Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd

(Fersiwn Hydref 2006)


Rydych yn ystyried sefydlu elusen newydd. Gwych. Mae'n falch gennym wybod eich bod chi eisiau chwarae rhan weithgar mewn elusen. Os ydych chi'n gobeithio neu'n bwriadu y bydd gan eich elusen incwm o fwy na £1,000 y flwyddyn (i'w godi i £5,000 ar 23 Ebrill 2007), mae'n ofynnol i chi gofrestru gyda ni yn ôl y gyfraith.

Cyn bwrw ati, mae rhai pethau y gallai fod o gymorth i chi feddwl amdanynt.

Ai elusen newydd yw'r ffordd orau ymlaen?

Mae llawer o resymau da iawn pam y bydd pobl yn penderfynu sefydlu elusen newydd. Fodd bynnag, nid sefydlu elusen yw'r ffordd orau ymlaen bob amser, ac, mewn rhai achosion, efallai na fydd hyn yn bosib yn gyfreithiol.

Yn dibynnu ar eich rhesymau dros eisiau sefydlu elusen newydd a'r hyn rydych eisiau ei gyflawni, gall fod ffyrdd eraill, a gwell, o gyflawni eich amcanion yr hoffem i chi eu hystyried.

Mae'r sefyllfaoedd arbennig sy'n dilyn ymysg y rhai lle nad sefydlu elusen newydd yw'r ffordd orau ymlaen o bosib. Yn y sefyllfaoedd hyn rhaid bod yn ofalus iawn a dylid ceisio cyngor cyn bwrw ymlaen â'ch cynlluniau:

Rwy' eisiau coffáu rhywun trwy sefydlu elusen yn ei enw

Yn lle sefydlu elusen newydd, beth am greu cronfa ar wahân, a enwir o fewn elusen sy'n bod; gall hyn fod lawn mor effeithiol â chreu elusen newydd.
Gallwch chwilio am elusennau sy'n bod trwy'r gofrestr elusennau neu gallwch ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

Rwy' eisiau gwneud rhywbeth mewn ymateb i drychineb cenedlaethol neu ryngwladol

Cyn sefydlu cronfa apêl elusennol newydd, fe'ch cynghorir i ddarllen ein canllaw Apeliadau adeg Trychineb. Yn lle sefydlu elusen newydd, beth am ystyried cynnig arian neu wasanaethau i elusen sy'n bod, fel Pwyllgor Brys Trychineb er enghraifft.

Rwy'n gwneud cais am arian loteri ac mae angen i mi sefydlu elusen gofrestredig newydd

Nid oes rhaid i sefydliadau fod yn elusennau cofrestredig i gael grant loteri. Mae sawl gwahanol ddosbarthwr grantiau loteri ac mae gofynion cymhwyster eu hunain gan bob un ar gyfer grantiau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.biglotteryfund.org.uk ar gyfer grantiau loteri yn benodol i elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol - neu www.lotterygoodcauses.org.uk i gael gwybodaeth ar bob dosbarthwr loteri, neu ffoniwch: 0845 2750000.

Rwy' eisiau sefydlu elusen i gynorthwyo person arbennig sy'n dioddef o glefyd/anhwylder [anghyffredin]

Yn gyffredinol, nid yw'n elusennol i sefydlu elusen er budd unigolyn neu unigolion arbennig a enwir. Er mwyn bod yn elusennol, byddai angen i chi ddiffinio'r bobl sy'n gallu elwa o'ch sefydliad yn llawer mwy cyffredinol.

Fel arall, gallwch sefydlu cronfa ymddiriedolaeth anelusennol i gynnig budd i'r unigolyn(unigolion) a enwir neu uno ag elusen sy'n bod sydd eisoes wedi'i sefydlu i helpu dioddefwyr, a/neu wneud gwaith ymchwil i'r clefyd/anhwylder arbennig [anghyffredin].

Mae rhywbeth arbennig wedi cael effaith bersonol arna i yn fy mywyd ac rwy' eisiau helpu eraill yn y sefyllfa hon

Yn lle sefydlu elusen newydd, beth am ystyried cynnig eich gwasanaethau i elusen sy'n bod, neu uno neu gydweithio ag elusen sy'n bod.

Gallwch chwilio am elusennau sy'n bod sy'n gwneud gwaith elusennol tebyg yn eich ardal trwy ein cofrestr elusennau neu ffoniwch y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218 am gymorth.

Fel arall, yn lle sefydlu elusen newydd, beth am sefydlu Cyfrif Ymddiriedolaeth a Reolir trwy sefydliad fel Charities Aid Foundation (CAF). Mae Cyfrif Ymddiriedolaeth CAF yn system syml sydd ychydig fel cael eich ymddiriedolaeth elusennol eich hun, ond mae'n gweithredu fel is-gronfa CAF. Gallwch roi arian yn y Cyfrif Ymddiriedolaeth, ei alw'n unrhyw beth a hoffwch a phennu pa ddibenion elusennol y gellir defnyddio'r arian ar ei gyfer. Gan fod CAF yn elusen, mae'r un manteision treth elusennol yn gymwys i'r Cyfrif Ymddiriedolaeth. Mae ychydig fel cael eich ymddiriedolaeth annibynnol eich hun, ond mae ymddiriedolwyr CAF yn gyfrifol am gyflawni eich dymuniadau elusennol.

Rwy' eisiau gwneud rhywbeth newydd neu gyflawni diben elusennol sy'n bod mewn ffordd wahanol

Rydym eisiau annog dyfeisgarwch. Felly rydym yn mabwysiadu ymagwedd adeiladol a chreadigol tuag at ystyried dibenion elusennol newydd a ffyrdd newydd o gyflawni amcanion elusennol sy'n bod. Esbonnir ein polisi ynglŷn â hyn yn Cydnabod Dibenion Elusennol Newydd.

Cyn sefydlu elusen newydd, ceisiwch ystyried a fydd yr hyn y dymunwch ei wneud yn gweithredu'n effeithiol o fewn cyfyngiadau'r gyfraith elusennau. Os na fydd, mae'n bosib y bydd angen i chi ystyried dewis arall i sefydlu elusen, fel ffurfio sefydliad anelusennol nad yw'n gwneud elw (gan ddefnyddio'r fformat Cwmni Corfforedig Elusennol newydd o bosib).

Rwy' eisiau gwneud gwahaniaeth mewn cymdeithas trwy gyflawni nod wleidyddol, fel newid y gyfraith yn y DU neu dramor.

Gall elusennau ymgymryd â gweithgareddau neu ymgyrchu gwleidyddol i helpu cyflawni diben elusennol, ond ni all elusen gael amcanion gwleidyddol. Cynghorwn unrhyw un sy'n ystyried sefydlu elusen newydd i ymgymryd â gwaith sy'n debygol o fod o natur wleidyddol i ddarllen ein canllaw Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau.

Ni allwch sefydlu elusen gyda diben gwleidyddol. Os ydych eisiau cyflawni nod wleidyddol bydd angen i chi wneud rhywbeth arall heblaw sefydlu elusen, fel sefydlu corff ymgyrchu anelusennol neu grŵp pwyso.

Oes elusennau sy'n bod gyda'r un dibenion a gweithgareddau â chi?

Mae tua 190,000 o elusennau cofrestredig, ac efallai cymaint eto o elusennau anghofrestredig llai. Mae'n dra phosib bod un neu fwy o'r rhain yn gwneud y math o waith elusennau y byddai'ch elusen newydd chi yn ei wneud, ac yn yr un ardal.

Mae nifer o elusennau yn ei chael hi'n anodd i gael y cyllid cyfyngedig sydd ar gael i'r sector elusennol yn aml, a gall hyn fod yn broblem arbennig i elusennau newydd. Mae'n well gan awdurdodau lleol, y cyhoedd a sefydliadau sy'n rhoi arian i elusennau roi i elusennau y maen nhw eisoes yn gyfarwydd â hwy ac sydd â hanes profedig yn y maes.

Mae nifer o bobl, gan gynnwys noddwyr a rhoddwyr posib, yn credu bod gormod o elusennau eisoes yn cystadlu am y cyllid prin sydd ar gael ac y gallai swm sylweddol o adnoddau elusennol gael eu harbed pe byddai elusennau yn cyd-grynhoi eu hadnoddau a gweithio gyda'i gilydd.

Os yw hwn yn fater a all godi i chi, ydych chi wedi ystyried ymuno ag elusen sy'n bod?

Mae manteision clir i gael cymysgedd iach o elusennau, gydag elusennau newydd sy'n dilyn gweithgareddau newydd yn cael eu hychwanegu'n gyson. Ond mae elusennau sy'n cydweithredu hefyd yn gallu elwa ar fanteision mawr ffydd a chefnogaeth gyhoeddus, yn hytrach na chystadlu â'i gilydd.

Mae'r rhan fwyaf o elusennau yn sefydliadau lleol bach sy'n dibynnu ar gymorth di-dâl eu hymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr eraill. Mae'n bosib bod dibenion tebyg ganddynt ond maen nhw i gyd yn gwasanaethu gwahanol gymunedau. Mae'n llai tebygol y bydd meysydd o orgyffwrdd a dyblygu neu le i dorri costau ar gyfer yr elusennau hyn. Fodd bynnag, i nifer o elusennau, yn enwedig elusennau canolig a mawr, gall cydweithio neu gyfuno olygu defnydd mwy effeithiol o adnoddau wrth ateb anghenion eu buddiolwyr.

Nid rôl y Comisiwn Elusennau yw gwthio elusennau arbennig tuag at y ffordd hon o weithio - mae'n rhaid iddyn nhw benderfynu beth sydd er lles gorau eu defnyddwyr. Ni allwn ychwaith wrthod cofrestru sefydliad sydd ag amcanion elusennol clir sy'n ateb y gofynion lleiaf ar gyfer cofrestru dim ond ar y sail bod elusen debyg arall eisoes yn bod. Fodd bynnag, rydym eisiau elusennau i fod yn ymwybodol o'r posibiliadau o weithio'n well trwy weithio gyda'i gilydd.

Mae ein harweiniad Cydweithio a Chyfuno yn tynnu sylw at rai materion allweddol i ymddiriedolwyr elusennau ac, os yw'n gymwys, eu staff ar y mater o gydweithio a chyfuniadau. Mae'n disgrifio ffyrdd o weithio mewn partneriaeth yn ogystal â'r gwahanol fathau o strwythurau a phrosesau sydd dan sylw. Mae'n ceisio helpu ymddiriedolwyr elusen benderfynu a ydynt eisiau symud ymlaen ac, os ydynt, beth yw'r gwahanol gamau a materion. Mae'n canolbwyntio ar rôl y Comisiwn Elusennau ym maes gweithio mewn partneriaeth a chyfuniadau ac mae'n amlinellu'r cymorth y gallwn ei gynnig.

Mae'r arweiniad yn cynnwys rhai enghreifftiau astudiaeth achos o gydweithio a chyfuniadau.

Mae ein Hadroddiad Rheoleiddiol Cydweithio a Chyfuno yn cyfeirio ymddiriedolwyr at ffynonellau gwybodaeth ychwanegol.

Hefyd, rydym yn cydweithio'n agos ag Uned Gydweithio Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol, sydd newydd ei sefydlu, er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn ategu ei gilydd.

Felly, cyn sefydlu elusen newydd hoffem i chi ystyried cynnig eich gwasanaethau i elusen sy'n bod, neu gyfuno ag elusen sy'n bod os oes unrhyw bosibilrwydd o ddyblygu gwaith elusennol sy'n bod.

Gallwch chwilio am elusennau sy'n bod ac yn gwneud gwaith elusennol tebyg yn eich ardal trwy ein cofrestr elusennau neu ffoniwch y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218 am gymorth.

Ydych chi'n gwybod sut y mae'n rhaid i elusen weithredu?

Cyn penderfynu sefydlu elusen newydd, mae'n bwysig eich bod chi'n deall rhai gofynion sylfaenol ynghylch sut y mae'n rhaid i elusen weithredu.

Rhaid i bob elusen weithredu o fewn cyfyngiadau'r gyfraith elusennau.

Rhaid i elusennau gael dibenion a chyflawni gweithgareddau sy'n elusennol yn unig. Nid yw pob diben, hyd yn oed y rheiny a all fod yn fuddiol neu'n dyngarol, yn elusennol o reidrwydd. Os oes unrhyw ansicrwydd, cynghorwn unrhyw un sy'n ystyried sefydlu elusen newydd i ddarllen ein Sylwadau ar y dibenion elusennol yn y Mesur Elusennau i gael arweiniad ar y math o ddibenion sy'n elusennol.

Rhaid i bob elusen gael ei sefydlu er budd cyhoeddus yn hytrach na budd preifat. Os ydych yn ansicr darllenwch Budd cyhoeddus - ymagwedd y Comisiwn Elusennau am arweiniad ar y gofyniad cyfreithiol hwn.

Mae pobl sy'n rhedeg elusennau yn cael eu galw'n ymddiriedolwyr elusen (hyd yn oed os yw eu grŵp yn cael ei alw'n bwyllgor rheoli, neu rywbeth arall). Rhaid i chi fod yn ffyddiog bod y bobl a fydd yn rhedeg eich elusen (y corff ymddiriedolwyr arfaethedig) yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Felly, cynghorwn unrhyw un sy'n ystyried sefydlu elusen newydd i ddarllen ein cyhoeddiad Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: yr hyn y mae angen i chi wybod.

Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth helaethach o arweiniad i ymddiriedolwyr elusen. I gael manylion pellach gweler tudalen Cyhoeddiadau ein gwefan.

Rwy' wedi ystyried y dewisiadau eraill ac rwy' dal eisiau sefydlu elusen newydd

Os ydych yn teimlo, ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau eraill, mai sefydlu elusen newydd yw'r ffordd orau i wneud yr hyn rydych eisiau ei gyflawni, neu os ydych eisoes wedi sefydlu elusen ac eisiau ei chofrestru, ewch ymlaen i Gofrestru elusen lle y cewch arweiniad ar sefydlu a chofrestru elusen newydd.
Gwnawn bopeth a allwn i gynnig cymorth ac arweiniad i chi trwy'r broses.