Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Beth yw Cais i Gofrestru Ar-lein?
Mae'n golygu y gall elusennau gwblhau a chyflwyno eu ffurflen gais i gofrestru elusen yn electronig yn hytrach na defnyddio ein ffurflen gais bapur. Mae'n cynnig dull hawdd a chyflym i anfon y ffurflen gais i gofrestru a'r ddogfen lywodraethol i'r Comisiwn. Mae angen copi papur o'r ffurflen datganiad yr ymddiriedolwyr arnom o hyd. Mae'r system sy'n ystyriol o'r defnyddiwr yn cynnig canllawiau ar-lein i chi ar sut i gwblhau'r ffurflen, ac yn cynnig modd i chi gadw'r ffurflen unrhyw bryd a dychwelyd ati nes ymlaen os dymunwch.
Gallwch gofrestru ar-lein os oes gan eich sefydliad:
Darllenwch eich canllaw Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen cyn cwblhau cais.
Beth yw dogfen lywodraethol gymeradwy?
Dogfen lywodraethol yw hon sydd wedi cael ei chytuno â chorff cenedlaethol, corff mantell neu gorff arall y gall elusennau sy'n gysylltiedig â nhw ei defnyddio. Mae'r dogfennau llywodraethol cymeradwy hyn yn cynnwys amcanion cytûn a darpariaethau gweinyddol sy'n benodol i fath arbennig o elusen. Fe welwch restr o sefydliadau y cytunwyd ar ddogfen lywodraethol gymeradwy ar eu cyfer ar ein gwefan. Sylwch nid yw copïau o'r dogfennau hyn ar gael o'r Comisiwn Elusennau - bydd angen i chi gysylltu â'r corff mantell dan sylw.
Fydda i'n cael rhif cofrestru pan fydda i'n cyflwyno cais?
Na fyddwch. Fe gewch gyfeirnod elusen y dylech ei ddyfynnu pan fyddwch yn cyflwyno unrhyw ddogfennau ychwanegol. System gwneud cais ar-lein yw hon, nid system gofrestru ar-lein. Bydd angen ystyried y ceisiadau a dderbynnir yn y ffordd arferol cyn y gellir cadarnhau cofrestriad. Bydd defnyddio cais ar-lein i gofrestru yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i ni ystyried eich cais.
Pa mor hir fydd hi'n cymryd i gofrestru elusen trwy ddefnyddio cais i gofrestru ar-lein?
Os ydych wedi defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy heb ei newid, ac nid oes unrhyw fudd preifat o bwys i unrhyw ymddiriedolwr neu barti cysylltiedig, fel rheol byddwn yn gallu cymeradwyo'ch cais a rhoi'r rhif cofrestru i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Oes rhaid i mi ddefnyddio cais i gofrestru ar-lein os ydw i'n defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy?
Nac oes. Byddai'n well gennym pe byddai elusennau'n defnyddio'r gwasanaeth ar-lein newydd oherwydd bydd yn arbed yr amser a gymerwn i ystyried eich cais, ond mae croeso i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen bapur.
Ydy'r cais ar-lein yn gofyn am yr holl wybodaeth y mae ei hangen ar y Comisiwn?
Mae'r ffurflen ar-lein yn casglu'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnom i benderfynu a yw sefydliad yn elusen neu beidio. Yn ogystal â'r cais ar-lein bydd angen i chi gyflwyno copi o'ch dogfen lywodraethol, yn electronig os dymunwch, a chopi gwreiddiol o ffurflen datganiad yr ymddiriedolwyr wedi'i harwyddo. Ni allwn dderbyn copi electronig o ffurflen datganiad yr ymddiriedolwyr. Mae angen copi papur o ffurflen datganiad yr ymddiriedolwyr arnom o hyd.