl ag anabledd yn cael rhywfaint o effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Ond, yn gyffredinol, mae buddion cynnig symudedd i bobl ag anabledd yn llawer mwy nag unrhyw effeithiau niweidiol dilynol ar yr amgylchedd. Efallai y bydden yn annog yr elusen i ystyried ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd. Ond, oni bai fod y cludiant yn llygru'r amgylchedd yn ofnadwy am ryw reswm (ac felly'n annhebygol o fod yn addas i'r ffordd fawr beth bynnag), byddem yn ystyried bod y buddion yn drech na'r niwed.

I'r gwrthwyneb, os gall fod ychydig o fudd ond mae'r niwed yn ddigon mawr i fod yn drech na'r buddion, byddai budd cyhoeddus yn cael ei effeithio.

Er enghraifft, cydnabyddwn fod risgiau yn gysylltiedig â chwarae unrhyw gamp. Ond mae rhai chwaraeon peryglus neu 'eithafol' yn cynnwys risgiau sydd yn mynd y tu hwnt i'r risgiau arferol sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff egnïol. Os yw sefydliad yn ymwneud â hybu cyfranogiad mewn camp o'r fath, byddem yn ystyried pa gamau y mae'r sefydliad yn eu cymryd i leihau'r peryglon i ddiogelwch personol a chadw'r risgiau o anaf i'r lleiaf posibl. Os nad oedd camau digonol yn cael eu cymryd i leihau'r risgiau, byddai'r peryglon i iechyd corfforol yn drech o lawer na'r buddion iechyd a allai ddeillio o'r ymarfer corff.

Dd. Egwyddor 2: Rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd

Dd1. Ffactorau pwysig i'w hystyried Symbol cyfreithiol

Mae'r canlynol yn ffactorau pwysig i'w hystyried wrth benderfynu a yw nodau sefydliad yn bodloni egwyddor 'cyhoeddus' y gofyniad budd cyhoeddus:

Egwyddor 2a. Rhaid i'r buddion fod yn briodol i'r nodau (gweler adran Dd2)
Egwyddor 2b. Os cynigir budd i garfan o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i gael budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol (gweler adran Dd3 )

  • drwy gyfyngiadau daearyddol neu gyfyngiadau eraill (gweler adrannau Dd4 - Dd9) neu

  • drwy allu i dalu unrhyw ffioedd a godir (gweler adran Dd10)

Egwyddor 2c. Ni ellir eithrio pobl sy'n byw mewn tlodi o'r cyfle i gael budd (gweler adran Dd11)
Egwyddor 2ch. Rhaid i unrhyw fuddion preifat fod yn atodol (gweler adran Dd12)

Dd2. Egwyddor 2a. Rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r nodau Symbol cyfreithiol

Mae'r 'cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd' ar gyfer unrhyw sefydliad yn seiliedig ar y rhai y mae nodau'r sefydliad yn ceisio rhoi budd iddynt yn bennaf.

Weithiau mae'r nodau yn ceisio rhoi budd i'r cyhoedd yn gyffredinol ac weithiau i garfan o'r cyhoedd. Bydd pwy sy'n cael budd, ac ym mha ffordd, yn dibynnu ar nodau'r sefydliad.

Er enghraifft, yn achos elusen sy'n darparu neuadd bentref leol neu ganolfan gymunedol, gallai'r nodau geisio rhoi budd i bobl sy'n byw mewn tref neu bentref arbennig. Yn achos elusen ymchwil meddygol, gallai'r nodau geisio rhoi budd i ddioddefwyr clefyd arbennig. Yn achos elusen sy'n ymwneud â gwarchod rhywogaethau mewn perygl, gallai'r nodau geisio rhoi budd i'r ddynoliaeth.

Nid yw'r hyn sy'n cael ei ystyried 'y cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd' yn fater syml o rifau, ond ni all nifer y bobl a all gael budd (nawr neu yn y dyfodol) fod yn ddibwys. Yr hyn sy'n bwysig yw pwy allai gael budd, yn ogystal â phwy sy'n cael budd. Rhaid i'r dosbarth o bobl a all gael budd fod yn ddosbarth cyhoeddus. Yn gyffredinol, rhaid i'r dosbarth cyhoeddus fod yn ddigon mawr neu agored ei natur o ystyried y nod elusennol sydd i'w gyflawni. Gall nifer y bobl a all gael budd ar unrhyw adeg arbennig fod yn weddol fach ar yr amod bod unrhyw un sy'n gymwys i fod yn fuddiolwr yn gallu cael ei ystyried. Mae elusen yn darparu budd i'r cyhoedd os yw'r buddion y mae'n eu cynnig ar gael yn gyffredinol, er mai dim ond ychydig o bobl mewn gwirionedd sy'n gallu manteisio ar y buddion hynny o bryd i'w gilydd.

Er enghraifft, gallai elusen gyda nifer fach o fuddiolwyr fod yn un sy'n cynnig nifer fach o leoedd ar gyfer y gwasanaethau y mae'n ei gynnig, megis nifer fach o ystafelloedd mewn elusendy neu gartref gofal. Yr hyn sy'n bwysig yw y gall unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais gael ei ystyried am y lleoedd hynny.

Gall 'y cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd' gynnwys aelodau o genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â chenhedlaeth heddiw. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ni ddylai darparu budd i genedlaethau'r dyfodol fod ar draul cenedlaethau heddiw yn gyfan gwbl. Rhaid cael cydbwysedd rhwng darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a darparu budd i bobl yr oes sydd ohoni.

Er enghraifft, er mwyn sicrhau cynaladwyedd y blaned i genedlaethau'r dyfodol, gall fod angen i genhedlaeth heddiw newid eu ffordd o fyw neu osod cyfyngiadau tymor byr er mwyn sicrhau buddion amgylcheddol mwy hir dymor ar gyfer y dyfodol. Yn yr un modd, gall fod angen cyfyngu ar fynediad neu wahardd mynediad i safle pensaernïol neu ardal gadwraeth bwysig, neu i genhedlaeth yr oes sydd ohoni er mwyn ei gadw at y dyfodol. Ond rhaid i'r budd a ddaw o ddarparu ar gyfer lleddfu newyn cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft, gael ei gydbwyso yn erbyn yr angen i ddarparu ar gyfer pobl sy'n marw o newyn heddiw.

Os yw'r nodau yn bwriadu cynnig budd i'r cyhoedd yn gyffredinol mae'n amlwg bod hyn yn cael ei ystyried yn ddosbarth cyhoeddus o bobl. Os yw'r nodau yn bwriadu cynnig budd i garfan o'r cyhoedd, rhaid i'r bobl a all gael budd fod yn ddosbarth 'cyhoeddus' o bobl digonol er mwyn gallu dweud bod y nodau er budd y 'cyhoedd'. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y cyfle i bobl gael budd heb ei gyfyngu'n afresymol o ystyried natur y nodau elusennol sydd i'w cyflawni a'r adnoddau sydd ar gael i'r sefydliad.

Os yw'r dosbarth o bobl y mae'r nodau yn bwriadu cynnig budd iddynt yn cael eu cyfyngu'n afresymol nid ydynt yn 'garfan o'r cyhoedd'. Os mai dyma yw'r achos, byddai'n rhaid i'r sefydliad ehangu'r dosbarth o bobl a all gael budd, neu ni fyddai'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Mae adrannau Dd3 - Dd10 isod yn esbonio yn fwy manwl pa ffactorau sy'n berthnasol wrth ystyried a yw'r cyfle i bobl gael budd neu beidio wedi'i gyfyngu'n rhesymol neu'n afresymol.

Dd3. Egwyddor 2b. Os cynigir budd i garfan o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i gael budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol Symbol cyfreithiol

Os na ddarperir budd i'r cyhoedd yn gyffredinol, gellir ei ddarparu i 'garfan o'r cyhoedd' os yw cyfyngu'r budd yn y ffordd hon yn rhesymol ac yn berthnasol i'r nodau elusennol. Bydd budd cyhoeddus yn cael ei effeithio os yw'r cyfyngiadau yn afresymol.

Y man cychwyn i elusen fel arfer fyddai darparu cymaint o fudd â phosibl, gan ystyried natur ei nodau a'r adnoddau sydd ganddi. Yn gyffredinol, po fwyaf yw angen unigol sydd gan y buddiolwyr, neu'r mwyaf cyfyngedig yr adnoddau sydd ar gael i'r elusen, y mwyaf o gyfiawnhad fydd ar gyfer cyfyngu ar nifer y bobl a all gael budd.

I fod yn elusen, os yw'r buddiolwyr yn 'garfan o'r cyhoedd', rhaid i unrhyw gyfyngiadau ar bwy all gael budd fod yn 'rhesymol'. Mae hynny'n golygu bod y cyfyngiadau yn deg, yn gymesur, yn rhesymol ac mae modd eu cyfiawnhau yn wyneb natur nodau elusennol y sefydliad. Nid yw'n elusennol i gyfyngu ar bwy all gael budd trwy gyfeirio at feini prawf sydd heb eu cysylltu â'r nodau elusennau sydd i'w cyflawni.

Gall cyfyngiad ar bwy all gael cyfle i gael budd fod yn rhesymol:

  • os yw'r dosbarth o bobl a all gael budd yn ddigon eang neu agored ei natur (o ystyried y nodau elusennol sydd i'w cyflawni a'r adnoddau sydd ar gael i'r elusen) i gael ei ystyried yn garfan ddigonol o'r cyhoedd; neu

  • oherwydd bod gan y dosbarth o bobl y mae'r nodau yn bwriadu cynnig budd iddynt angen elusennol arbennig sy'n cyfiawnhau cyfyngu'r buddion iddynt.

Deellir bod cymdeithas, neu'r cyhoedd yn gyffredinol, yn cael budd o unrhyw elusen sy'n cynnig budd i garfan o'r cyhoedd. Ond nid yw bodolaeth y buddion ehangach hynny i'r cyhoedd yn golygu bod cyfyngu ar bwy all gael budd yn rhesymol o reidrwydd oherwydd y buddion ehangach hynny. Rhaid i'r cyfyngiad fod yn rhesymol ac, os yw, derbynnir y bydd cymdeithas gyfan yn cael budd trwy helpu'r garfan honno o gymdeithas.

Mae buddion rhai nodau elusennol yn mynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol neu gyfyngiadau eraill. Mewn rhai achosion, mae natur yr amcan elusennol yn golygu na fyddai'n briodol i gyfyngu'r buddion i garfan o'r cyhoedd.

Er enghraifft, mae gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl neu gyhoeddi gwaith ymchwil ar driniaeth newydd ar gyfer clefyd arbennig yn fathau o nodau elusennol sy'n bwriadu cynnig budd i bawb.

Gellid cyfyngu ar y dosbarth o bobl sydd â'r cyfle i gael budd mewn sawl ffordd.

Mewn rhai achosion mae'r cyfyngiadau yn amlwg o'r ffordd y mae'r amcanon wedi'u geirio (gweler adrannau Dd4 - Dd6).

Er enghraifft:

  • cyfyngiadau daearyddol - lle mae'r buddiolwyr wedi'u diffinio ar sail ble maen nhw'n byw (gweler adran Dd4);

  • cyfyngiadau yn seiliedig ar angen elusennol - lle mae'r buddiolwyr wedi'u diffinio ar sail rhyw angen cyffredin, megis tlodi, oedran, afiechyd, anabledd, amgylchiadau cymdeithasol neu economaidd, ac ati (gweler adran Dd5);

  • cyfyngiadau yn seiliedig ar nodweddion personol - lle mae'r buddiolwyr wedi'u diffinio trwy gyfeirio at eu rhyw, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, neu nodwedd ddiffiniol arall (gweler adran Dd6).

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl na fydd y cyfyngiadau yn amlwg o'r ffordd y mae'r amcanon wedi'u geirio, ond maent yn bodoli yn ymarferol (gweler adrannau Dd7 - Dd10).

Er enghraifft:

  • cyfyngiadau ar fynediad i gyfleusterau - lle mae cyfyngiadau ar bwy all gael mynediad, beth y gellir cael mynediad iddo neu hyd a lled y mynediad (gweler adran Dd7);

  • cyfyngiadau yn seiliedig ar gymhwyster ar gyfer aelodaeth - os yw'r buddion yn cael eu cynnig trwy aelodaeth (gweler adran Dd8);

  • cyfyngiadau yn seiliedig ar ddisgresiwn ymddiriedolwyr - lle mae'r buddion wedi'u cyfyngu i grŵp arbennig o bobl dim ond ar sail ymarfer disgresiwn yr ymddiriedolwyr (gweler adran Dd9);

  • cyfyngiadau yn seiliedig ar allu i dalu unrhyw ffioedd a godir - lle mae codi ffioedd yn cael yr effaith ymarferol o gyfyngu budd dim ond i'r rhai sy'n gallu fforddio talu'r ffioedd a godir (gweler adran Dd10).

Er nad yw cyfyngiadau o'r fath efallai'n ymddangos yng ngeiriad yr amcanion, maent yn parhau i fod yn berthnasol wrth benderfynu a fydd neu a all nodau'r sefydliad gael eu cyflawni er budd y cyhoedd.

Ni ddylai elusennau gael eu gweld fel 'clybiau dethol' y gall rhai pobl ymuno â nhw yn unig, oherwydd mae'r budd 'cyhoeddus' a ddaw o hynny yn gyfyngedig iawn. Yn gyffredinol, y mwyaf agored, eang ei orwelion a chynhwysol y nodau, mwyaf y budd 'cyhoeddus'. Felly, os yw nodau elusen yn fwy caeedig, cul ei orwelion a dethol, gall fod angen mwy o gyfiawnhad dros y cyfyngiad er mwyn dangos bod budd 'cyhoeddus' digonol.

Dd4. Cyfyngiadau daearyddol

Mewn sawl achos, mae'r nodau yn bwriadu cynnig budd i bobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol arbennig.

Yn gyffredinol, mae'n rhesymol i nodau elusen geisio cynnig budd i bobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol arbennig, megis pentref, tref, dinas, sir neu wlad. Mae cyfyngu budd i bobl sy'n byw mewn stryd arbennig, neu rhai tai a enwir, yn debygol o fod yn ardal rhy fach i gael ei hystyried yn 'garfan o'r cyhoedd'. Mewn rhai achosion, gall cyfyngu budd i ward neu blwyf fod yn dderbyniol; mae'n dibynnu ar nodau'r elusen. Hefyd, yn ogystal â'r cyfyngiadau daearyddol, gall fod neu ni all fod yn briodol i roi cyfyngiadau pellach ar bwy all gael budd.

Er enghraifft, mewn achos sy'n cynnwys sefydliad adloniadol, roedd y llysoedd wedi ystyried yr enghraifft ddamcaniaethol o ddarparu pont er budd Methodistiaid mewn ardal arbennig. Roedd y llysoedd wedi barnu na fyddai cyfyngiad o'r fath yn rhesymol oherwydd byddai'r budd wedi'i gyfyngu i ddosbarth o bobl rhy gyfyngedig. Ni fyddai angen arbennig ar Fethodistiaid yn yr ardal am bont nad oedd gan bobl eraill yn yr ardal hefyd. Felly ni fyddai unrhyw gyfiawnhad dros gyfyngu'r budd yn y ffordd honno.

Os yw'r nodau yn bwriadu cynnig budd i bobl sydd wedi'u diffinio trwy gyfeirio at ardaloedd daearyddol yna dylai'r ardaloedd hynny gael eu diffinio'n glir. Nid oes rhaid i'r ardaloedd daearyddol fod yng Nghymru a Lloegr. Gall sefydliad fod yn elusen a gafodd ei sefydlu a'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr ond mae eu buddiolwyr i gyd yn dod o'r tu allan i'r ardal honno.

Gall elusennau weithredu'n lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.

Dd5. Cyfyngiadau yn seiliedig ar angen elusennol

Mewn rhai achosion mae'r nodau yn bwriadu cynnig budd i bobl sydd wedi'u diffinio ar sail rhyw angen elusennol cyffredin, megis tlodi, oedran, afiechyd, anabledd, neu amgylchiadau cymdeithasol neu economaidd eraill.

Gall 'carfan o'r cyhoedd' hefyd olygu cymunedau cymdeithasol neu economaidd, hy pobl sydd wedi'u cysylltu gan ryw angen elusennol neu amgylchiadau cymdeithasol arbennig neu sy'n rhannu anfantais gyffredin.

Er enghraifft:

  • plant a phobl ifanc;

  • pobl oedrannus;

  • pobl ag anabledd;

  • pobl â chlefyd neu gyflwr meddygol arbennig;

  • pobl sy'n byw mewn tlodi;

  • pobl y mae eu gwaith yn cael ei ystyried yn hanfodol i ardal - weithiau'n cael eu galw'n 'weithwyr allweddol'.

Fel arfer gall cyfyngu buddion i grŵp o'r fath gael ei ystyried yn rhesymol oherwydd bod angen elusennol ganddynt sy'n cael ei leddfu neu ei ystyried.

Dd6. Cyfyngiadau yn seiliedig ar nodweddion personol

Mewn rhai achosion mae'r nodau yn bwriadu cynnig budd i bobl sydd wedi'u diffinio trwy gyfeirio at ryw nodwedd bersonol, megis eu rhyw, hil, tarddiad ethnig, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol neu nodwedd ddiffiniol arall.

Mae cyfyngu buddion i bobl sydd wedi'u diffinio fel hyn yn gallu cael ei ystyried yn rhesymol, neu beidio. Mae’n dibynnu ar y nodau elusennol sydd i'w cyflawni.

Er enghraifft, byddai cyfyngu buddion i ddynion neu fenywod yn rhesymol dim ond yn achos sefydliad sy'n ymwneud â materion iechyd dynion neu fenywod, gan fod y dosbarth o fuddiolwyr yn amlwg wedi'i gysylltu â'r nod elusennol. Fodd bynnag, ni fyddai cyfyngu buddion mewn ffordd o'r fath yn rhesymol yn achos sefydliad sy'n ymwneud â darparu neuadd bentref neu ganolfan gymunedol, a ddylai fod yn gyfleuster cyffredinol i bob un o'r trigolion lleol ei ddefnyddio waeth beth fo'u rhyw.

Mae'r angen i gael cyswllt rhesymol rhwng unrhyw gyfyngiad ar bwy all gael budd a'r nod elusennol sydd i'w gyflawni wedi cael ei danlinellu yn ddiweddar trwy ddatblygiadau yn y gyfraith gwahaniaethu. Mae eithriadau ar hyn o bryd i elusennau o'r gyfraith gyffredinol sy'n gwahardd gwahaniaethu mewn darparu gwasanaethau ar sail rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd. Y rheswm am hwn yw oherwydd ei fod yn gyfreithlon i elusennau gyfyngu eu buddion os yw hynny'n berthnasol i'w nodau elusennol. Fodd bynnag, er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddyd Rhyw yr UE, mae cynigion i gyfyngu'r eithriad i elusennau yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 i amgylchiadau lle mae nod cyfreithlon yn cael ei ddilyn neu mae anfantais arbennig yn cael ei ystyried.

Er enghraifft, gall fod yn rhesymol i gyfyngu buddiolwyr ar sail rhyw os yw hynny'n cynnwys gwarchod dioddefwyr trais sy'n gysylltiedig â rhyw, hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau neu am resymau preifatrwydd neu barchusrwydd

Nid yw Cyfarwyddyd Rhyw yr UE yn gymwys i addysg. Mae hyn yn golygu y gall fod yn elusennol i gael elusen addysgol un rhyw, megis ysgol un rhyw.

Os yw'r buddiolwyr wedi'u diffinio gan nodwedd bersonol, mae'n rhaid i ni ystyried y canlynol ym mhob achos:

  • pam bod y cyfyngiad yno; a

  • pham bod y cyfyngiad yn rhesymol yng nghyd-destun y nodau elusennol sydd i'w cyflawni (megis pa angen arbennig sydd gan y bobl hyn am y gwasanaeth neu'r cyfleuster)?

Fel rheol gyffredinol, ni ellir diffinio'r buddiolwyr trwy gysylltiad personol, megis perthynas deuluol neu gyflogwr cyffredin. Fodd bynnag, mae eithriad i'r rheol gyffredinol hon i elusennau sy'n ymwneud â lleddfu tlodi. Mae'r llysoedd wedi derbyn bod elfen gyhoeddus o'r fath yn rhan hanfodol o leddfu tlodi ac felly gallai hyd yn oed grŵp diffiniedig cyfyng iawn o bobl sy'n byw mewn tlodi gael ei ystyried yn 'garfan o'r cyhoedd'.

Er enghraifft, gall ymddiriedolaethau 'perthnasau tlawd' (sy'n ymwneud â lleddfu tlodi pobl sydd â chysylltiad teuluol arbennig) a chronfeydd llesiannol gweithwyr (sy'n ymwneud â lleddfu tlodi pobl sydd wedi'u cysylltu trwy gyflogwr cyffredin) fod yn elusennol.

Nid yw'r llysoedd wedi derbyn bod diffinio'r buddiolwyr trwy gyfeirio at gysylltiadau teuluol neu gyflogwr yn rhesymol i sefydliadau nad ydynt yn ymwneud â lleddfu tlodi.

Wrth ddiffinio pwy all gael budd, rhaid i ymddiriedolwyr elusen hefyd ystyried effeithiau eraill deddfwriaeth gwahaniaethu.

Er enghraifft, er bod modd diffinio buddiolwyr trwy gyfeirio at hil, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, mae Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yn atal elusennau rhag diffinio eu buddiolwyr trwy liw croen. Os yw elusen yn diffinio ei buddiolwyr trwy gyfeirio at liw eu croen yn ei hamcanion, effaith Deddf Cysylltiadau Hiliol yw bod yr amcanion yn cael eu trin fel pe bai'r cyfeiriad hwnnw wedi cael eu gadael allan.

Felly, byddai elusen gydag amcanion sy'n darllen "er budd menywod duon sydd mewn angen ariannol" yn cael eu trin fel elusen gyda'r amcanion "er budd menywod sydd mewn angen ariannol".

Dd7. Cyfyngiadau ar fynediad i gyfleusterau

Mewn rhai achosion, rhoddir cyfyngiadau ar bwy all gael mynediad i gyfleusterau a ddarperir gan elusen, beth y gellir cael mynediad iddo neu faint o fynediad y gall pobl ei gael.

Os yw nodau sefydliad yn ymwneud â darparu neu gynnal cyfleusterau arbennig er budd y cyhoedd, dylai unrhyw gyfyngiadau ar fynediad cyhoeddus (megis oriau agor cyfyngedig neu derfyniadau ar y mannau y gall pobl gael mynediad corfforol iddynt) fod yn rhesymol ac yn briodol yn yr amgylchiadau. Mewn achosion o'r fath, rhaid i hyd a lled y mynediad cyhoeddus (sut bynnag y'i darperir) fod yn ddigonol yn gyffredinol er mwyn i nodau'r sefydliad gael eu cyflawni er budd y cyhoedd.

Hefyd, rhaid i ymddiriedolwyr elusen sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith sy'n ymwneud â mynediad i gyfleusterau.

Er enghraifft, os yw'n briodol, rhaid i ymddiriedolwyr dilyn darpariaethau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a 2005 ynghylch darparu mynediad corfforol i adeiladau i bobl anabl.

Dd8. Cyfyngiadau yn seiliedig ar gymhwyster ar gyfer aelodaeth

Mewn rhai achosion, mae buddion nodau sefydliad yn cael eu darparu trwy strwythur aelodaeth.

Mae strwythur aelodaeth gan rai elusennau lle mae aelodau yn fuddiolwyr yr elusen hefyd. Yn yr achos hwn, dylai unrhyw gyfyngiadau sy'n cael eu rhoi ar bwy all ymuno fel aelod fod yn rhesymol a rhaid bod modd eu cyfiawnhau yn yr amgylchiadau er mwyn peidio ag effeithio ar fudd cyhoeddus y sefydliad.

Er enghraifft, os oes rhaid i unigolyn fod yn aelod er mwyn cael budd, mae'n bosibl na fydd gan system aelodaeth sy'n gofyn i aelodau posibl gael eu cynnig a'u heilio gan aelodau presennol yn cynnwys yr elfen 'gyhoeddus' angenrheidiol oherwydd ei fod yn glwb aelodau preifat yn y bôn.

Fodd bynnag, gall fod yn briodol i gyfyngu'r rhai sy'n gallu bod yn aelodau, mewn rhai amgylchiadau, os yw wedi'i gysylltu â nodau'r elusen.

Er enghraifft, gall aelodaeth (ac felly'r buddiolwyr) gael eu cyfyngu i:

  • bobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol arbennig;

  • os yw strwythur aelodaeth arbennig yn briodol er mwyn darparu buddion yn well (ar yr amod bod pawb a allai gael budd yn gallu gwneud cais i ymuno ac mae meini prawf gwrthrychol ar gyfer penderfynu ar aelodaeth);

  • os yw rhesymau ymarferol (megis lle cyfyng) yn golygu bod rhaid cyfyngu ar nifer yr aelodau, megis lle mae mynediad cyfyngedig i gyfleusterau adloniadol am resymau iechyd a diogelwch. (Mewn achosion o'r fath mae'n rhesymol i gael rhestr aros ar gyfer aelodaeth ar yr amod bod yr aelodaeth nesaf sydd ar gael yn cael ei chynnig ar sail 'y cyntaf i'r felin').

Yn achos rhai elusennau aelodaeth, nid aelodaeth yw'r ffordd y bydd pobl yn cael budd o'r elusen. Os mai dyma yw'r achos, nid yw aelodaeth gyfyngedig yn berthnasol wrth ystyried budd cyhoeddus.

Er enghraifft, yn achos corff proffesiynol neu gymdeithas ddysgedig, gall aelodaeth gael ei chyfyngu i aelodau proffesiwn arbennig neu i bobl sy'n meddu ar rai cymwysterau academaidd. Os yw pobl yn gallu cael budd o erthyglau dysgedig sy'n cael eu cyhoeddi gan y gymdeithas, er enghraifft, neu drwy gymhwyso'r wybodaeth y bydd y gweithiwr proffesiynol yn ei gael o fod yn aelod o'r corff proffesiynol, nid yw'r cyfyngiad ar aelodaeth yn effeithio ar fudd cyhoeddus oherwydd nid aelodaeth yw'r unig ddull, neu'r prif ddull y gall pobl gael budd drwyddo.

Dd9. Cyfyngiadau yn seiliedig ar ddisgresiwn ymddiriedolwyr

Mewn rhai achosion, gall ymddiriedolwyr sefydliad arbennig ddymuno cyfyngu buddion i grŵp arbennig o bobl dim ond ar y sail eu bod yn ymarfer eu disgresiwn.

Gall fod rhywfaint o ddisgresiwn gan sylfaenwyr ac ymddiriedolwyr o ran penderfynu pwy ddylai gael budd. Os yw defnyddio'r disgresiwn hwnnw yn cael ei ganiatáu o fewn amcanion penodedig yr elusen, ac os yw'r bobl a fydd yn cael cyfle i gael budd yn cael ei ystyried yn 'garfan o'r cyhoedd', gellid dweud bod cyfyngiad o'r fath yn rhesymol.

Er enghraifft, byddai'n rhesymol i ymddiriedolwyr elusen gyffredinol sy'n rhoi grantiau ac sy'n ymwneud â'r lefel gynyddol o dlodi plant ddewis rhoi budd, yn arbennig, i bobl sy'n byw mewn tlodi.

Fodd bynnag, os mai effaith defnyddio'r disgresiwn hwnnw yw nad yw'r bobl a all gael cyfle i gael budd yn ffurfio 'carfan o'r cyhoedd', neu ni ellir dweud bod y cyfyngiad yn rhesymol (oherwydd nid yw'n gysylltiedig â'r nodau elusennol neu unrhyw angen elusennol arbennig, er enghraifft), yna byddai'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ddefnyddio eu disgresiwn mewn ffordd wahanol neu ni fyddai'r sefydliad yn elusennol.

Dd10. Cyfyngiadau yn seiliedig ar allu i dalu unrhyw ffioedd a godir

Gall elusennau godi tâl am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau y maent yn eu darparu. Gallant godi ffi hefyd sy'n fwy na chost y gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny, ar yr amod bod y ffi yn rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn cyflawni nodau'r elusen, er enghraifft, cynnal neu ddatblygu'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Fodd bynnag, os mai effaith ymarferol codi tâl yw cyfyngu'r buddion i'r bobl hynny a all fforddio talu'r ffioedd a godir, gall olygu nad yw'r buddion ar gael i garfan ddigonol o'r cyhoedd.

Mae enghreifftiau o elusennau a all godi tâl ar eu defnyddwyr i ddefnyddio eu gwasanaethau a'u cyfleusterau yn cynnwys:

  • sefydliadau addysgol (megis ysgolion a phrifysgolion);

  • ysbytai preifat;

  • cartrefi gofal;

  • elusennau adloniadol (megis canolfannau chwaraeon neu hamdden, caeau chwarae neu neuaddau pentref) sy'n codi tâl am hurio cyfleusterau;

  • elusennau artistig, cadwraeth a gwarchod (megis theatrau, amgueddfeydd a phlastai) sy'n codi tâl mynediad i weld perfformiadau, arddangosfeydd, tir neu adeiladau;

  • elusennau sy'n codi tâl am aelodaeth (boed yn flynyddol, yn dymhorol neu'n ddyddiol); ac

  • elusennau sy'n codi tâl am gyhoeddiadau.

Ni ddylid drysu rhwng codi tâl a ffurfiau eraill o gyfraniad ariannol i elusennau, megis cyfraniadau i elusennau crefyddol, y mae eu credoau craidd yn gallu cynnwys cyfraniad ariannol gan ddilynwyr, ar ffurf degymau, dyweder. Yn gyffredinol, os nad yw'r budd yn dibynnu ar dalu cyfraniad ariannol ni fydd hyn yn effeithio ar fudd cyhoeddus. Fodd bynnag, gallai budd cyhoeddus gael ei effeithio mewn amgylchiadau lle mae'r cyfraniad ariannol yn cael ei ddefnyddio'n ymarferol (os nad swyddogol) fel ffordd o gyfyngu ar bwy all ymuno neu gael budd - er enghraifft, os oes pwysau mawr yn cael eu rhoi ar fuddiolwyr i wneud cyfraniad ariannol sylweddol beth bynnag fo'u sefyllfa ariannol.

Wrth ystyried i ba raddau y gallai codi tâl effeithio ar allu elusen i fodloni egwyddor gyhoeddus y gofyniad budd cyhoeddus, dilynir yr egwyddorion cyffredinol canlynol:

  • wrth benderfynu a oes gan sefydliad nodau sydd er budd 'cyhoeddus', mae gwahanol fathau o fuddion i'r buddiolwyr arfaethedig yn cael eu hystyried;

  • nid yw'r ffaith y codir tâl am gyfleusterau neu wasanaethau elusennol, ac y byddant yn cael eu darparu'n bennaf i bobl sy'n gallu fforddio talu, yn golygu o reidrwydd nad oes gan y sefydliad unrhyw nodau sydd er budd y cyhoedd; fod bynnag

  • ni fyddai gan sefydliad sy'n eithrio pobl o'r cyfle i gael budd oherwydd eu hanallu i dalu unrhyw ffioedd a godir nodau sydd er budd cyhoeddus.

Wrth asesu'r budd cyhoeddus cyffredinol a ddarperir gan elusen sy'n codi ffioedd byddwn yn ystyried y buddion cyfan sy'n codi drwy gyflawni ei nodau. Fodd bynnag, os nad yw'r bobl y mae'r nodau yn bwriadu cynnig budd iddynt yn garfan ddigonol o'r cyhoedd, ni fydd nodau'r sefydliad er budd cyhoeddus.

Nid yw 'peidio ac eithrio' pobl nad ydynt yn gallu talu'r ffioedd o'r cyfle i gael budd yn golygu darparu rhyw 'arwydd' o fudd i bobl o'r fath. Dylai fod yn fwy na budd minimal neu enwol ac nid yw'n cynnwys budd sy'n codi trwy hap a damwain yn unig. Ond nid yw'n golygu ychwaith bod rhaid cael dim rhwystrau ariannol i gael buddion.

Felly, os yw elusennau yn codi ffioedd, rhaid i'r bobl na allant dalu'r ffioedd hynny allu cael budd, er hynny, mewn rhyw ffordd berthnasol sy'n gysylltiedig â nodau'r elusen. Nid yw hynny'n golygu bod rhaid i elusennau gynnig gwasanaethau yn rhad ac am ddim. Nid yw'n golygu ychwaith bod rhaid i bobl na allant dalu'r ffioedd gael budd, yn yr ystyr eu bod yn dewis manteisio ar y budd. Ni ellir eu heithrio o'r cyfle i gael budd, os ydynt yn gwneud hynny neu beidio.

Wrth asesu effaith unrhyw newidiadau byddwn yn ystyried:

  • natur y nod elusennol arbennig (a'r gyfraith sy'n gymwys iddo);

  • lefel y ffioedd a godir;

  • amgylchiadau arbennig y sefydliad; ac

  • amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y mae'n cyflawni ei waith oddi danynt.

Bydd y dulliau y gall pobl na allant dalu'r ffioedd gael budd yn amrywio yn dibynnu ar nodau ac amgylchiadau pob sefydliad. Ar yr amod y gellir dangos bod cyfle gan y bobl hynny i gael budd mewn ffordd berthnasol sy'n gysylltiedig â nodau'r elusen, yn gyffredinol, bydd yn fater i'r ymddiriedolwyr benderfynu pa ddulliau y byddant yn eu defnyddio i sicrhau a dangos bod nodau eu helusen er budd y cyhoedd.

Er enghraifft, yn achos elusen y celfyddydau sy'n codi ffioedd, gallai ddarparu ystod o fuddion gan gynnwys:

  • cynnig mynediad i'r cyhoedd i safon uchel o waith artistig;

  • darparu seddi am ddim neu gymorthdaledig mewn perfformiadau i bobl na allant fforddio talu'r ffioedd llawn (megis darparu consesiynau i fyfyrwyr, pensiynwyr a'r digyflog neu bartïon ysgol) a threfnu darllediadau teledu a radio o berfformiadau i gyrraedd cynulleidfa ehangach;

  • darparu deunydd addysgol y celfyddydau ar y rhyngrwyd;

  • cefnogi grwpiau'r celfyddydau a darparu hyfforddiant arbenigol yng nghelfyddyd canu, cerddoriaeth, drama, dawns ac ati;

  • darparu llefydd i'r celfyddydau, cydweithio â Chynghorau'r Celfyddydau, datblygu sgiliau crefft a thechnegol a gweithio gydag aelodau cymunedau lleiafrifoedd ethnig; a

  • diogelu'r celfyddydau er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Mewn achosion lle y codir ffioedd am wasanaethau neu gyfleusterau, byddwn yn ystyried y materion canlynol:

1.

Ydy lefel y ffioedd yn cael yr effaith o atal pobl na allant dalu'r ffioedd rhag cael budd o'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau?

2.

Os mai dyma yw'r achos, oes modd dangos bod pobl na allant dalu'r ffioedd heb gael eu heithrio o'r cyfle i gael budd.

3.

All pobl a sut gall pobl na allant dalu'r ffioedd gael budd fel arall o'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny.

4.

Natur a hyd a lled y buddion eraill a ddarperir.

Esbonnir y materion hyn yn fwy manwl isod.

1. Ydy lefel y ffioedd yn cael yr effaith o atal pobl na allant dalu'r ffioedd rhag cael budd o'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau

Yn amlwg bydd hyn yn dibynnu ar lefel y ffioedd a godir a'r gwasanaeth a ddarperir. Bydd nifer y bobl na allant gael budd o wasanaethau neu gyfleusterau'r elusen yn amrywio mewn perthynas uniongyrchol â lefel y ffioedd a godir.

Er enghraifft, os codir ffioedd o £20,000 i fynychu cwrs hyfforddiant galwedigaethol, mae'n debyg y bydd nifer fawr o bobl wedi'u heithrio rhag cael y cyfle i fudd o'r hyfforddiant hwnnw oherwydd na allant dalu'r ffioedd hynny. Fodd bynnag, os yw'r ffioedd a godir yn 50 ceiniog i gael mynediad i gyfleusterau canolfan gymunedol, neu danysgrifiad bach i ymuno â grŵp lleol sy'n defnyddio'r ganolfan gymunedol, nid yw'r rhai na allant fforddio'r ffioedd hynny, ac felly a allai gael eu heithrio o'r cyfle i gael budd, yn debygol o fod yn uchel iawn.

Mae natur y gwasanaeth a pha mor aml neu reolaidd y mae gwasanaeth o'r fath yn debygol o gael ei ddefnyddio, neu bydd galw amdano, a'r ymrwymiad ariannol dilynol sy'n debygol o fod yn ofynnol gan fuddiolwyr, hefyd yn ffactorau i'w hystyried wrth asesu lefel y ffioedd.

Er enghraifft, fel arfer bydd addysgu plentyn mewn ysgol arbennig yn gofyn am ymrwymiad o nifer o flynyddoedd. Nid yw addysg yn rhywbeth y gellir ei darparu am ychydig wythnosau'r flwyddyn yn unig neu nawr ac yn y man yn unig. Yn yr un modd, mae gofal meddygol neu breswyl tymor hir yn gofyn am ymrwymiad ariannol parhaus. Fodd bynnag, gellir mynychu perfformiad operatig neu theatr, neu ymweld ag adeilad hanesyddol er enghraifft, yn fwy afreolaidd o bryd i'w gilydd yn unol â dewis a sefyllfa ariannol yr unigolyn. Hyd yn oed pryd hynny, mae'r cwestiwn o allu fforddio pris y tocynnau a'r effaith y cânt ar gyfle unigolyn i gael budd yn dal i godi. Er enghraifft, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cael cyfle i gael budd o daith i'r theatr os yw pris y tocynnau tua £10. Ond mae pris tocynnau tua £100 yn llai fforddiadwy i nifer o bobl ac felly byddai'n ei gwneud hi'n fwy anodd iddynt gael y cyfle i gael budd, heblaw ar sail anaml iawn.

2. Os mai dyma yw'r achos, oes modd dangos bod pobl na allant dalu'r ffioedd heb gael eu heithrio o'r cyfle i gael budd

Os na all pobl gael budd o elusen, oherwydd na allant fforddio talu'r ffioedd a godir am ei gwasanaethau, rhaid bod ffyrdd neu gyfleoedd perthnasol eraill, sy'n gysylltiedig â'r nodau, ar gael iddynt gael budd.

Anogir elusennau sy'n codi ffioedd i fod yn gadarnhaol, yn flaengar ac yn greadigol wrth ystyried sut i gynnig y buddion mwyaf posibl i'r cyhoedd, ac yn arbennig, i bobl na allant fforddio talu'r ffioedd a godir.

Mae enghreifftiau o'r ffyrdd y gallai sefydliadau ddarparu buddion i bobl na allant dalu'r ffioedd yn cynnwys:

  • darparu consesiynau, wedi'u cymorthdalu neu leoedd am ddim. Er enghraifft, yn achos ysgolion, drwy gynnig bwrsariaethau neu leoedd cymorthedig, neu yn achos theatrau neu neuaddau cyngerdd, drwy gynnig tocynnau gyda chonsesiynau;

  • bodolaeth yswiriant hygyrch neu gynlluniau budd eraill, er enghraifft, cynlluniau yswiriant meddygol. Ond byddai hynny'n dibynnu ar gost cynlluniau o'r fath a pha fathau o wasanaethau y mae hawl gan bobl eu cael oddi danynt;

  • bodolaeth ffynonellau cyllid dibynadwy eraill sydd ar gael yn benodol i fuddiolwyr, neu y gall buddiolwyr gael rhywfaint o hawl i'w cael, i helpu i dalu costau unrhyw ffioedd a godir, ee, trefniant cyllido rhwng ysgol annibynnol a chorff gwneud grantiau ar wahân, ond cysylltiedig, neu gyllid a gynigir gan awdurdod lleol i dalu am le mewn cartref gofal;

  • darparu mynediad ehangach i gyfleusterau neu wasanaethau elusennol. Gall rhai elusennau ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau ychwanegol i bobl a fyddai fel arall wedi'u heithrio oherwydd na allant dalu'r ffioedd. Gall rhai elusennau fenthyca offer neu staff i elusennau neu grwpiau eraill sy'n darparu'r un cyfleusterau neu wasanaethau i bobl na allant dalu'r ffioedd. Er enghraifft, ysgol annibynnol elusennol yn caniatáu i ysgol y wladwriaeth a gynhelir ddefnyddio ei chyfleusterau addysgol;

  • y buddion addysgol i ddisgyblion ysgol y wladwriaeth sy'n gallu mynychu rhai gwersi neu ddigwyddiadau addysgol eraill mewn ysgolion annibynnol;

  • y buddion addysgol i ddisgyblion mewn ysgolion y wladwriaeth sy'n codi o gydweithredu a phartneriaethau rhwng ysgolion y wladwriaeth ac ysgolion annibynnol;

  • y buddion o fynediad am ddim i offer meddygol arbenigol sydd heb fod ar gael yn yr ysbyty GIG lleol, neu drwy gynnig nifer o welyau yn yr ysbyty elusennol yn rhad ac am ddim i gleifion GIG;

  • mwy o werthfawrogiad o berfformiadau llenyddol neu artistig ymysg pobl na allant dalu'r ffioedd sy'n gallu mynychu cyngherddau cerddorol neu berfformiadau theatr trwy docynnau gyda chonsesiynau;

  • yn ogystal â chynnig consesiynau ar bris tocynnau, gallai theatr leol hefyd gael lle arddangos i bobl leol weld gweithiau celf a chymdeithas drama amatur y gall pobl leol ymuno â hi; a

  • darparu hyfforddiant meddygol i nyrsys neu feddygon mewn ysbyty GIG sy'n cynnig budd i gleifion nad ydynt yn talu ffioedd yn yr ysbyty hwnnw.

3. All pobl a sut gall pobl na allant dalu'r ffioedd gael budd fel arall o'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny

Mae hyn yn debygol o amrywio o elusen i elusen ac ar gyfer gwahanol nodau elusennol. Gall fod angen ystyried yn fanwl pa drefniadau sydd ar gael i alluogi pobl na allant dalu ffioedd i gael budd. I ddangos hyn, yn yr enghreifftiau uchod, gall y disgownt ar bris tocynnau cyngerdd olygu bod y swm sy'n daladwy yn parhau i atal rhai pobl rhag mynd i gyngerdd. Gallai tâl gael ei chodi ar gyfer yswiriant meddygol neu gallai ddarparu yswiriant ar gyfer triniaeth arbennig yn unig neu gall fod angen ffioedd ychwanegol neu atodol cyn y gallai'r sawl sydd â'r polisi gael triniaeth. Gallai ysgol godi tâl ar yr elusen addysgol arall neu ysgol y wladwriaeth am ddefnyddio'r cyfleusterau. Bydd pob un o'r trefniadau hyn yn effeithio ar y graddau y gallwn eu hystyried a pha mor bwysig y bônt.

4. Natur a hyd a lled y buddion eraill a ddarperir

Gall hyn gynnwys ystyried i ba raddau y mae'r math o wasanaeth neu gyfleuster a ddarperir yn un y mae angen cyhoeddus amdano, ac i ba raddau y mae'r gwasanaeth neu'r cyfleuster a ddarperir yn cyfrannu at ateb yr angen hwn.

Er enghraifft, gall ysbyty nad yw'n cael ei weinyddu gan y GIG ddarparu cyfarpar sganio arbenigol nad yw ar gael yn yr ysbyty GIG lleol. Neu gallai person oedrannus mewn cartref gofal preswyl elusennol gael gofal seibiant am gyfnod hwy nag y byddai wedi'i gael gan gartref gofal yr awdurdod lleol.

Gellir rhoi pwysau ychwanegol ar werth y buddion a ddaw drwy ddarparu gwasanaeth arbenigol, megis ysgol neu ysbyty sy'n mynd i'r afael ag angen penodol.

Er enghraifft, gellir rhoi mwy o bwyslais ar i werth y buddion a ddaw trwy ddarparu ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol disgyblion â dyslecsia neu ddarparu triniaeth arbenigol i gleifion sydd â math arbennig o gancr. Fodd bynnag, ni fyddai ysgol sy'n cynnig budd i ddisgyblion dyslecsig mwy cefnog neu ysbyty sy'n cynnig budd i gleifion cancr cyfoethog yn unig yn elusennol.

Yn gyffredinol ni ellir defnyddio buddion ehangach, mwy pell, i'r cyhoedd er mwyn 'gwneud iawn' am unrhyw ddiffyg buddion i 'garfan ddigonol o'r cyhoedd'.

Er enghraifft, mae'r gwerth cyffredinol y mae elusennau yn ei ddarparu i gymdeithas drwy ei hymagwedd elusengar a byddai bwlch yn gymdeithas pe na fyddai elusennau yn bodoli i ddarparu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau a wnânt.

Nid oes modd defnyddio bodolaeth y buddion ehangach hynny, sy'n gymwys i bob elusen, i gyfiawnhau cyfyngiad ar bwy all gael cyfle i gael budd. Rhaid i'r buddiolwyr gael ei ystyried yn garfan ddigonol o'r cyhoedd eu hunain, heb ystyried unrhyw fuddion ehangach i'r cyhoedd yn gyffredinol. Ni fyddai'n ddigonol, felly, os mai'r unig fuddion sydd ar gael i bobl na allant dalu'r ffioedd yw'r buddion ehangach megis y rhai y gellir dadlau, y bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn eu cael pan fydd gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan elusen yn derbyn cronfeydd cyhoeddus.

Efallai yr hoffai elusennau y mae codi ffioedd yn fater iddynt ei ystyried, ddarllen ein canllaw atodol, Budd Cyhoeddus a Chodi Ffioedd, sy'n darparu canllaw mwy manwl ynghylch sut y mae'r egwyddor budd cyhoeddus hon yn gymwys i elusennau sy'n codi ffioedd, a'n canllaw is-sector arall pan gaiff ei gyhoeddi.

Dd11. Egwyddor 2c. Ni ellir eithrio pobl sy'n byw mewn tlodi o'r cyfle i gael budd Symbol cyfreithiol

Pa bynnag cyfyngiadau sydd ar bwy all gael budd, rhaid i elusennau ym mhob achos sicrhau bod pobl sy'n byw mewn tlodi heb eu heithrio o'r cyfle i gael budd o bob un o'i nodau. Yn ymarferol mae hyn yn fwyaf tebygol o fod yn fater i elusennau sy'n codi ffioedd uchel, ond mae'n rhywbeth y dylai pob elusen ei ystyried. Nid yw hyn yn golygu, yn ymarferol, gyflwyno elfen o leddfu tlodi ym mhob nod elusennol. Nid oes rhaid i bobl sy'n byw mewn tlodi gael budd. Nid oes rhaid i'r nodau elusennol gael eu cyfyngu ychwaith i bobl sy'n byw mewn tlodi, er gall sylfaenwyr elusennau ddewis gwneud hynny os dymunant. Mae ond yn golygu na ellir gwahardd pobl sy'n byw mewn tlodi o'r cyfle i gael budd.

Er bod modd dehongli 'tlodi' weithiau i olygu pobl sydd o dan anfantais ariannol a/neu gymdeithasol, mae ystyr cyfreithiol tlodi yn y gyfraith elusennau yn golygu pobl sydd o dan anfantais ariannol. Mae'r Oxford English Dictionary yn diffinio 'tlodi' fel 'person neu bobl; sydd ag ychydig, neu ddim, eiddo materol; heb y gallu i gaffael cysuron neu hanfodion bywyd, neu fyw ar safon yr ystyrir ei fod yn gysurus neu'n arferol mewn cymdeithas; yn anghenus, mewn angen, yn dlawd, yn amddifad'. Er nad yw hwn yn ddiffiniad absoliwt o'r hyn y gallai 'pobl sy'n byw mewn tlodi' ei olygu, mae'n adlewyrchu'n dda amgylchiadau'r bobl yr ystyr eu bod yn 'dlawd' yn ôl y gyfraith elusennau.

Bydd ystyr 'pobl sy'n byw mewn tlodi' mewn achosion unigol yn cael ei ystyried yng nghyd-destun nodau'r sefydliad, pwy y mae'r nodau hynny yn ceisio cynnig budd iddynt a ble y mae'n ymgymryd â'i nodau.

Er enghraifft, ar gyfer elusen sy'n ymgymryd â'i nodau yn yr ardaloedd tlotaf mewn gwledydd sy'n datblygu, gallai 'pobl sy'n byw mewn tlodi' olygu'r bobl sydd heb yr hanfodion mwyaf sylfaenol i gynnal bywyd, megis dŵr glân, bwyd a chysgod. Ond ar gyfer elusen sy'n ymgymryd â'i nodau yng Nghymru a Lloegr er enghraifft, gallai 'pobl sy'n byw mewn tlodi' olygu cartrefi sy'n byw ar lai na 60% o'r incwm cyfartalog neu bobl sy'n byw ar neu'n is na lefel 'cymhorthdal incwm'. Fodd bynnag, hyd yn oed pryd hynny, mae 'byw mewn tlodi' yn derm perthynol a all gael ei ddehongli'n wahanol yn dibynnu ar nodau'r sefydliad.

Felly mae cyd-destun a nodau pob sefydliad yn holl bwysig wrth benderfynu pwy yw'r 'pobl sy'n byw mewn tlodi' ac a yw'r bobl hynny wedi'u heithrio o'r cyfle i gael budd.

Dd12. Egwyddor 2ch. Rhaid i unrhyw fuddion preifat fod yn atodol Symbol cyfreithiol

Mae 'buddion preifat' yn fuddion y gall pobl, neu sefydliadau, eu derbyn heblaw fel buddiolwr.

Wrth asesu a oes buddion preifat, nid ydym yn ymwneud â'r buddion y bydd unrhyw un yn eu cael oherwydd eu bod yn fuddiolwr elusen. Yn hytrach golygwn y buddion rhesymol i bobl neu sefydliadau sy'n hyrwyddo nodau'r elusen, megis buddion derbyn addysg, neu driniaeth feddygol, neu grant elusennol.

Gall elusennau ddarparu buddion preifat i bobl heblaw eu buddiolwyr ar yr amod bod y buddion hynny yn atodol.

Bydd buddion preifat yn atodol os gellir dangos eu bod yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni nodau'r elusen a/neu yn ganlyniad angenrheidiol, neu'n isgynnyrch, cyflawni'r nodau hynny.

Yn gyffredinol, mae budd preifat yn ganlyniad angenrheidiol, neu'n isgynnyrch, cyflawni nodau'r elusen:

  • os yw'n dilyn o ryw weithred sy'n cael ei chymryd, a dim ond yn cael ei chymryd gyda'r bwriad o hyrwyddo nodau'r elusen; ac

  • os yw swm y budd preifat yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o fuddion preifat atodol:

Enghraifft o fudd preifat sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni nodau'r elusen fyddai talu ffioedd milfeddyg proffesiynol ar gyfer trin anifeiliaid mewn lloches anifeiliaid elusennol.

Enghraifft o fudd preifat sy'n ganlyniad angenrheidiol i ymgymryd â nodau'r elusen fyddai lle mae busnesau lleol yn cael budd o fwy o fasnach o ganlyniad i elusen yn ymgymryd â phrosiectau i adfywio'r ardal.

Rhaid i ymddiriedolwyr elusen roi lles eu helusen yn gyntaf bob tro. Mae'r gyfraith yn datgan na all ymddiriedolwyr gael unrhyw fudd o'u helusen yn gyfnewid am unrhyw wasanaeth a ddarparant i'r elusen, oni bai fod ganddynt awdurdod cyfreithiol i wneud hynny. Ni ddylai ymddiriedolwyr gael unrhyw wrthdaro rhwng eu dyletswyddau i'w hymddiriedolaeth elusen a'u buddiannau personol, oni bai fod y posibilrwydd o fudd personol sy'n creu'r gwrthdaro hwnnw yn dryloyw. Cyflawnir tryloywder trwy ofyn am awdurdod diamwys am y budd, a thrwy sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddion posibl yn cael ei reoli mewn ffordd briodol ac agored. Am fwy o wybodaeth gweler ein canllaw Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: yr hyn y mae angen i chi wybod(CC3) a Thalu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11). Mae'r rhain ar gael i'w llwytho i lawr ar ein gwefan neu o'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol.

Os yw pobl yn cael budd o elusen trwy strwythur aelodaeth sydd heb ei chyfyngu'n afresymol, mae'r buddion preifat i'r aelodau yn fuddion y byddant yn eu derbyn fel buddiolwr, ac felly'n cael eu hystyried yn ganlyniad angenrheidiol i gyflawni'r nodau elusennol. Fodd bynnag, fel arfer ni all sefydliad a gefnogir gan ei aelodau at ddiben darparu budd i'w hunain, fod yn elusen fel arfer. Mae'n gwestiwn o raddfa. Ydy'r sefydliad yn bodoli i gynnig mantais i'w aelodau yn bennaf? Neu ydy'r strwythur aelodaeth wedi cael ei fabwysiadu dim ond fel ffordd effeithiol o gyflwyno buddion elusennol, neu i wneud gweinyddu'r elusen yn haws?

Bodloni'r Gofyniad Budd Cyhoeddus

Mae'r adrannau canlynol yn rhoi canllawiau ar adrodd ar fudd cyhoeddus elusennau a'i asesu

E. Adrodd ar fudd cyhoeddus

E1. Dyletswydd adrodd gyffredinol ymddiriedolwyr elusen Symbol cyfreithiol

Mae dyletswydd gyfreithiol eisoes gan ymddiriedolwyr elusen i adrodd ar y canlynol yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr:

  • crynodeb o amcanion yr elusen; a

  • chrynodeb o brif weithgareddau a chyflawniadau'r elusen mewn perthynas â'i hamcanion.

Yn achos elusennau mwy mae'r gofynion adrodd wedi'u heangu i gynnwys:

  • adolygiad o'r gweithgareddau pwysig sydd wedi digwydd;

  • manylion am nodau ac amcanion;

  • manylion am y strategaethau a fabwysiadwyd a'r gweithgareddau a wnaed i wireddu'r nodau a'r amcanion hynny; a

  • manylion am gyflawniadau trwy gyfeirio at y nodau a'r amcanion.

E2. Y gofyniad i adrodd ar fudd cyhoeddus Symbol cyfreithiol

O 2008, bydd dyletswyddau adrodd cyffredinol ymddiriedolwyr elusen yn cynnwys gofyniad newydd i adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen.

Yn 2007, cyhoeddodd Swyddfa'r Trydydd Sector gynigion i newid y gofynion cyfreithiol ar gyfer adroddiadau elusennau a gwahoddwyd sylwadau ar y cynigion. Yn amodol ar unrhyw newidiadau yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Rheoliadau i wneud y newidiadau yn cael eu rhoi gerbron y Senedd yn gynnar yn 2008. Disgwylir i'r gofynion newydd ddod i rym yn hwyr ym mis Mawrth 2008.

Mae'r dyletswyddau adrodd presennol eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i elusennau esbonio eu gweithgareddau a'u cyflawniadau. Mae'r newidiadau arfaethedig yn adeiladu ar y gofynion hynny, gan ganolbwyntio'r adroddiad er mwyn i'r darllenydd allu gweld yn fwy eglur sut y mae nodau'r elusen yn cael eu cyflawni, trwy'r gweithgareddau sy'n digwydd, er budd y cyhoedd.

Cydnabyddwn fod angen cydbwyso'r awydd cyffredinol am fwy o dryloywder ac atebolrwydd gan elusennau ynghylch eu budd cyhoeddus, yn erbyn ymrwymiadau i leihau'r baich gweinyddol ar elusennau. Felly, nid oes unrhyw ymagwedd 'addas i bawb' tuag at adrodd ar fudd cyhoeddus. Mae'r gofyniad yn gyson â'r egwyddor sefydledig y dylid gofyn i elusennau sy'n cael archwiliad ariannol ddarparu mwy o wybodaeth fanwl na'r rhai nad ydynt yn cael archwiliad ariannol. Nid ydym yn rhagweld y bydd y gofynion newydd yn newid strwythur Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr yn sylweddol ac yn wir cydnabyddwn fod y rhan fwyaf o elusennau eisoes yn darparu gwybodaeth am eu gweithgareddau a sut mae eu cyflawniadau yn cyfrannu at eu nodau.

Wrth gynllunio gweithgareddau eu helusen, rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried canllawiau'r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus. Bydd y newidiadau arfaethedig hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol iddynt gadarnhau yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr eu bod nhw wedi dilyn y canllawiau hyn.

Mae manylion am y gofyniad newydd i'w gweld yn adrannau E3 ac E4 isod.

E3. Y gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus i elusennau llai Symbol cyfreithiol

Bydd yn ofynnol i ymddiriedolwyr elusen llai gynnwys crynodeb byr yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o'r prif weithgareddau a wnaed i gyflawni nodau'r elusen er budd y cyhoedd.

Nid oes rhaid i'r crynodeb fod yn fanwl ac, i'r rhan fwyaf o elusennau, ni ddylai effeithio'n fawr ar batrwm presennol Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Yn syml, mae angen i ymddiriedolwyr elusennau llai barhau i esbonio gweithgareddau a chyflawniadau eu helusen yn ystod y flwyddyn, ond eu gosod yng nghyd-destun nodau'r elusen i esbonio sut y maent wedi'u cyflawni er budd y cyhoedd.

Rhaid i bob elusen gadarnhau bod yr ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau ar fudd cyhoeddus wrth benderfynu pa weithgareddau y dylai elusen ymgymryd â nhw.

O fewn y fframwaith cyffredinol hwnnw, yr ymddiriedolwr elusen fydd yn penderfynu ar y ffordd orau o adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen, yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ystyried sy'n gymesur ac yn briodol yn achos eu helusen arbennig nhw. Gallant ddarparu'n wirfoddol adroddiadau budd cyhoeddus mwy manwl os dymunant.

Wrth i ni ddatblygu ein canllawiau ar fudd cyhoeddus is-sectorau elusen penodol, byddwn yn archwilio gydag elusennau yn yr is-sector hwnnw, a'r rhai sydd â budd ynddynt, y ffordd orau iddynt adrodd ar weithgareddau a dangos bod nodau'r elusen yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd. Hefyd, byddwn yn ceisio enghreifftiau o arferion adrodd da fel modelau i helpu elusennau tebyg eraill.

Waeth beth fo'r manylion sydd wedi’u cynnwys yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ar weithgareddau, os teimlwn fod perygl nad yw nodau elusen yn y band incwm hwn, neu'r ffordd y mae'r nodau'n cael eu cyflawni, yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, byddwn yn cynnal asesiad budd cyhoeddus, ac yn ystyried a yw'n gymesur ac yn briodol.

E4. Y gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus i elusennau mwy Symbol cyfreithiol

Ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau mwy, mae'r gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus yr un fath ag i elusennau llai, ac eithrio ei bod hi'n ofynnol iddynt roi esboniad llawnach yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y gweithgareddau pwysig a wneir i gyflawni nodau'r elusen er budd y cyhoedd, yn ogystal â'u nodau a'u strategaethau. Mae'n ofynnol iddynt esbonio cyflawniadau'r elusen, wedi'u mesur trwy gyfeirio at nodau'r elusen a'r amcanion a osodwyd gan yr ymddiriedolwyr.

I'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr elusennau mwy, ni ddylai'r gofynion newydd effeithio'n fawr ar batrwm presennol Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Bydd darparu gwybodaeth yng nghyd-destun nodau eu helusen yn galluogi'r darllenydd i ddeall yn well sut y mae'r ymddiriedolwyr yn gosod strategaethau ac yn cyflawni nodau eu helusen yn ymarferol er budd y cyhoedd.

E5. Sut gall ymddiriedolwyr elusen fodloni'r gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus

Yr ymddiriedolwyr elusen fydd yn penderfynu faint o wybodaeth sy'n briodol, yn eu barn nhw, gan ystyried amgylchiadau eu helusen, a faint o fanylion yr hoffent eu rhoi i gyfleu'r hyn y mae eu helusen wedi'i wneud yn y flwyddyn dan sylw i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Nid ydym yn bwriadu pennu'r nifer mwyaf neu'r nifer lleiaf o eiriau, paragraffau neu dudalennau ar gyfer y diben hwn. Fodd bynnag, byddai elusen sydd heb ddweud unrhyw beth am fudd cyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, neu sydd wedi cynhyrchu esboniad byr iawn yn unig o'u gweithgareddau, heb unrhyw fanylion, yn gweithredu'n groes i'r gofyniad yma i adrodd ar fudd cyhoeddus.

Mae nifer o ymddiriedolwyr elusen eisoes yn cynhyrchu Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr manwl ar yr hyn y maent wedi'i wneud yn y flwyddyn i gyflawni nodau eu helusen, effaith y gwaith hwnnw ar eu buddiolwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol. I'r elusennau hynny ni fydd angen llawer o waith, cost neu ymdrech ychwanegol er mwyn ail-ganolbwyntio'r adroddiadau hynny yng nghyd-destun budd cyhoeddus.

Mae budd cyhoeddus yn rhan annatod o'r hyn a wna pob elusen ac felly rydym yn ei weld fel rhywbeth i'w gynnwys yn unrhyw adroddiad cyffredinol am weithgareddau a pherfformiad yr elusen yn ystod y flwyddyn. Mae angen i'r adroddiad gael ei lunio ar batrwm sy'n cynnig modd i'r darllenydd allu gweld, trwy weithgareddau a chyflawniadau'r elusen, bod nodau'r elusen yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd.

E6. Pwysigrwydd adrodd ar fudd cyhoeddus

Ni ddylai adrodd ar fudd cyhoeddus gael ei weld dim ond fel dyletswydd statudol y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ei fodloni ac rydym ni'n ei reoleiddio. Mae hefyd yn adroddiad i randdeiliaid yr elusen - ei noddwyr, ei buddiolwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr elusen. Felly nid ni fydd yr unig rhai i farnu sut y mae elusen yn ymgymryd â'i nodau er budd y cyhoedd.

Felly mae ymddiriedolwyr elusen yn cael eu hannog i fanteisio ar y gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus fel ffordd o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fudd cyhoeddus eu helusen, a dangos bod nodau eu helusen yn parhau i fod er budd y cyhoedd, ac yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd.

Bydd y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr elusen eisoes yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, ond gallant fod yn gwneud hynny heb ddeall yn benodol sut neu pam, ac nid ydynt yn debygol o adrodd arno. Bydd y gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus newydd, a'r ddyletswydd statudol newydd i ymddiriedolwyr ystyried ein canllawiau ar fudd cyhoeddus wrth gynllunio gweithgareddau, yn golygu y bydd rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried gyda'i gilydd beth yw ystyried bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Mae'n rhaid i unrhyw sefydliad gael ei ffurfio ar gyfer un neu ragor o nodau elusennol, a rhaid iddo allu dangos bod ei nodau er budd y cyhoedd er mwyn iddo gael ei gydnabod fel elusen. Mae cael ei gydnabod fel elusen yn cynnig nifer o fanteision ariannol ac ymarferol.

Er enghraifft:

  • mae pobl yn fwy tebygol o gynnig amser, egni neu arian i elusen gofrestredig;

  • mae nifer o roddwyr grantiau yn rhoi i elusennau yn unig;

  • fel rheol nid oes rhaid i elusennau dalu treth incwm/treth gorfforaeth (yn achos rhai mathau o incwm), treth enillion cyfalaf, neu dreth stamp, ac nid oes rhaid talu treth etifeddiaeth ar roddion i elusennau;

  • nid yw elusennau yn talu mwy na 20% o'r trethi busnes arferol ar yr adeiladau a ddefnyddir ac a feddiannir i hyrwyddo eu nodau elusennol; ac

  • mae elusennau sydd wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau yn cael budd rhif cofrestru elusen a bathodyn/brand elusen, at ddibenion codi arian, a gallant sicrhau'r budd ariannol mwyaf trwy drefniadau Rhodd Cymorth.

Bu galw cynyddol gan y cyhoedd yn y blynyddoedd diweddar am fwy o dryloywder ac atebolrwydd gan elusennau, a adlewyrchir er enghraifft yn y newidiadau i'r gofynion adrodd a chyfrifyddu i elusennau.

Er enghraifft:

  • Datganiad o Arferion Cymeradwy: Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau (SORP) newydd: sy'n argymell dull newydd o gyflwyno Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, sy'n pwysleisio adrodd ar weithgareddau a pherfformiad yn erbyn amcanion elusen;

  • cyflwyno Ffurflen Gwybodaeth Gryno (SIR) newydd i elusennau gydag incwm blynyddol o fwy na £1 miliwn, sy'n gofyn i ymddiriedolwyr adrodd ar effaith eu gweithgareddau, a chyhoeddi ffurflenni wedi'u cwblhau ar ein gwefan; a

  • chyhoeddi ar-lein ar ein gwefan nifer gynyddol o gyfrifon wedi'u sganio elusennau a'n hymgyrchoedd Nid mater o ddewis yw Cyfrifon a Ffeilio'n Gynnar i annog mwy o elusennau i ffeilio cyfrifon a Ffurflenni Blynyddol mewn pryd.

Dylai adrodd ar fudd cyhoeddus gael ei weld yn agwedd pwysig ar dryloywder ac atebolrwydd elusen, a hybu ffydd a hyder y cyhoedd yn yr elusen. Bydd hyn yn helpu'r cyhoedd i werthfawrogi faint y maent yn cael budd o elusennau yn gyfnewid am y buddion y bydd elusennau yn eu cael o'u statws elusennol.

E7. Y gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus yn erbyn y gofyniad budd cyhoeddus

Mae gwahaniaeth rhwng ymddiriedolwyr elusen sydd heb fodloni'r gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus ac elusen sydd heb fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Mae methu â bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus yn golygu na fyddai'r sefydliad yn elusennol.

Mae methu â bodloni'r gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus yn golygu bod yr ymddiriedolwyr elusen yn methu yn eu dyletswydd statudol ond nid yw'n golygu o reidrwydd nad yw'r sefydliad yn elusen.

Gallai ymddiriedolwyr elusen gynhyrchu adroddiad manwl iawn sy'n dangos y ffeithiau a'r ffigurau am ei gweithgareddau amrywiol, pwy sydd wedi cael budd a sut, ond eto i gyd methu â bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. I'r gwrthwyneb, gall ymddiriedolwyr elusen fethu â chynhyrchu adroddiad budd cyhoeddus digonol, ond yn ymarferol gall fod yn amlwg fod yr elusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Fodd bynnag, byddem yn ystyried methiant parhaus ar ran ymddiriedolwyr elusen i fodloni'r gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus, neu adroddiad budd cyhoeddus anargyhoeddiadol, yn achos pryder. Felly, bydd methu ag adrodd yn cael ei ystyried wrth benderfynu ble y byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau wrth ymgymryd ag asesiadau budd cyhoeddus manwl o elusennau sy'n bodoli.

E8. Cwestiynau i helpu asesu budd cyhoeddus

Mae'r Comisiwn Elusennau (ac, yn y pen draw, y Tribiwnlys Elusennau neu'r llysoedd) yn gyfrifol o dan y Ddeddf Elusennau am benderfynu a oes gan sefydliad nodau elusennol sy'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus ac felly'n elusennol. Fodd bynnag, gall ymddiriedolwyr elusen a'u hymgynghorwyr proffesiynol ddefnyddio'r cwestiynau canlynol fel ffordd ddefnyddiol o hunanasesu budd cyhoeddus eu helusen, a darparu gwybodaeth a fydd yn ein helpu ni i asesu a yw nodau sefydliad er budd y cyhoedd neu beidio.

Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddion adnabyddadwy

  1. Pa fuddion sy'n codi o nodau eich sefydliad?

  2. Oes unrhyw anfantais neu niwed a allai, yn eich barn chi, godi o ymgymryd â nodau eich sefydliad? Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw farn gyffredin ymysg eraill y gallai anfantais neu niwed o'r fath godi?

Egwyddor 2: Rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu garfan o'r cyhoedd

  1. Pwy mae nodau eich sefydliad yn bwriadu cynnig budd iddynt?

  2. Os yw'r budd i garfan o'r cyhoedd, sut mae'r buddiolwyr yn cael eu diffinio neu ba gyfyngiadau sydd ar bwy all gael y cyfle i gael budd?

  • Ar gyfer cyfyngiadau daearyddol: beth yw'r ardal ddaearyddol sy'n diffinio pwy all gael budd?

  • Ar gyfer cyfyngiadau sy'n seiliedig ar angen elusennol: beth yw'r angen elusennol a rennir gan y buddiolwyr sy'n cael ei leddfu neu sy'n cael sylw?

  • Ar gyfer cyfyngiadau sy'n seiliedig ar nodweddion personol: pa nodweddion diffiniol sy'n cael eu defnyddio i benderfynu pwy sy'n cael budd? Sut mae'r nodweddion hynny yn ymwneud â'r nodau elusennol?

  • Ar gyfer cyfyngiadau sy'n seiliedig ar fynediad i gyfleusterau: oes unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn y gellir cael mynediad iddo, neu ar bwy all gael mynediad, neu oriau agor cyfyngedig?

  • Ar gyfer cyfyngiadau sy'n seiliedig ar gymhwyster ar gyfer aelodaeth: oes rhaid i rywun fod yn aelod i gael budd? Os felly, all unrhyw un sydd â diddordeb ymaelodi? Os na, pwy all ymaelodi a pham?

  • Ar gyfer cyfyngiadau sy'n seiliedig ar ddisgresiwn ymddiriedolwyr: pa feini prawf fydd yr ymddiriedolwyr yn eu defnyddio i benderfynu pwy all gael budd? Beth yw'r cyfiawnhad dros y cyfyngiad hwnnw?

  • Ar gyfer cyfyngiadau sy'n seiliedig ar allu i dalu unrhyw ffioedd a godir: beth mae'ch sefydliad yn ei godi am ei wasanaethau neu ei gyfleusterau? Sut mae'r taliadau yn cael eu gosod? Ydy'r gyfradd lawn yn cael ei chodi ar bawb? Pa gyfleoedd sydd gan bobl na allant fforddio talu'r ffioedd hynny i gael budd o nodau eich sefydliad? Sut mae pobl sy'n byw mewn tlodi yn cael cyfle i gael budd?

  1. Ydy unrhyw un yn derbyn unrhyw fudd preifat o'ch sefydliad, heblaw fel buddiolwr? Os ydynt, pa fuddion ydyn nhw'n eu derbyn? Ydy'r buddion hynny yn atodol?

F. Asesiad y Comisiwn Elusennau o fudd cyhoeddus

F1. Ein hymagwedd at asesu budd cyhoeddus

Yn dilyn ymagwedd y llysoedd, mae ein penderfyniadau ynghylch beth sydd neu beth nad yw'n elusennol yn cael eu llywio gan y gyfraith achosion sylfaenol ar elusennau a budd cyhoeddus ac yn cael eu datblygu yng nghyd-destun amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid.

Mae'r gyfraith gyfredol yn darparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch budd cyhoeddus ond mae'n cyfeirio at nifer cyfyngedig o achosion yn unig. Mae'r sector elusennau yn un amrywiol. Mae ystod eang o nodau elusennol gan elusennau, ac maent yn ceisio eu cyflawni trwy nifer o lwybrau gwahanol iawn. Mae'r gyfraith ar fudd cyhoeddus yn gymwys yn wahanol i ddibenion elusennol gwahanol. Bydd cymhwyso egwyddorion sy'n deillio o nifer fach o achosion sy'n cynnwys elusennau a sefyllfaoedd arbennig yn golygu bod rhaid i'r Comisiwn Elusennau wneud penderfyniadau anodd wrth lunio barn a dehongli'r gyfraith.

F2. Asesu budd cyhoeddus elusennau newydd Symbol cyfreithiol

Rhaid i bob sefydliad sy'n cael ei gofnodi ar y Gofrestr Elusennau ddangos yn gadarnhaol bod nodau elusennol ganddo, ac mae'r nodau hynny'n cael eu cyflawni er budd y cyhoedd.

Pan fydd sefydliad yn gwneud cais i gofrestru fel elusen, byddwn yn gofyn iddo esbonio sut mae ei nodau yn darparu budd i'r cyhoedd a sut mae'n bwriadu cyflawni ei nodau. Mewn rhai achosion, gallwn ofyn i'r sefydliad ddarparu tystiolaeth ategol.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth y bydd sefydliad yn ei rhoi ar ei ffurflen gais cofrestru i benderfynu a yw ei nodau yn elusennol ac er budd y cyhoedd. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn yn amlwg.

Mae asesu budd cyhoeddus ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau sy'n defnyddio amcanion elusennol adnabyddus ac sy'n defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy yn debygol o fod yn weddol syml.

Os yw'n fwy cymhleth, (er enghraifft os yw nodau'r sefydliad yn weddol newydd neu'n anarferol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd) byddwn yn asesu'r wybodaeth yn ofalus yn erbyn yr egwyddorion a nodwyd yn y canllawiau hyn. Os oes angen, byddwn yn ceisio eglurhad gan ymgeiswyr ynghylch beth yw nodau'r sefydliad ac a yw'r nodau hynny er budd y cyhoedd.

Os nad yw nodau sefydliad sy'n gwneud cais i gofrestru yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, gallwn, lle y bo'n briodol, ddarparu cyngor ynghylch sut y gall y sefydliad newid ei nodau, neu ad-drefnu ei ddibenion, neu addasu'r ffordd y bydd yn cyflawni ei nodau, er mwyn iddo allu bodloni'r gofyniad. Os na all sefydliad ddangos bod ei nodau yn darparu budd cyhoeddus, neu y byddant yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd, nid oes modd ei gofrestru fel elusen.

F3. Asesu budd cyhoeddus elusennau sy'n bod Symbol cyfreithiol

Rhaid i elusen barhau i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus trwy gydol ei hoes.

Ar ôl cofrestru, rhaid i ymddiriedolwyr elusen sicrhau eu bod yn parhau i ymgymryd â nodau eu helusen er budd y cyhoedd. Nid oes gan elusennau yr hawl i ddewis peidio â bod yn rhan o'r sector elusennol os ydynt yn teimlo bod eu cyfrifoldebau o ran bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus yn rhy feichus.

Wrth ddatblygu ein hymagwedd at asesiadau budd cyhoeddus byddwn yn dilyn egwyddorion rheoleiddio gwell - cymesur, atebol, cyson, tryloyw ac wedi'i dargedu. Bydd unrhyw gamau a gymerwn yn gymesur, yn deg ac yn rhesymol, gan bwyso a mesur y materion dan sylw, y perygl sy'n codi i'r elusen a'i buddiolwyr a gallu'r elusen i gydymffurfio. Byddwn yn gofyn am wybodaeth dim ond os oes ei hangen arnom. Hefyd, hoffwn osgoi dyblygu gwaith ac rydym yn ymrwymedig fel sefydliad i leihau'r baich gweinyddol ar elusennau.

Mae ystod eang o nodau elusennol gan elusennau. Er bod rhaid i bob elusen gael nodau elusennol sy'n darparu budd i'r cyhoedd, nid yw'r gyfraith yn mabwysiadu'r un mesurau ymarferol i asesu budd cyhoeddus ym mhob math o achos.

Mae hyn yn golygu y gall elusennau gyda gwahanol nodau elusennol fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus mewn gwahanol ffyrdd.

Er mwyn darparu gwybodaeth eglur ynghylch sut y mae gwahanol grwpiau o elusennau yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, byddwn yn cyhoeddi canllawiau am yr hyn y mae budd cyhoeddus yn ei olygu i wahanol fathau o elusennau.

Mae'r ffyrdd amrywiol y byddwn yn asesu budd cyhoeddus elusennau sy'n bod wedi'u nodi isod. Nid yw'r camau yn cael eu cymryd mewn trefn o reidrwydd, a gallant gydredeg. Bydd y cam a gymerwn yn dibynnu ar natur yr elusen, neu'r is-sector elusennol hefyd. Byddwn yn mireinio ac yn datblygu ein hymagwedd yn sgîl profiad ac adborth.

Er enghraifft, wrth weithio gydag elusennau a'u cyrff proffesiynol a chyrff mantell i helpu datblygu ein canllawiau budd cyhoeddus ar gyfer is-sectorau elusennol penodol, gallwn gasglu gwybodaeth ynghylch faint o elusennau yn yr is-sector hwnnw sy'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Neu, gallwn nodi enghreifftiau o sut y gallai elusennau o'r fath adrodd ar eu budd cyhoeddus. Neu, gallwn ymgymryd ag asesiadau peilot, yn wirfoddol, o fudd cyhoeddus elusennau unigol yn yr is-sector hwnnw.

Mae enghreifftiau o'r wybodaeth y byddwn yn ei defnyddio, a'r camau y byddwn yn eu cymryd i asesu budd cyhoeddus elusennau unigol wedi'u nodi isod:

Elusennau yn adrodd ar fudd cyhoeddus
Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am fudd cyhoeddus yn gam cyntaf defnyddiol o ran dangos a yw nodau elusen er budd y cyhoedd, ac yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd.

Ymgymryd ag astudiaethau ymchwil budd cyhoeddus
Byddwn yn ymgymryd ag astudiaethau ymchwil sy'n dangos i ba raddau y mae gwahanol fathau o elusennau yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Bydd yr adborth a gawn o'n hymgynghoriadau cyhoeddus ar fudd cyhoeddus, a chasgliadau ein hastudiaethau ymchwil, yn helpu i ddarparu gwybodaeth fwy manwl ynghylch sut y gall gwahanol fathau o elusennau fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu llywio ein hasesiadau o fudd cyhoeddus elusennau.

Wrth benderfynu pa grwpiau o elusennau i'w hasesu gyntaf byddwn yn ystyried y meysydd lle mae'r gyfraith wedi newid, megis dileu'r rhagdybiaeth bod budd cyhoeddus, neu les cyhoeddus.

Er enghraifft, mae'r gyfraith wedi newid mewn perthynas â budd cyhoeddus elusennau sy'n ymwneud â thlodi, addysg a chrefydd, elusennau a arferai fanteisio ar y rhagdybiaeth o fudd cyhoeddus. Hefyd mae diddordeb mawr gan y cyhoedd mewn budd cyhoeddus sefydliadau addysgol ac ysbytai ac elusennau eraill sy'n codi ffioedd uchel.

Fel y rheolydd elusennau mae llawer iawn o brofiad a gwybodaeth gennym am elusennau y byddwn yn gallu eu defnyddio wrth ymgymryd â'r astudiaethau ymchwil hyn.

Gweithio gyda chyrff proffesiynol a chyrff mantell
Byddwn yn trafod y mater o fudd cyhoeddus gydag elusennau sy'n ffurfio rhan o is-sector elusennol arbennig, gyda chyrff proffesiynol a chyrff mantell cynrychioliadol a chyda defnyddwyr a defnyddwyr posibl yr elusennau hynny. Os yw'n briodol byddwn yn comisiynu gwaith ymchwil ehangach ar sut mae nodau elusennau arbennig yn cynnig budd i'r cyhoedd.

Byddwn yn annog elusennau i fod yn arloesol o ran cael hyd i ffyrdd newydd a gwell i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus a lledaenu arfer da. Ceisiwn ysgogi'r broses hon drwy sefydlu gyda charafannau gwahanol o'r sector elusennau beth a olygir wrth arfer da yng nghyd-destun bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, rhoi cyhoeddusrwydd i hyn a galluogi elusennau unigol, lle bo'n briodol, i gymharu eu hunain ag elusennau eraill. Byddai hyn yn galluogi byrddau ymddiriedolwyr annibynnol sy'n gweithio mewn meysydd tebyg i rannu syniadau ynghylch sut y maen nhw, ac elusennau eraill, yn llwyddo. Byddai'r ymdrechion i wella sydd eisoes yn cael eu gwneud gan lawer yn cael eu harddangos yn fwy penodol a gallem fonitro cynnydd yr hyn a gyflawnwyd.

Yn ogystal â chyhoeddi ein canllawiau i is-sectorau, gallem annog cyrff proffesiynol a chyrff is-sector i gyhoeddi adroddiadau cyfansawdd sy'n tynnu sylw at berfformiad elusennau arbennig, arddangos arferion da a beth yw'r 'norm' yn y sector. Gall fod amgylchiadau hefyd lle y byddwn ni'n cynhyrchu'r rhain.

Asesiadau manwl o elusennau unigol
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gawn o'r gweithgareddau y soniwyd amdanynt uchod i helpu dewis elusennau unigol ar gyfer asesiad manwl o fudd cyhoeddus a sut y byddwn yn cynnal yr asesiadau hyn.

Er enghraifft, gallem gynnal asesiadau budd cyhoeddus manwl o elusennau:

  • sy'n cael eu heffeithio gan newid yn y gyfraith (ee, y rhai nad ydynt yn manteisio mwyach ar y rhagdybiaeth bod budd cyhoeddus);

  • y codwyd pryderon budd cyhoeddus yn eu cylch yn ystod y ddadl ar y Mesur Elusennau (megis elusennau codi ffioedd);

  • lle mae amgylchiadau cymdeithasol sy'n newid yn cael effaith ar allu'r elusennau hynny i ddangos bod eu nodau yn parhau i ddarparu budd i'r cyhoedd;

  • sydd naill ai'n methu â bodloni'r gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus yn barhaus neu, mae eu hadroddiadau budd cyhoeddus yn dangos anawsterau o ran bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus; neu

  • sydd wedi'u dewis ar sail hapsampl.

Byddwn yn gofyn i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig unigol, wedi'u dewis ar gyfer asesiad budd cyhoeddus manwl yn seiliedig ar y meini prawf a nodwyd uchod, i roi esboniad mwy manwl ynghylch sut y teimlant fod eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Er enghraifft, gallai gynnwys elusennau sy'n codi ffioedd uchel a all ei chael hi'n anodd i ddangos budd i'r bobl na allant fforddio eu ffioedd. Neu, elusennau lle mae graddfa uchel o fudd preifat, lle y gall fod yn anodd dangos bod y budd preifat yn atodol yn unig.

Gallem ymgymryd â'r asesiadau manwl hyn trwy:

  • asesiad bwrdd gwaith (asesu'r wybodaeth sydd gennym eisoes am yr elusen os yw hynny'n ddigonol i ni allu gwneud asesiad);

  • asesiad dros y ffôn (trafod budd cyhoeddus elusen gydag un o'i hymddiriedolwyr neu aelod o'i staff er mwyn egluro neu ategu gwybodaeth sydd gennym eisoes); neu

  • ymweld â'r elusen (er mwyn trafod budd cyhoeddus yr elusen yn fwy manwl gyda'i hymddiriedolwyr a/neu staff os oes angen gwneud hynny a'r ffordd fwyaf effeithiol o gynnal yr asesiad).

Nid yw unrhyw ddwy elusen yr union yr un fath, felly bydd ein hasesiadau budd cyhoeddus yn ystyried pob achos yn unigol, gan asesu materion risg a chymesuredd ac amgylchiadau arbennig yr elusen unigol. Mae budd cyhoeddus yn rhan mor hanfodol o'r hyn sy'n creu elusen ac felly bydd yn cael sylw yn agweddau eraill ar waith y Comisiwn hefyd. Gallai budd cyhoeddus godi fel mater i'w ystyried fel rhan, er enghraifft, o'n gwaith cofrestru, cydymffurfiaeth neu gyngor, yn ogystal â rhan o unrhyw hapsamplu neu fenter arbennig i archwilio budd cyhoeddus mathau arbennig o elusen.

Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein hasesiadau budd cyhoeddus ar ffurf adroddiad cyfansawdd cyffredinol sy'n crynhoi casgliadau'r asesiadau hynny. Byddwn hefyd yn cyhoeddi unrhyw benderfyniadau allweddol y Comisiwn ar achosion unigol pe byddai hynny'n egluro neu'n gwella ein canllawiau budd cyhoeddus.

F4. Meini prawf ar gyfer asesu budd cyhoeddus

Wrth asesu budd cyhoeddus sefydliad unigol byddwn yn ystyried y meini prawf canlynol:

  • beth yw nodau'r sefydliad, a yw'r nodau hynny yn elusennol ac a yw'r nodau wedi'u hadlewyrchu’n llawn ac yn fanwl gywir yn amcanion penodedig y sefydliad;

  • a yw pob un o'r nodau er budd y cyhoedd ac a fyddant, neu a allant, gael eu cyflawni er budd y cyhoedd, gan ystyried amgylchiadau arbennig y sefydliad;

  • y cyd-destun ar gyfer cyflawni’r nodau, gan gynnwys yr hyn sy'n berthnasol ac yn briodol ar gyfer amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol;

  • pa fuddion adnabyddadwy sy'n codi o'r sefydliad yn ymgymryd â phob un o'i nodau, gan ystyried unrhyw dystiolaeth sydd ar gael;

  • oes unrhyw anfantais neu niwed a allai godi o'r sefydliad arbennig hwnnw yn ymgymryd â'i nodau;

  • pwy y mae nodau'r sefydliad yn bwriadu cynnig budd iddynt, ac ai'r cyhoedd yn gyffredinol neu garfan o'r cyhoedd yw'r buddiolwyr;

  • os yw'r buddiolwyr yn garfan o'r cyhoedd, ydy unrhyw gyfyngiadau ar bwy all gael budd yn rhesymol mewn perthynas â nodau elusennol y sefydliad;

  • os yw ffioedd yn cael eu codi am wasanaethau neu gyfleusterau'r sefydliad, ai effaith y ffioedd hynny yw cyfyngu'r budd dim ond i'r rhai sy'n gallu fforddio talu'r ffioedd, neu a oes cyfleoedd eraill i'r bobl hynny gael budd mewn ffordd berthnasol sy'n gysylltiedig â nodau'r sefydliad;

  • a yw pobl sy'n byw mewn tlodi wedi'u heithrio o'r cyfle i gael budd; ac

  • oes unrhyw fuddion preifat i unigolion neu sefydliadau (heblaw buddion y bydd pobl yn eu cael fel buddiolwr) sy'n codi o'r sefydliad yn ymgymryd â'i nodau ac ydy'r buddion preifat hynny yn atodol.

F5. Gweithio gydag elusennau sydd heb fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus

Os yw elusennau unigol heb fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus byddwn yn cymryd camau pellach lle bo angen.

Os nad yw elusennau'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, gallwn geisio cytundeb â'r ymddiriedolwyr y byddant yn newid eu hamcanion neu'r ffordd y maent yn cyflawni eu nodau. Mewn rhai achosion:

  • gallwn benderfynu bod yr ymddiriedolwyr yn gweithredu'n groes i'w hymddiriedolaeth. Os felly, byddwn yn cymryd unrhyw gamau rheoleiddio angenrheidiol a all fod eu hangen i sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â'r ymddiriedolaethau (megis rhoi cyfarwyddiadau i ymddiriedolwyr, neu benodi ymddiriedolwyr newydd neu); neu

  • gallwn benderfynu nad yw'n bosibl i nodau'r sefydliad gael eu cyflawni mewn ffordd sydd er budd y cyhoedd. Os felly, mae'n bosibl y bydd angen i ni sicrhau y caiff asedau'r elusen eu defnyddio yn y dyfodol ar gyfer nodau elusennol tebyg a fydd er budd y cyhoedd; neu

  • gallwn benderfynu nad oedd y nodau erioed er budd y cyhoedd mewn gwirionedd a bod y sefydliad wedi cael ei gofrestru ar gam fel elusen. Os felly, byddwn naill ai'n gofyn i'r ymddiriedolwyr ad-drefnu'r sefydliad, neu ailddatgan ei amcanion er mwyn iddynt fod er budd y cyhoedd, neu gallwn ei ddileu o'r gofrestr.

Nid oes modd bod yn fwy penodol ar hyn o bryd ynghylch pa gamau y gallem eu cymryd mewn achosion unigol. Bydd ein hymagwedd yn cael ei llywio gan ganlyniadau ein gwaith yn y dyfodol a fydd yn tynnu sylw at sut y gall elusennau gyda nodau arbennig fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol. Hefyd, bydd yn dibynnu ar y pwerau sydd gan elusen unigol yn ei dogfen lywodraethol i fynd i'r afael â'r materion ei hun.

Mae'n bwysig pwysleisio y byddwn yn cynnal llawer o drafodaethau ac yn ymgynghori ar sut y disgwylir i fathau arbennig o elusennau fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Bydd hyn yn llywio ein penderfyniadau mwy manwl ar fudd cyhoeddus elusennau arbennig ar y gofrestr. Ni ddisgwylir i unrhyw elusen wneud newidiadau i'w hamcanion, neu'r ffordd y maent yn ymgymryd â'u nodau, dros nos. Byddwn yn ystyried yn rhesymol faint o amser ac adnoddau y gallai fod eu hangen ar elusen yn ei hamgylchiadau arbennig i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol er mwyn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Yn yr un modd, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau rheoleiddio heb drafod y mater yn llawn yn gyntaf gyda'r ymddiriedolwyr a'u hymgynghorwyr.

F6. Apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau budd cyhoeddus

Os yw ymddiriedolwyr, neu unigolion eraill a effeithir, yn anhapus ag unrhyw un o'n penderfyniadau am fudd cyhoeddus elusen, gallant apelio.

Dylai apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau budd cyhoeddus, megis gwrthod cofrestru neu fynnu bod elusen yn newid ei hamcanion, gael eu gwneud o dan ein system adolygu penderfyniadau mewnol yn gyntaf. Pan fydd ein system adolygu penderfyniadau mewnol wedi'i chwblhau, os ydynt yn anghytuno o hyd â'r penderfyniad, gallant apelio ymhellach yn erbyn ein penderfyniad i'r Tribiwnlys Elusennau, ac yn y pen draw, i'r llysoedd.

Fodd bynnag, trwy gydweithio'n adeiladol ag ymddiriedolwyr elusen ac ymgynghori'n eang â'r cyhoedd ar ein canllawiau budd cyhoeddus, byddem yn gobeithio y byddai achosion o'r fath yn anghyffredin.

Ff. Gwybodaeth bellach a chyngor

Ff1. Ffynonellau gwybodaeth

Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr elusen a'u hymgynghorwyr eu defnyddio i'w helpu i ddeall a yw eu helusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus neu beidio.

Cewch fanylion am ffynonellau gwybodaeth pellach ar hafan ein gwefan www.charitycommission.gov.uk.

Ff2. Cyhoeddiadau allweddol y Comisiwn Elusennau

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau a chanllawiau ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arferion gorau.

Mae'r rhestr lawn o gyhoeddiadau i'w gweld ar ein gwefan ac yn y daflen Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau (CC1), ond mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar y materion a ymdrinnir yn y canllawiau hyn. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus pellach, byddwn yn cyhoeddi canllawiau atodol ar ein gwefan ar fudd cyhoeddus is-sectorau elusennol penodol.

Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau:

Cydnabod Dibenion Elusennol Newydd (RR1a)
Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3)
Elusennau i Roi Cymorth ar gyfer Caledi Ariannol (CC4)
Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9)
Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11)
Cofrestru fel Elusen (CC21)

Cyhoeddiadau ar y wefan:

Elusennau a Budd Cyhoeddus: Canllaw Cryno i Ymddiriedolwyr Elusen
Dadansoddiad o'r gyfraith sy'n sail i Elusennau a Budd Cyhoeddus
Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn y Ddeddf Elusennau

I gael copïau o'r rhain, neu unrhyw un o'n cyhoeddiadau, gallwch:

  • edrych arnynt a'u hargraffu o'n gwefan www.charitycommission.gov.uk

  • eu harchebu yn ystod oriau agor (Llun - Gwener 08:00 - 20:00 a 09:00 -13:00 ar ddydd Sadwrn) drwy ffonio ni ar 0845 300 0218 (neu 0845 300 0219 Typetalk i alwyr sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd); neu

  • ysgrifennu at y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Blwch SP 1227, Lerpwl, L69 3UG