Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CYFANSODDIAD ENGHREIFFTIOL AR GYFER SEFYDLU ELUSEN FACH INCWM O DAN £5,000

(Hydref 2009)

Cynnwys

I bwy mae hwn?

Mae'r cyfansoddiad hwn wedi'i baratoi'n arbennig ar gyfer elusennau sy'n disgwyl parhau i fod yn fach, a chael incwm blynyddol o dan £5,000. Nid yw wedi'i anelu at elusennau sy'n berchen ar adeilad, yn cyflogi pobl neu sy'n bwriadu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau. Mae croeso i grwpiau bach sydd heb fod yn elusennau ddefnyddio'r cyfansoddiad enghreifftiol hwn hefyd, ond ni fyddent wedi'u cynnwys o dan y gyfraith elusennau.

Mae nifer o elusennau cenedlaethol yn cynhyrchu eu cyfansoddiadau enghreifftiol eu hunain, gan gynnwys Cymdeithasau Rhieni Athrawon, Pre-School Learning Alliance, Sefydliadau'r Merched, Sgowtiaid a Geidiau. Gweler Dogfennau Llywodraethol Cymeradwy. Os ydych yn sefydlu un o'r elusennau hyn, cysylltwch â nhw am gyngor a defnyddiwch eu cyfansoddiad enghreifftiol nhw yn hytrach na'r un yma.

Sefydlu elusen - y cyfansoddiad

Os ydych chi eisiau dechrau elusen fach, bydd angen cyfres o reolau arnoch sy'n esbonio beth mae'r elusen yn ei wneud a sut y caiff ei rhedeg. I'ch helpu, mae'r Comisiwn Elusennau wedi cydweithio â naw corff mantell a restrir ar ddiwedd y cyflwyniad i ysgrifennu a hybu ar y cyd gyfansoddiad ar gyfer elusen fach. Wrth gwrs, nid dyma'r unig gyfansoddiad fyddai'n briodol, a cheir cyfansoddiadau enghreifftiol eraill wedi'u cynhyrchu gan y Comisiwn a sefydliadau eraill.

Rydym wedi defnyddio profiadau ein gilydd i sicrhau bod y cyfansoddiad yn hawdd ei ddeall, yn fyr (dim ond 700 o eiriau) ac yn ateb anghenion elusennau bach. Y nod yw annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o redeg yr elusen a rhoi'r hyder iddynt trwy wybod yn union beth mae eu cyfansoddiad yn ei ddweud y dylai gael ei wneud er mwyn ei rhedeg yn briodol.

Y bobl ar y pwyllgor fydd ymddiriedolwyr yr elusen. Byddant yn gyfrifol am yr arian y mae pobl eraill wedi'i roi a rhaid iddynt sicrhau ei fod yn cael ei wario'n briodol ac y cyfrifir amdano yn gywir. Gweler Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3).

Sut gallwn ni gael cymorth a chyngor?

Mae bob amser yn syniad da i geisio cyngor a chefnogaeth - ac yn ffodus iawn mae digon ohono ar gael. Siaradwch â sefydliadau datblygu cymunedol lleol yn eich ardal a gofynnwch am eu cymorth. Byddai gwefan eich awdurdod lleol yn lle da ar gyfer gwybodaeth a chymorth. Mae gwefan gan bob un o'r sefydliadau a fu'n ymwneud â chynhyrchu'r cyfansoddiad hwn gyda chyfoeth o gyhoeddiadau a gwybodaeth. Mae ymrwymiad cyffredin gan bob un o'r sefydliadau hyn i helpu elusennau bach i redeg yn briodol, sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith, yn agored i bobl o bob lliw a llun ac yn ffynnu ym mhob cymuned.

Sut ydym ni'n cwblhau ein cyfansoddiad?

Mae angen i chi drafod y rheolau a gwneud yn siŵr bod pawb yn eu deall ac yn cytuno â nhw. Rhaid i chi nodi'r 'Dibenion' i ddisgrifio beth y cafodd yr elusen ei sefydlu i'w wneud. Efallai y bydd rhaid i chi ddweud ym mha ardal ddaearyddol y bydd yr elusen yn gweithio hefyd.

Mae'r cyfansoddiad hwn yn addas ar gyfer elusen fach, ond mae'n bwysig cydnabod nad yw ei fabwysiadu yn golygu bod y grŵp yn elusen o reidrwydd. Er mwyn bod yn elusen, rhaid i'r holl ddibenion fod yn elusennol a rhaid i'r sefydliad gael ei sefydlu er budd cyhoeddus. I'ch helpu gyda hyn, mae'r geiriad enghreifftiol ar gyfer dibenion elusennol wedi'i ddarparu gan y Comisiwn Elusennau.

Er mwyn mabwysiadu'r cyfansoddiad, rhaid i'r bobl sy'n sefydlu'r elusen ei lofnodi a'i ddyddio. Drwy wneud hyn nhw fydd ymddiriedolwyr yr elusen tan y cyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf.

Beth sy'n digwydd os ydym yn tyfu?

Nid oes rhaid i elusennau gyda llai na £5,000 y flwyddyn gofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau. Fodd bynnag, os yw'ch incwm yn fwy na hyn, rhaid i'r elusen gofrestru a dylech ddarllen y canllaw hwn.

Os yw'ch sefydliad yn mynd yn fwy, eisiau cyflogi pobl neu brynu adeilad, neu os hoffai gofrestru gyda'r Comisiwn yn y dyfodol, bydd rhaid i chi gael dogfen lywodraethol enghreifftiol fwy cynhwysfawr yn lle'r cyfansoddiad hwn oherwydd ni fydd yn briodol mwyach.

Ffurflenni cyfansoddiad Elusennau Bach

fformat Word | fformat PDF

Rhestr o sefydliadau a fu'n ymwneud â chynhyrchu a hybu'r cyfansoddiad hwn

Cefnogi cymunedau bywiog a chynaliadwy trwy'r Rhwydwaith Gweithredu Cymunedau Gwledig.

Mae bassac yn gorff aelodaeth cenedlaethol sy'n cynrychioli ac yn cefnogi rhwydwaith o sefydliadau amlbwrpas, seiliedig yn y gymuned sy'n gweithio yn eu cymdogaethau ac sy'n ymrwymedig i egwyddorion a dibenion cyffredin.

Defnyddiwch ein gwefan i gael hyd i aelodau bassac yn eich ardal chi ac enw a manylion cyswllt eich rheolwr rhanbarthol agosaf, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud.

www.bassac.org.uk

Mae Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr wedi'i sefydlu gan y gyfraith fel rheolydd a chofrestrydd elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posibl ar gyfer yr elusennau hyn er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd elusennau a hyder a ffydd y cyhoedd ynddynt.

www.charitycommission.gov.uk

Community Matters yw'r ffederasiwn cenedlaethol ar gyfer cymdeithasau cymunedol a sefydliadau cymunedol amlbwrpas. Rydym yn chwarae rôl allweddol wrth hybu a chefnogi gweithredu gan bobl gyffredin mewn ymateb i anghenion cymdeithasol, addysgol ac adloniadol yn eu cymdogaethau a'u cymunedau.

Rydym yn arbenigo ar reoli adeiladau cymunedol gan ddarparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys: cyngor a gwybodaeth, cyhoeddiadau, hyfforddiant, gwasanaethau ymgynghori, cymorth technegol a safonau gweithredu ar gyfer sefydliadau cymunedol.

www.communitymatters.org.uk

Rhwydweithiau Ymddiriedolwyr Elusennau (CTN) yw'r elusen genedlaethol i ymddiriedolwyr elusennau a chyrff gwirfoddol. Mae'n ceisio sicrhau y gall ymddiriedolwyr gael at fwy o wybodaeth, canllawiau a chymorth trwy rwydweithiau, ein gwefan, cyfeirio a gwasanaethau, yn ogystal â hybu gwaith ymddiriedolwr.

I ymuno â rhwydwaith cenedlaethol CTN o ymddiriedolwyr neu trusteenetplus, cofrestrwch ar wefan CTN yn www.trusteenet.org.uk

Mae Directory of Social Change (DSC) yn elusen annibynnol sydd â gweledigaeth o sector gwirfoddol annibynnol wrth wraidd newid cymdeithasol.

Cyflawnwn hyn trwy ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant hanfodol i'r sector gwirfoddol er mwyn galluogi elusennau i gyflawni eu cenhadaeth. Ers i ni ddechrau yn 1974, buom yn rhedeg cyrsiau ac yn cyhoeddi llyfrau sector elusennau a gwirfoddol ar godi arian, rheoli, datblygiad sefydliadol a phersonol, cyfathrebu, cyllid a'r gyfraith.

Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau hyfforddi a chyhoeddiadau, cysylltwch â ni am ganllawiau am ddim, ewch i'n gwefan yn www.dsc.org.uk

NAVCA yw llais cenedlaethol sefydliadau seilwaith trydydd sector lleol yn Lloegr. Sefydliadau yw'r rhain sy'n helpu ac yn darparu gwasanaethau i elusennau bach a grwpiau cymunedol. Cewch fwy o wybodaeth am y cymorth y gall aelodau NAVCA ei ddarparu yn: www.navca.org.uk/smallcharities.

I gael hyd i'ch aelod NAVCA lleol ewch i www.navca.org.uk/liodir

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) yw'r corff mantell mwyaf ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol yn Lloegr gyda mwy na 7,400 o aelodau. Ers 90 o flynyddoedd buom yn gweithio i adeiladu amgylchedd lle y gall cyrff gwirfoddol o bob lliw a llun ffynnu, o grwpiau cymunedol sy'n gweithio mewn cymdogaethau lleol i sefydliadau cenedlaethol mawr. Cred NCVO yn angerddol yn y sector gwirfoddol a chymunedol a'n gweledigaeth yw cael cymdeithas lle y mae pobl yn cael eu hysbrydoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w cymunedau. Rhown lais a chymorth i gymdeithas wâr. Darparwn ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cymorth, ac rydym yn cynrychioli'r sector i'r llywodraeth a rhai sy'n llunio polisïau.

www.ncvo-vol.org.uk

Mae Cynghrair Elusennau Bach yn bodoli i helpu elusennau bach gael at y sgiliau, y profiad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion.

www.smallcharities.org.uk

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynrychioli buddiannau cyrff gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae ganddo 2,100 o sefydliadau sydd ag aelodaeth uniongyrchol ac sydd mewn cysylltiad â nifer mwy trwy rwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol.

www.wcva.org.uk