Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Pecyn Cais Cofrestru

O 1 Ebrill 2008 bydd yn ofynnol i ymddiriedolwyr sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru ystyried canllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn a dangos bod nodau eu sefydliad er budd cyhoeddus fel rhan o'r broses ymgeisio. Gweler ein canllawiau Budd Cyhoeddus am wybodaeth bellach.

'Budd cyhoeddus' yw'r gofyniad cyfreithiol sy'n mynnu bod rhaid i bob sefydliad a sefydlwyd ar gyfer un nod elusennol neu fwy allu dangos bod ei nodau er budd cyhoeddus er mwyn cael ei gydnabod, a'i gofrestru, fel elusen yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn y 'gofyniad budd cyhoeddus'. Mae'n rhaid i'r Comisiwn Elusennau sicrhau bod pob elusen gofrestredig yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Er mwyn cofrestru eich sefydliad fel elusen, bydd angen i chi gyflwyno cais ffurfiol. I'ch helpu i roi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnom, rydym wedi cyhoeddi Pecyn Cais Cofrestru (y Pecyn). Mae'n cynnwys ffurflen gais, ffurflen datganiad ymddiriedolwyr, canllawiau a chopi o'n cyngor ar gyfrifoldebau ymddiriedolwyr.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Defnyddiwch ein ffurflenni ar y wefan Gymraeg neu'r wefan Saesneg.

Rydym yn gobeithio y bydd y Pecyn yn hawdd i chi ei ddefnyddio.

Mae'r Pecyn ar gael gan y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol drwy ffonio 0845 300 0218 neu gallwch ei lwytho i lawr o'r cysylltiadau PDF isod, (ond yn gyntaf bydd angen i chi lwytho i lawr Adobe Acrobat Reader, fersiwn 5.0 neu hwyrach). Os cewch unrhyw anhawster wrth lwytho i lawr y pecyn cais, cysylltwch â'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol.

Sylwer: Os ydych yn gwneud cais i gofrestru cwmni elusennol a fydd yn cymryd drosodd waith elusen gofrestredig sy'n bod (y cyfeirir ato yn aml fel corffori'r elusen sy'n bod) dylech ddefnyddio'r ffurflenni cais newydd ochr yn ochr â'r canllawiau. Nid ydym yn cynhyrchu pecyn cais ar wahân mwyach at y diben hwn.

Pecyn Cais i Gofrestru Elusen

CC5a - Cais i gofrestru (PDF)

CC5b - Cais i gofrestru: Canllawiau (PDF)

CC5c - Datganiad ymddiriedolwyr (PDF)

Cewch wybod ble i anfon eich cais yn y Canllawiau.

Gwybodaeth Arall

CC3 - Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod

Rhestr o Ddogfennau Llywodraethol Cymeradwy

Dogfennau Llywodraethol Enghreifftiol

Amcanion Enghreifftiol

Elusennau a Budd Cyhoeddus

Croesawn adborth gan ein cwsmeriaid ar bob un o'n cyhoeddiadau a gwasanaethau. Os hoffech roi eich barn am ddefnyddio'r broses ymgeisio, cysylltwch â'n Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Woodfield House, Tangier, Taunton TA1 4BL neu defnyddiwch y cyswllt hwn Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid.