Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Cwestiynau Cyffredin - Am Elusennau Cofrestredig

Sut ydw i'n cael copi o gyfrifon neu ddogfen lywodraethol elusen gofrestredig?

Mae copïau o gyfrifon neu ddogfen lywodraethol elusen gofrestredig a ddelir yn ein Cofrestr Elusennau Ganolog ar gael i'r cyhoedd. Ond cofiwch mai dim ond elusennau sydd ag incwm gros neu gyfanswm gwariant o fwy na £10,000 yn y flwyddyn ariannol dan sylw sy'n gorfod anfon cyfrifon i'r Comisiwn, felly mae'n bosib y bydd angen i chi gysylltu â'r elusen yn uniongyrchol.

Gallwch gysylltu â gohebydd yr elusen yn uniongyrchol i gael y cyfrifon ddiweddaraf. Mae manylion gohebydd yr elusen ar gael ar ein Tudalen Cofrestr Elusennau. Mae hawl gan elusen godi tâl am lun-gopïo/post.

Os hoffech gael cyfrifon/dogfennau llywodraethol elusen gofrestredig gennym ffoniwch ein switsfwrdd ar 0845 300 0218 a gofynnwch am ein Cofrestr Ganolog. Codir tâl cydnabod am lun-gopïo a phost.

Gallwch hefyd anfon e-bost i'r Ganolfan Gyswllt i gael mwy o wybodaeth neu gymorth.

Rwy'n gwybod eich bod yn delio ag elusennau yng Nghymru a Lloegr ond sut gallwn ni gael gwybodaeth am elusennau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon?

Ar gyfer elusennau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon cysylltwch â'r swyddfeydd isod:

Yr Alban

Argyll House
Marketgait
Dundee
DD1 1QP

Ffôn 01382 220446
Gwefan www.oscr.org.uk

Gogledd Iwerddon

Adran Datblygiad Cymdeithasol
Castle Buildings
Stormont
Belfast
BT4 3 PP

Ffôn: 028 9082 9427
Ffacs: 028 9052 2799
Gwefan www.dsdni.gov.uk/index/voluntary_and_community.htm

 

Dw i ddim yn siŵr pa wybodaeth am statws fy elusen ddylai ymddangos ar ei dogfennau. Allwch chi egluro hyn?

Bydd unrhyw un o'r termau canlynol yn dderbyniol: "Elusen Gofrestredig"; "Rhif Elusen Gofrestredig (a ddilynir gan rif yr elusen)"; "Cofrestrwyd fel Elusen" neu "Cofrestrwyd gyda'r Comisiynwyr Elusennau". Os oedd incwm yr elusen yn fwy na £10,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf dylai'r datganiad uchod gael ei gynnwys ar bob hysbysiad, hysbyseb a dogfen arall a gyhoeddir gan neu ar ran yr elusen. Mae hyn yn cynnwys sieciau, archebion am arian, nwyddau neu wasanaethau, arnodiadau, biliau a gyhoeddir gan yr elusen, ei hanfonebau, derbynebau a llythyrau credyd.

Mae ein helusen wedi dirwyn i ben. Pa wybodaeth sy'n rhaid i ni ei rhoi i'r Comisiwn er mwyn cael ein dileu o'r Gofrestr Ganolog Elusennau?

Dylai fod cymal diddymu yn eich dogfen lywodraethol a fydd yn rhoi'r wybodaeth hon i chi. Os nad oes cymal o'r fath yn eich dogfen mae'n bosib yr hoffech gysylltu â'r llinell ymholiad cyffredinol i gael gwybodaeth bellach 0845 300 0218.

Mae diddordeb gen i mewn Rhodd Cymorth, ble alla i gael mwy o wybodaeth?

Mae Rhodd Cymorth yn cael ei weinyddu gan Gyllid y Wlad. I gael mwy o wybodaeth ewch i http://www.hmrc.gov.uk/charities/giving-to-charities-indiv.htm neu http://www.givingcampaign.org.uk/