Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Yr Adolygiad o'r Gofrestr Elusennau


Croeso i dudalennau'r Adolygiad o'r Gofrestr

Sylwch: Mae'r gyfres gyntaf o adolygiadau wedi cael eu cwblhau'n llwyddiannus. Rydym yn aros am ganlyniad y Mesur Elusennau Drafft cyn dechrau'r ail gyfres.

Mae'r tudalennau hyn yn rhoi cyfle i chi gynnig sylwadau ar yr Adolygiad a dogfennau ymgynghori amrywiol yr Adolygiad wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Dogfennau Ymgynghori a Chyhoeddiadau'r Adolygiad

1. Nod y Comisiwn Elusennau yw rhoi ffydd i'r cyhoedd mewn unplygrwydd elusennau. Mae'r Gofrestr Elusennau yn rhestr o'r elusennau a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr yr ydym yn eu goruchwylio. Rydym yn gyfrifol am ei chadw'n gyfoes; ar hyn o bryd mae'n cynnwys manylion mwy na 180,000 o elusennau.

2. Mae'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n elusennol yn gyfreithiol wedi parhau i ddatblygu ers i'r Gofrestr gael ei chreu yn gyntaf mwy na 35 mlynedd yn ôl. O ganlyniad, mae bron yn sicr bod sefydliadau ar y Gofrestr na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn eu hystyried yn elusennol erbyn hyn, a sefydliadau nad ydynt wedi'u cynnwys y dylai efallai bod wedi'u cynnwys arni.

3. Felly, rydym yn cymryd golwg hir ar y Gofrestr er mwyn ystyried, o fewn y gyfraith, a ddylai'r sefydliadu hynny sy'n cael budd o statws elusennol ar hyn o bryd barhau i wneud hynny, ac a oes lle i ddatblygu ffiniau statws elusennol ymhellach.

4. Rydym yn cynnal Adolygiad gyda chymorth y rheiny y tu mewn a'r tu allan i'r sector sy'n ymateb i'n hymgynghoriadau. Disgwylir iddo barhau am sawl blwyddyn.

5. Mae'r gwaith yn cael ei gynnal gan ein cyhoeddiad Yr Adolygiad o'r Gofrestr Elusennau (RR1) sy'n rhoi'r cefndir i'r Adolygiad ac sy'n nodi'r nodweddion hynny sy'n pennu statws elusennol sefydliad ac a fydd yn hysbysu penderfyniadau a wneir fel rhan o'r Adolygiad. Er nad yw wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r Adolygiad rydym hefyd wedi cyhoeddi Nodweddion Elusen sy'n Cael ei Rhedeg yn Dda (CC60), sy'n dwyn ynghyd y nodweddion hynny y teimlwn sy'n disgrifio orau elusen sy'n cael ei rhedeg yn dda, ond nid yw statws elusennol yn ddibynnol arnynt. Mae'n cynnwys y meysydd hynny lle yr hoffai'r Comisiwn hybu safonau uchel. Gyda'i gilydd mae'r cyhoeddiadau hyn yn dangos natur unigryw elusennau.

6. Gyda chynifer o elusennau ar y Gofrestr, nid yw'n ymarferol i ni edrych ar statws elusennol pob un ar wahân, felly rydym yn ymgymryd â'r Adolygiad trwy ystyried grwpiau arbennig o sefydliadau yn eu tro. Fel rheol byddwn yn cyhoeddi Dogfen Ymgynghori ar bob un o'r meysydd sy'n cael ei adolygu, gan amlinellu ein hargymhellion a'n barnau. Fe welwch y dogfennau ymgynghori diweddaraf ar y safle hwn. I weld dogfennau ymgynghori eraill a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ond sydd heb fod yn rhan o'r adolygiad o'r gofrestr, ewch i'n tudalen ymgynghoriadau.

7. Ein nod yn y pen draw yw cynhyrchu canllawiau ar bob maes er mwyn helpu pennu sut y caiff pob math o sefydliad ei drin yn y dyfodol, a'i natur elusennol.

8. Cyhoeddwyd y cyntaf o'r canllawiau hyn Hybu Adfywiad Trefol a Gwledig (RR2) ac Elusennau sy'n Rhoi Cymorth i'r Di-waith (RR3) ar 18 Mawrth 1999. Bydd eraill yn ymddangos ar ein gwefan wrth iddynt gael eu rhyddhau.

9. Prif gynsail yr Adolygiad yw y dylid ei gynnal mewn modd agored a gyda chymaint o fewnbwn gan y sector gwirfoddol a'r cyhoedd ag y bo modd. Fe welwch fanylion ynghylch ble i anfon sylwadau ym mhob dogfen ymgynghori.