Dogfennau Llywodraethol Enghreifftiol
(Fersiwn Hydref 2009)
Os hoffech sefydlu elusen, bydd defnyddio un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol yn arbed amser. Mae pob un yn cynnwys y darpariaethau sylfaenol y gallai nifer o elusennau eu defnyddio. Yn wir, gallent fod yn ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer darpariaethau enghreifftiol i elusennau sy'n bod a hoffai ddiweddaru eu dogfen lywodraethol, ac eithrio'r cymalau budd ymddiriedolwyr.
Y dogfennau enghreifftiol gwahanol yw:
|
Cwmnïau Elusennol: Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu Enghreifftiol (cyfeiriwch at ein canllaw ar Ddeddf Cwmnïau 2006 am fanylion pellach) |
GD1
|
|
|
| Ymddiriedolaethau Elusennol: Gweithred Ymddiriedolaeth Enghreifftiol |
GD2
|
|
|
| Cymdeithasau Elusennol: Cyfansoddiad Enghreifftiol |
GD3
|
|
|
| Cyfansoddiad Elusennau Bach |
|
|
I ddefnyddio unrhyw un o'r rhain, bydd rhaid i chi argraffu'r ddogfen a'i chwblhau â llaw.
Yna bydd rhaid i chi arwyddo'r fersiwn gwreiddiol rydych yn ei argraffu ac anfon un copi atom. Dylech ardystio'r copi trwy ysgrifennu "Tystiaf fod hwn yn gopi cywir o'r gwreiddiol" arno ac yna dyddio ac arwyddo'r datganiad hwn.
Mae'r cyhoeddiadau canlynol hefyd yn berthnasol wrth gofrestru elusen:
- Amcanion Enghreifftiol Gall fod yn anodd iawn i gael amcanion elusen yn gywir: mae'n cynnwys rhai amcanion elusennol enghreifftiol i'ch helpu.
- CC3 - Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod Ymddiriedolwyr yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli elusennau. Mae bron 1 miliwn o bobl yn gweithredu fel ymddiriedolwyr. Gofynnir yn aml i'r Comisiwn esbonio'r hyn a ddisgwylir gan rywun sy'n ymddiriedolwr. Mae cyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol gan ymddiriedolwyr ac mae'n swydd sy'n gofyn am amser, dealltwriaeth ac ymdrech. Mae'r daflen hon yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am swydd ymddiriedolwr a dyletswyddau ymddiriedolwyr. Mae fersiwn cryno CC3a ar gael hefyd.
- Pecyn Cofrestru Y ffurflenni y bydd angen i chi eu cwblhau i wneud cais i gofrestru eich sefydliad.
- CC21 - Cofrestru fel Elusen Mae'r cyhoeddiad hwn yn esbonio beth yw elusen, sut y caiff ei sefydlu, pryd y gall wneud cais i gofrestru, a sut y gall fod yn gofrestredig.
- CC22 - Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi arweiniad ar y mathau gwahanol o ddogfennau llywodraethol y gallai elusen eu defnyddio. Ein darpariaethau safonol a argymhellir a'r drefn ar gyfer mabwysiadu a diwygio eich dogfen lywodraethol.
- CC10 - Nodweddion Elusen Effeithiol Yn y cyhoeddiad hwn, rydym wedi dwyn ynghyd y nodweddion hynny y teimlwn sy'n disgrifio orau nodweddion elusen sy'n cael ei rhedeg yn dda, ond nid yw statws elusennol yn dibynnu arnynt. Mae'n cynnwys y meysydd hynny lle mae gan y Comisiwn ddiddordeb mewn hybu safonau uchel.
- Hafan cyhoeddiadau - i gael manylion am ein cyhoeddiadau eraill, sy'n cynnwys gwybodaeth bellach ar ystod eang o faterion gan gynnwys cyfrifoldebau cyfrifyddu a datganiadau diweddar ar statws elusennol (yn y gyfres "RR").
- Penderfyniadau'r Comisiwn Manylion penderfyniadau'r Comisiwn Elusennau ar y Cais i Gofrestru fel Elusen gan sefydliadau arbennig.