Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Diben y Ffurflen Gwybodaeth Gryno yw cynnig gwybodaeth well i'r cyhoedd am waith elusennau. Mae'n bwriadu rhoi crynodeb o amcanion, gweithgareddau a chyraeddiadau elusennau a chynnig modd i elusennau esbonio'r ffactorau sydd wedi effeithio ar eu perfformiad yn ystod y flwyddyn.
Cyflwynwyd y Ffurflen Gwybodaeth Gryno gan y Comisiwn Elusennau yn 2005, yn dilyn datblygiad ac ymgynghoriad helaeth gyda'r sector ac mewn ymateb i adroddiad cynharach y Llywodraeth (Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus, Uned Strategaeth, Medi 2002), a oedd wedi tynnu sylw at ddiffyg gwybodaeth hygyrch a pherthnasol am elusennau.
Mae'r Ffurflen Gwybodaeth Gryno yn ffurfio rhan o'r Ffurflen Flynyddol y mae'n rhaid i elusennau gydag incwm o fwy nag £1 miliwn ei chwblhau a'i chyflwyno i'r Comisiwn.
Gallwch weld Ffurflen Gwybodaeth Gryno elusen trwy glicio ar y ddolen i'w chofnod ar y Gofrestr.
Sylwch: Mae angen Adobe Acrobat Reader arnoch i edrych ar neu argraffu unrhyw ddogfennau PDF. Am wybodaeth ynghylch llwytho i lawr Acrobat Reader, cliciwch ar yr eicon ![]()
Mae arweiniad i elusennau ar sut i gwblhau eu Ffurflen Flynyddol a Ffurflen Gwybodaeth Gryno ar gael ar ein tudalen hafan Am Ffurflenni Blynyddol.