Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddio

(Fersiwn wedi'i ddiweddaru Ionawr 2010)

"Gweithiwn mewn partneriaeth ag elusennau, cyrff mantell, cyrff Llywodraeth leol a chanolog, a'n rhanddeiliaid."

Cynnwys

Cyflwyniad

Ym Medi 2002 cyhoeddodd Swyddfa'r Cabinet Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus - adolygiad o'r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio y mae elusennau, a'r sector dielw ehangach, yn gweithredu o'i fewn.

Esboniwn sut y mae'r Comisiwn Elusennau yn rheoleiddio elusennau, a'r egwyddorion a ddilynwn, isod. Ceisiwn reoleiddio er mwyn hybu cydymffurfiaeth â'r gyfraith elusennau a pharatoi elusennau i weithio'n well. Dylai ein gwaith alluogi elusennau i wneud y mwyaf o'u potensial a gwella eu hatebolrwydd i roddwyr a'r rhai sy'n cael budd o elusennau. Dylai hyn gynyddu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau.

Fel unrhyw sefydliad blaengar, mae bob amser meysydd gwaith wrthi'n cael eu datblygu a thargedau i'w cyrraedd. Ond credwn fod ein ffordd o weithio yn gyson â chynigion Swyddfa'r Cabinet ar gyfer rôl y Comisiwn yn y dyfodol, ac yn gam cyntaf defnyddiol i weithredu ar yr argymhellion yn Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus. Byddwn yn adolygu ein ffordd o weithio yn gyson wrth i'r argymhellion gael eu datblygu.

Pam rheoleiddio elusennau?

Mae elusennau yn sefydliadau rhydd ac annibynnol ac mae eu gwaith yn hanfodol i gymdeithas. Ond mae angen rheolydd elusennau arnom sy'n rheoleiddio ar ran y rhai sy'n rhoi i elusennau ac sy'n cael budd o elusennau, ac ar ran cymdeithas yn gyffredinol er mwyn:

  • sicrhau bod elusennau'n bodloni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer bod yn elusen, ac wedi paratoi ar gyfer gweithredu'n briodol ac o fewn y gyfraith;
  • gwirio bod elusennau'n cael eu gweinyddu er budd y cyhoedd, ac nid er mantais breifat;
  • sicrhau bod elusennau yn annibynnol a bod eu hymddiriedolwyr yn gwneud eu penderfyniadau heb reolaeth neu heb ddylanwad gormodol allanol; a
  • chanfod ac unioni camreoli difrifol neu gamddefnyddio bwriadol gan neu o fewn elusennau.

Dylai ein gwaith, ein partneriaethau â rheolyddion eraill, a gwaith yr elusennau eu hunain i reoli eu materion, greu hyder cyhoeddus mewn elusennau a'r gwaith a wnânt.

Y Comisiwn Elusennau

Mae'r Comisiwn wedi'i sefydlu gan y gyfraith fel y corff sy'n rheoleiddio ac yn cofrestru elusennau yng Nghymru a Lloegr. Cyflawnwn y rôl hon trwy:

  • sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'r gyfraith elusennau, a delio â chamddefnyddio ac arferion gwael;
  • cynnig modd i elusennau weithio'n well o fewn fframwaith cyfreithiol, cyfrifyddu a llywodraethu effeithiol, gan gyd-fynd â datblygiadau yn y gymdeithas, yr economi a'r gyfraith; a
  • hybu llywodraeth ac atebolrwydd cadarn.

Ein nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posibl ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd elusennau a ffydd a hyder y cyhoedd.

Cyflawnwn ein gwaith mewn sawl ffordd.

1. Defnyddio gwybodaeth a chyngor i ddylanwadu ar ymddygiad

Darparwn wybodaeth a chyngor ar yr hyn sy'n ofynnol yn gyfreithiol ac ar arferion da. Ceisiwn wahaniaethu'n glir rhwng y ddau.

Casglu gwybodaeth am elusennau unigol ac elusennau yn gyffredinol

Gwnawn hyn er mwyn:

  • gwneud penderfyniad arbennig, megis p'un ai i gofrestru sefydliad fel elusen;
  • pwyso a mesur i ba raddau y mae elusen yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio; a
  • chyhoeddi cofrestr o elusennau a'u gweithgareddau.

Rhoi gwybodaeth am elusennau i'r cyhoedd

Gwnawn hyn er mwyn:

  • Gwneud pobl yn ymwybodol o elusennau a'r hyn â wnânt, a sut y cânt eu rheoleiddio.
  • Cynnig modd i bobl gael gwybod am elusennau. Mae'r gofrestr elusennau ar gael ar-lein, a rhown gopïau o gyfansoddiadau, adroddiadau blynyddol a chyfrifon elusennau i unrhyw un sy'n gofyn amdanynt.
  • Tynnu sylw at arferion da yn ogystal ag arferion drwg. Byddwn yn asesu sut mae elusennau yn gyffredinol yn perfformio yn erbyn gofynion mewn rhai meysydd pwysig trwy ein rhaglen o astudiaethau rheoleiddio, ac yn amlygu arferion da. Enwir elusennau sydd wedi methu'n ddifrifol â bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol, ee cyflwyno eu hadroddiad blynyddol a chyfrifon.

2. Paratoi elusennau i weithio'n well

Gwnawn hyn drwy:

  • ein prosesau cofrestru (a thrwy gydnabod dibenion elusennol newydd);
  • y cyngor a'r arweiniad a ddarparwn yn ffurfiol i 24,000 o elusennau bob blwyddyn, yn ogystal â'r 250,000 o alwadau i'n Canolfan Gyswllt;
  • trefnu sawl cant o ymweliadau ag elusennau bob blwyddyn i adolygu eu gweithgareddau, eu cyfansoddiadau a'u dulliau gweinyddu, gan adnabod arferion da ac arferion drwg; a
  • llunio cynlluniau neu orchmynion cyfreithiol sy'n moderneiddio cyfansoddiadau elusennau sy'n bod.

3. Hybu cydymffurfio â'r gyfraith

Gwnawn hyn drwy ein cyhoeddiadau a'n gwaith achos. Byddwn yn rhoi pob cyfle rhesymol i elusennau gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol. Bydd ein disgwyliadau o ran cydymffurfiaeth lawn a phrydlon yn fanylach yn achos elusennau mwy sy'n cyflogi staff ac sy'n gallu cael cyngor proffesiynol.

4. Ymyrraeth a gorfodaeth

Gwnawn hyn drwy:

  • Werthuso cwynion neu dystiolaeth arall o achosion posibl o bryder ac, os yw hyn yn dangos y gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le yn ddifrifol, cychwyn ymchwiliad ffurfiol. Gall yr hyn sydd wedi mynd o'i le gynnwys:
    • camymddygiad neu gamreoli; ac
    • unrhyw weithredu arall sy'n golygu bod asedau elusennol mewn perygl o gael eu colli, eu difrodi neu eu camddefnyddio.
  • Gweithio mewn partneriaeth â rheolyddion eraill.

Mae camymddygiad yn cynnwys unrhyw weithred yr oedd y sawl sy'n ei chyflawni yn gwybod (neu y dylasai fod wedi gwybod) ei bod yn droseddol, yn anghyfreithlon neu'n amhriodol.

Mae camreoli yn cynnwys unrhyw weithred a all olygu bod adnoddau elusennol sylweddol yn cael eu camddefnyddio; bod enw da elusen yn cael ei danseilio'n ddifrifol; neu fod risg i'r bobl sy'n cael budd o'r elusen.

Mae pwerau gennym ymyrryd mewn elusennau i ddiogelu asedau elusen, a gallwn ddefnyddio'r pwerau hyn os yw ein hymchwiliad ffurfiol yn dod i'r casgliad fod camreoli neu gamddefnyddio difrifol wedi digwydd. Ein nod yn yr achosion hyn fel arfer fydd:

  • atal unrhyw gamymddygiad neu gamreoli rhag parhau neu ddigwydd eto, drwy ddiswyddo'r rhai sy'n gyfrifol, os oes angen, neu drwy reoli asedau elusen mewn ffordd arall; a
  • sicrhau bod asedau'r elusen yn ddiogel a chaiff ei gweinyddu'n briodol yn y dyfodol.

Mae'r Comisiwn yn cydweithio'n agos â rheolyddion eraill. Er nad yw'r Comisiwn yn awdurdod erlyn, mae gennym yr awdurdod i weithio gyda'r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac awdurdodau eraill (megis Cyllid y Wlad).

Egwyddorion

Wrth ymgymryd â'n gwaith, ceisiwn ddilyn saith egwyddor.

1. Atebolrwydd

Rydym yn:

  • adrodd i'r Ysgrifennydd Cartref a'r Senedd bob blwyddyn ar ein gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol;
  • cael ei archwilio'n ariannol bob blwyddyn gan y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol ac yn cael ein harchwilio'n achlysurol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd;
  • cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar ein gwefan, ynghyd â'r rhesymau dros benderfyniadau pwysig; a
  • chyhoeddi ein Cytundeb Darparu Gwasanaeth gyda'r Trysorlys sy'n dangos sut y byddwn yn cyrraedd ein targedau a gwella ein perfformiad.

Byddwn bob amser yn:

  • rhoi rhesymau am ein penderfyniadau i bobl neu elusennau sy'n cael eu heffeithio ganddynt, oni bai fod rhesymau ariannol neu gyfrinachedd personol da dros beidio â gwneud hynny; ac
  • ymgynghori cyn cyflwyno polisïau neu arferion gweithredu newydd o bwys.

Rydym yn atebol am ein penderfyniadau cyfreithiol trwy'r Uchel Lys, sy'n gallu eu gwrth-droi. Gall ein penderfyniadau gael eu herio hefyd heb fynd i'r llys trwy ofyn am adolygiad mewnol.

Mae'r Comisiwn wedi'i gynnwys o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon Seneddol.

2. Annibyniaeth

Gweithredwn er lles y cyhoedd wrth ymgymryd â'n rôl annibynnol. Gweithiwn mewn partneriaeth ag elusennau, cyrff mantell, cyrff Llywodraeth leol a chanolog ac eraill rydym yn atebol iddynt. Er y byddwn yn derbyn ac yn ymateb i safbwyntiau'r budd-ddeiliaid hyn, byddwn yn gwneud ein penderfyniadau ein hunain heb ofn neu ffafr.

3. Cymesuredd

Canolbwyntiwn ein blaenoriaethau a'n hadnoddau lle y credwn y gall ein hymyrraeth fel rheolydd wneud y gwahaniaeth mwyaf i elusennau a'r bobl sy'n cael budd ohonynt. Ceisiwn sicrhau bod y camau a gymerwn:

  • yn gymesur i'r mater a'r risg o niwed dan sylw; ac
  • yn ystyried gallu sefydliadau i gydymffurfio â'r gofynion i newid.

Ystyrir bod niwed yn golygu:

  • effeithiau niweidiol ar y bobl neu'r achosion y mae'r elusen yn eu gwasanaethu;
  • colli neu gamddefnyddio asedau neu adnoddau sylweddol;
  • niwed i enw da cyhoeddus elusen neu elusennau yn gyffredinol; a
  • niwed i ffydd y cyhoedd mewn dulliau rheoleiddio elusennau.

Os nad yw unrhyw un o'r ffactorau niwed hyn yn bresennol yn ein barn ni, rydym yn debygol o ddod i'r casgliad y gallwn ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn rywle arall yn fwy effeithiol er budd y cyhoedd, ac ni ddylem gymryd camau rheoleiddio.

Mae'r dull hwn o weithio yn golygu ein bod yn llai tebygol o ymwneud â materion sy'n gysylltiedig ag elusennau bach iawn fel arfer nag elusennau mwy. Gall pob elusen, beth bynnag fo'i maint, ddefnyddio ein Canolfan Gyswllt a'n cyhoeddiadau, sydd bron i gyd yn rhad ac am ddim.

4. Tegwch

Wrth ymarfer ein pwerau cyfreithiol, byddwn yn ceisio gweithredu mewn modd diduedd, teg, annibynnol a gonest. Byddwn yn dilyn egwyddorion cyfiawnder naturiol, ac yn gweithredu mewn ffordd gymesur a rhesymol.

5. Cysondeb

Mae hyn yn golygu:

  • sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn neu'r camau a gymerwn mewn unrhyw achos yn gywir ac yn cydymffurfio â'r gyfraith, ein polisïau cyhoeddedig a'n penderfyniadau eraill; a
  • gweithio gyda rheolyddion eraill er mwyn i ni beidio â dyblygu neu wrthdaro â'r hyn a wnânt cyn belled â phosibl.

6. Amrywiaeth a Chydraddoldeb

Gwerthfawrogwn amrywiaeth. Byddwn yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth amrywiaeth a chydraddoldeb, a byddwn yn gweithio i hybu amrywiaeth a chydraddoldeb yn ein gwaith gydag elusennau ac o fewn y Comisiwn ei hun.

Byddwn yn cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Hiliol a'i ddiweddaru bob blwyddyn, sy'n dangos sut yr ydym yn gweithio i ddileu gwahaniaethu a hybu cyfle cyfartal a chysylltiadau hiliol da yn ein gwaith gydag elusennau ac o fewn y Comisiwn ei hun.

7. Tryloywder

Yn ein cyhoeddiadau, datganiadau ac wrth ddelio ag elusennau unigol byddwn yn:

  • esbonio gofynion cyfreithiol mewn ffordd syml;
  • nodi'n glir y meini prawf a ddefnyddir i wneud ein penderfyniadau. Mae'r arweiniad i'n staff ar y rhain ar gael i'r cyhoedd ar ein gwefan;
  • esbonio'r hyn a ddisgwyliwn gan elusennau trwy gyfrwng arferion da sy'n ychwanegol at y rhwymedigaethau cyfreithiol; a
  • thynnu sylw at hawliau apelio a ffyrdd eraill y gall pobl herio ein penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Safonau gwasanaeth

Ein nod yw gwneud ein gwasanaethau yn hygyrch, a bod yn brydlon, yn gwrtais, yn hyddysg ac yn adeiladol yn ein busnes - waeth a ydym yn cytuno mewn achosion arbennig i wneud yr hyn y mae'r cwsmer yn gofyn amdano.

Byddwn yn cynnal arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid yn rheolaidd ar yr agweddau hyn ar ein gwasanaethau a byddwn yn gweithredu ar y casgliadau. Gall yr Adolygydd Cwynion Annibynnol (ICR) - sy'n debyg i ombwdsmon - asesu cwynion am ein gwasanaeth os na ellir eu datrys trwy ein gweithdrefnau cwyno mewnol.

Byddwn yn darparu gwasanaeth da, nid yn unig i elusennau a'r rhai sy'n eu rhedeg, ond hefyd i eraill sydd â diddordeb yn yr hyn a wnawn - y rhai sy'n cael budd o weithgareddau elusennau, rhoddwyr a'r trethdalwr, y Llywodraeth, y rhai sy'n comisiynu ac yn cyllido gwaith elusennau, a'r sefydliadau hynny sy'n darparu gwasanaethau mewn cystadleuaeth ag elusennau.

Os yw buddion rhanddeiliaid yn gwrthdaro, byddwn yn blaenoriaethu buddion cleientiaid elusennau.

Delio â chwynion am elusennau

Byddwn yn ymchwilio i gwynion yn erbyn elusennau:

  • os mynegir pryderon am gamreoli difrifol, er enghraifft, methu â bodloni gofynion y gyfraith elusennau; ac
  • os oes niwed, neu berygl o niwed, ac mae defnyddio pwerau'r Comisiwn yn gymesur â'r newid hwnnw; neu
  • os oes tystiolaeth glir o gamddefnyddio bwriadol.

Ni fydd y Comisiwn yn ymchwilio i bob math o gŵyn sy'n cynnwys elusen. Ni fyddwn yn gwneud hynny:

  • os yw'r achwynydd dim ond yn anghytuno â phenderfyniad y mae'r elusen, fel corff rhydd ac annibynnol, wedi'i gymryd o fewn y gyfraith a'r pwerau yn ei gyfansoddiad;
  • i ddatrys anghytuno mewnol ynghylch polisi neu strategaeth elusen y dylai'r rhai sy'n ymwneud â'r mater fod yn gyfrifol am ei ddatrys eu hunain;
  • ymchwilio i gwynion unigol o wasanaeth gwael gan elusen lle nad oes unrhyw risg cyffredinol i'w gwasanaethau, ei chleientiaid neu ei hadnoddau; neu
  • os yw'r gŵyn yn cael ei thrin gan gorff statudol neu gorff arolygu arall, neu'n gyfrifoldeb y corff hwnnw;

Byddwn yn ceisio penderfynu mor gynnar â phosibl a allwn ymchwilio i gŵyn, a'r naill ffordd neu'r llall, esbonio'r sefyllfa mor glir ag y gallwn i achwynwyr.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw un sydd eisiau cwyno am elusen yn gwybod i ba gorff y dylid anfon y gŵyn ato ac y dylai weithredu ar y gŵyn, boed y Comisiwn neu gorff arall.

Darllen pellach

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar nifer o faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau a rheoleiddio. Mae'r rhestr lawn i'w gweld ar ein gwefan neu yn ein cyhoeddiad CC1, ond mae'r rhestr isod yn ddetholiad o'r canllawiau sy'n gymwys i bob elusen a'u hymddiriedolwyr.

Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod CC3
Rheolaethau Ariannol Mewnol ar gyfer Elusennau CC8
Nodweddion Elusen Effeithiol CC10
Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2009 CC15b
Elusennau a Chodi Arian CC20
Cofrestru fel Elusen CC21
Cwynion am Elusennau CC47