Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Yn yr adran hon...

Cwestiynau Cyffredin - Arweiniad i Elusennau

Cynnwys

Elusennau a dathliadau

Rydym ni eisiau defnyddio peth o gronfeydd ein helusen i ddathlu digwyddiad hanesyddol o bwys - allwn ni wneud hyn?

Gall dathlu digwyddiad hanesyddol o bwys gael ei ystyried yn elusennol ar gyfer elusen sydd ag amcanion sy'n caniatáu iddi ennyn teimladau o falchder dinesig. Mae digwyddiad o bwys o'r fath yn aml yn cael ei ddiffinio yn nogfen lywodraethol yr elusen ond hyd yn oed os nad yw'n cael ei nodi trwy enw, mae'n bosib y bydd gan yr ymddiriedolwyr y pŵer i ddefnyddio eu cronfeydd i'w ddathlu. Yn y gorffennol, er enghraifft, mae rhai elusennau wedi gofyn i ni a oedd hawl ganddynt ddefnyddio eu cronfeydd i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines.

Ar yr amod ei fod yn rhesymol i ystyried bod y dathliad yn rhan o'r amcanion, nid oes rheswm pam na allai elusen wario peth o'i harian i ddarparu, er enghraifft, arddangosfa tân gwyllt neu fygiau coffa neu eitemau bach tebyg i ddathlu'r digwyddiad.

Allwn ni brynu neu weithgynhyrchu eitemau i'w gwerthu ar gyfer y digwyddiad?

Mae Cyllid y Wlad wedi cytuno â'r ymagwedd a ddisgrifir uchod. Fodd bynnag, maen nhw wedi gofyn i ni nodi os yw elusennau yn prynu neu'n gweithgynhyrchu eitemau coffa ac yna yn gwneud elw trwy eu gwerthu, gall yr elw hwnnw fod yn drethadwy os nad yw'r gweithgareddau hyn wedi'u cynnwys o fewn prif ddibenion yr elusen ac nid oes unrhyw ryddhad neu eithriad perthnasol. Mae gwybodaeth bellach am y sefyllfa dreth ar gael ar wefan Cyllid y Wlad www.inlandrevenue.gov.uk/charities/annex_iv.htm.

Anghydfodau

Anghydfodau o fewn elusennau

Mae canllaw newydd gennym ar gyfer ymddiriedolwyr Gwrthdaro yn eich Elusen sy'n disgrifio'r hyn y dylai elusen ei wneud yn achos anghydfod. Cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw sicrhau bod anghydfodau o fewn eu helusennau yn cael eu datrys. Byddwn yn ymyrryd mewn anghydfod dim ond os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr a benodwyd yn ddilys ac mae pob dull arall o'i ddatrys wedi methu. Mae Gwrthdaro yn eich Elusen hefyd yn darparu rhestr o sefydliadau defnyddiol a allai roi cymorth neu arweiniad pellach.

Rheolaethau ariannol

Beth yw'r rheolaethau ariannol sylfaenol y mae angen i ymddiriedolwyr eu hystyried?

Edrychwch ar ein cyhoeddiad CC8.

Codi arian

Dwi eisiau casglu yn fy archfarchnad leol. Oes angen i mi gael trwydded i gasglu mewn adeilad preifat?

Nac oes, ond wrth gwrs dylech chi gysylltu â'r Awdurdod Lleol perthnasol ynghylch ei ofynion. Ond bydd rhaid i chi gael caniatâd perchennog y tir e.e. archfarchnadoedd, gorsafoedd rheilffordd ac ati.

Dwi eisiau codi arian trwy gynnal digwyddiad eillio fy mhen noddedig! Ydy hyn yn fath o godi arian derbyniol?

Mae'n swnio fel hwyl, ond ni allwn roi barn am ddigwyddiadau codi arian penodol. Mae'n rhaid i elusennau gydymffurfio â Rhan ii Deddf Elusennau 1992 lle y bo'n briodol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau pa bynnag ddull a ddewisir ei fod er lles gorau'r elusen, ac nid dim ond yn yr ystyr ariannol. Mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol ac yn sensitif i farn a beirniadaeth gyhoeddus. Yn ogystal dylent geisio cyngor proffesiynol priodol lle y bo'n briodol.

Dwi eisiau casglu o dŷ i dŷ neu yn y stryd. Beth mae angen i mi wneud?

Bydd angen i chi gysylltu â'ch Awdurdod Lleol a gofyn am y Swyddog Trwyddedu neu, yn ardal Llundain, Heddlu Llundain, a gofyn iddynt eich cysylltu â'r Adran Drwyddedu. Byddan nhw'n gallu dweud wrthych a oes angen trwydded arnoch, sut i gael trwydded a beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn bodloni eu rheoliadau. Mae ein cyhoeddiad CC20 "Elusennau a Chodi Arian" yn rhoi manylion pellach.

Oes angen trwydded arna i i gasglu mewn adeilad preifat?

Unwaith eto, dylech gysylltu â'r Awdurdod Lleol perthnasol ynghylch ei ofynion. Mae'n amlwg y bydd angen i chi gael caniatâd perchennog y tir hefyd, e.e. archfarchnad. Mae ein cyhoeddiad, CC20 "Elusennau a Chodi Arian" yn rhoi manylion pellach.

Alla i godi arian ar gyfer fy mhlentyn sâl?

Gallwch, ond ni allwch ddweud eich bod yn elusen gofrestredig oherwydd yr egwyddor gyfreithiol gyffredinol bod rhaid i elusennau gael eu sefydlu er budd y cyhoedd, neu ran sylweddol o'r cyhoedd. Dylech geisio cyngor gan yr Awdurdod Lleol os ydych yn casglu yn y stryd neu o dŷ i dŷ. Er nad yw codi arian o'r fath yn cael ei ystyried yn elusennol, byddem yn argymell bod yr egwyddor sylfaenol o dryloywder yn bwysig a bod llyfrau a chofnodion priodol yn cael eu cadw.

Pa wybodaeth ddylai fy llenyddiaeth codi arian ei chynnwys?

Os oes gan yr elusen incwm o fwy na £10,000, yna raid nodi'r ffaith bod yr elusen wedi'i chofrestru ar y daflen. Fel mater o arfer dda dylai'r llenyddiaeth ddweud sut ac i beth mae'r elusen yn codi arian. Os yw'r elusen yn codi arian ar gyfer diben penodol e.e. pwll nofio ysgol dylai'r ymddiriedolwyr wneud datganiad sy'n esbonio os yw mwy neu lai o arian yn cael ei dderbyn ar gyfer yr apêl yna caiff yr arian ei ddefnyddio at ddibenion cyffredinol yr elusen. Os nad dyma fydd yn digwydd, mae'n bosib y bydd rhaid i'r Comisiwn ystyried a oes angen Cynllun y Comisiynwyr i ddefnyddio'r arian. Gall hon fod yn broses hir a llafurus!

Alla i godi arian dros y Rhyngrwyd?

Gallwch, ond bydd rhaid i chi gydymffurfio â'r gyfraith elusennau berthnasol h.y. os yw'r wefan yn cael ei rheoli gan godwr arian proffesiynol ac ati. Er na allwn roi cyngor helaeth ar y mater hwn dylem nodi nifer o feysydd y mae angen i ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol ohonynt gan gynnwys:

  • hawlfraint deunydd ar y rhyngrwyd
  • diogelwch manylion (cerdyn credyd)
  • perchnogaeth yr enw swyddogol gan ddatgan bod y sefydliad yn elusen gofrestredig (os yw'r incwm yn fwy na £10,000)
  • gallai'r ymddiriedolwyr fod yn atebol yn bersonol am sylwadau enllibus sy'n cael eu gwneud ar wefan elusen
  • bod gwarchod data a Chod Hysbysebu a Hybu Gwerthiannau Prydain yr un mor gymwys i'r rhyngrwyd.

Fel pob maes codi arian lle nad yw'r ymddiriedolwyr yn glir ynghylch y gyfraith, dylent geisio cyngor proffesiynol priodol.

Dwi eisiau cynnal loteri. Beth mae angen i mi ei wneud?

Byddai'n rhaid i chi siarad â'ch awdurdod lleol neu Fwrdd Hapchwarae Prydain Fawr. Am gyngor pellach, edrychwch ar baragraffau 27-31 ein cyhoeddiad CC20. Gallwch ei weld ar ein gwefan neu gallwch ei archebu trwy gysylltu â'n Canolfan Gyswllt 0845 300 0218.

Sut ydw i'n cael mynediad i gofnodion y Comisiwn Elusennau?

Fe welwch fanylion llawn ar ein tudalen Mynediad i gofnodion y Comisiwn Elusennau.

Corffori

Beth mae angen i ni wybod am newid o fod yn elusen anghorfforedig i gwmni elusennol?

Os ydych yn bwriadu sefydlu fel cwmni elusennol i "gymryd drosodd" gweithrediadau eich elusen yn awr ac yn y dyfodol, dylech ddarllen ein "pecyn corffori ". Mae'n cynnwys arweiniad ar y broses a'r materion y bydd angen i chi eu hystyried. Mae hefyd yn cynnwys ffurflen gais arbennig ar gyfer cofrestru'r cwmni newydd gyda ni.

Sylwch: Os ydych eisiau defnyddio'r gair Elusen neu elusennol yn enw'r cwmni dylech gwblhau'r pecyn cyn eich bod yn corffori'r cwmni yn Nhŷ'r Cwmnïau. Gallwn gwblhau'r broses gofrestru dim ond ar ôl i ni gytuno ar yr enw ac rydych wedi derbyn eich tystysgrif corffori gan Dŷ’r Cwmnïau.

Tir

Beth yw dyletswyddau cyffredinol ymddiriedolwyr mewn perthynas â'u tir?

Gweler paragraff 4 ein cyhoeddiad CC28.

Pa gamau ddylai ymddiriedolwyr eu hystyried cyn gwerthu tir elusen?

Gweler paragraff 6 i 16 ein cyhoeddiad CC28.

Oes rhaid cael caniatâd y Comisiwn i werthu tir?

Nac oes fel arfer. Os yw'r ymddiriedolwyr yn dilyn y gofynion statudol sy'n ymwneud â'r math o werthu y maent yn ymgymryd ag ef (wedi'i gynnwys yn adran 36 i 40 Deddf Elusennau 1993) ni fydd rhaid iddynt gael ein caniatâd. Byddwn yn rhoi ein caniatâd i werthu tir dim ond os nad yw'r ymddiriedolwyr yn gallu dilyn y gofynion statudol.

Am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein cyhoeddiad CC28.

All ymddiriedolwyr brynu tir?

Gweler ein cyhoeddiad CC33.

Cyfarfodydd

Pa arweiniad sydd ar gael ar y gyfraith ac arfer dda ar gyfer cyfarfodydd elusennau?

Gweler ein cyhoeddiad CC48.

A ddylai ymddiriedolwyr elusen ddatgan gwrthdaro buddiannau yng nghyfarfodydd?

Gweler paragraffau 45 i 48 ein cyhoeddiad CC48.

All ymddiriedolwyr gynnal rhith-gyfarfodydd neu gyfarfodydd electronig?

Gweler paragraffau 9 i 16 ein cyhoeddiad CC48.

Pa ddull pleidleisio ddylid ei ddefnyddio yng nghyfarfodydd ein helusen?

Gweler paragraffau 62 i 64 ein cyhoeddiad CC48.

Allwn ni gynnal cyfarfod ymddiriedolwyr trwy ddefnyddio cyfleusterau cynadledda fideo?

Gallwch. Oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn ei wahardd yn benodol, gall ymddiriedolwyr ddewis cynnal rhai cyfarfodydd trwy ddulliau electronig, ar yr amod y gallant weld a chlywed ei gilydd (e.e. trwy ddefnyddio cyfleusterau cynadledda fideo neu fideo'r rhyngrwyd). Gall cyfarfodydd o'r fath fod yn ddefnyddiol os oes angen cymryd penderfyniad ar frys, os yw ymddiriedolwyr yn byw yn bell oddi wrth ei gilydd, neu os yw'n gwneud hi'n haws i ymddiriedolwyr sydd ag anableddau gymryd rhan. Os yw bwrdd ymddiriedolwyr yn cynnwys ymddiriedolwyr ag anableddau, dylai'r bwrdd geisio darparu cyfleusterau priodol er mwyn caniatáu iddynt gymryd rhan mewn cyfarfod, boed yn electronig neu beidio.
Argymhellwn os yw cyfarfodydd electronig yn cael eu cynnal, dylai o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb gyda'r holl ymddiriedolwyr elusen gael ei gynnal bob blwyddyn.

All aelodau'r cyhoedd gael mynediad i gofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ein helusen?

Gallant. Argymhellwn fod elusennau yn caniatáu i gofnodion y CCB gael eu rhoi i'r cyhoedd ar gais: gallant godi tâl rhesymol i dalu am gost darparu'r cofnodion.

Ceidwad swyddogol elusennau

Pwy yw Ceidwad Swyddogol elusennau?

Mae Ceidwad Swyddogol Elusennau (CS) yn aelod o staff y Comisiwn sy'n cael ei benodi gan y Comisiynwyr i ddal tir ac, mewn rhai achosion arbennig, buddsoddiadau ar ran elusennau. Yn amodol ar ddarpariaethau Deddf 1993, mae gan y CS yr un pwerau, dyletswyddau ac atebolrwydd ag ymddiriedolwyr gwarchodaeth, mae ganddo'r un hawliau ac imiwneddau, ac mae'n ddarostyngedig i reolaeth a Gorchmynion y Llys. Gweler ein cyhoeddiad CC13.

Beth yw gwasanaeth dal tir y Ceidwad Swyddogol?

Gweler ein cyhoeddiad CC13.

Ble mae gweithredoedd teitl tir a ddelir gan y Ceidwad Swyddogol?

Fel arfer bydd y Ceidwad Swyddogol yn caniatáu i ymddiriedolwyr elusen gadw neu gael rheolaeth ar dystysgrifau tir neu'r weithred teitl tir sydd wedi cael ei breinio ynddo.

Pryd mae'n rhaid i'r Ceidwad Swyddogol fod yn barti i werthu tir a freiniwyd ynddo?

Gweler paragraffau 15 i 17 ein cyhoeddiad CC13.

All tir sy'n amodol ar forgais gael ei freinio yn y CS?

Gall.

Cynghorau Plwyfol Eglwysig

Ydy Cynghorau Plwyfol Eglwysig (CPE) yn elusennau?

Mae CPE Anglicanaidd yn elusennau sydd wedi'u heithrio, ac fel arfer nid oes rhaid iddynt gofrestru gyda'r Comisiwn.

Oes rhaid i CPE baratoi adroddiadau blynyddol a chyfrifon?

Oes, yn dilyn y cyfarwyddwyd yn Rheoliadau Cyfrifon Eglwysi 2006, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i CPE gydymffurfio â gofynion Deddf Elusennau 1993 (Deddf 1993) a’r Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer cyfrifon elusennau (SORP). Fodd bynnag, mae’n ofynnol i holl gyfrifon CPE gael eu harchwilio’n annibynnol hyd yn oed os nad yw hyn yn ofynnol gan Ddeddf 1993.

Oes rhaid cyflwyno’r adroddiadau a chyfrifon hyn i’r Comisiwn Elusennau, er nad yw CPE wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn?

Nac oes, dim ond os yw’r CPE wedi’i gofrestru gyda ni.

Gwaddoliad parhaol

Beth yw gwaddoliad parhaol?

Gwaddoliad parhaol yw eiddo elusen (h.y. tir, adeiladau, buddsoddiadau neu arian parod) na all yr ymddiriedolwyr ei wario fel petai'n incwm. Rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol - weithiau fe'i defnyddir i hybu dibenion yr elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen.

All elusen wario ei gwaddoliad parhaol?

Fel rheol, ni all ymddiriedolwyr wario unrhyw ran o waddoliad parhaol yr elusen. Byddai hynny yn groes i ymddiriedolaethau'r elusen, ond os oeddent yn gwneud hynny, byddai'r cyfalaf yn cael ei ostwng ac felly byddai'n cynhyrchu llai o incwm, gan felly lleihau gallu'r elusen i ymgymryd â'i gwaith. Yn y pen draw gallai'r elusen ddod i ben oherwydd diffyg cronfeydd, er mai'r bwriad oedd y byddai'r cymorth neu'r cyfleusterau a ddarperir gan yr elusen yn para am byth ac yn gwasanaethu cenedlaethau'r gymuned.

Os nad yw incwm blynyddol gros yr elusen yn fwy na £1,000, mae'n bosib y bydd yr ymddiriedolwyr yn gallu penderfynu gwario gwaddoliad parhaol yr elusen fel petai'n incwm a dirwyn yr elusen i ben. Cewch fwy o wybodaeth am y drefn hon yn ein taflen Elusennau Bach - Trosglwyddo Eiddo, Newid Ymddiriedolaethau, Gwario Cyfalaf (CC44).

Os yw'r elusen eisiau parhau, ond mae angen i'r ymddiriedolwyr ddod o hyd i arian ychwanegol i dalu am waith hanfodol (e.e. atgyweiriadau neu adfer adeilad y mae'r elusen yn berchen arno), rydym yn barod i ystyried caniatáu i'r ymddiriedolwyr wario rhan o waddoliad parhaol yr elusen ar y ddealltwriaeth y bydd yn cael ei ailosod o incwm y dyfodol. Fe welwch fanylion yn ein taflen CC38.

Gweithgareddau gwleidyddol

I ba raddau all elusennau ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol?

Gweler ein cyhoeddiad CC9.

Ymweliadau adolygu

Beth yw Ymweliadau Adolygu?

Cynlluniau a gorchmynion

Mae OG 1 - Gorchmynion a Chynlluniau - sydd ar gael dan ein tudalen Arweiniad Gweithredol yn darparu arweiniad manwl ar y pwnc hwn. Mae'r cwestiynau a'r atebion canlynol yn seiliedig ar yr arweiniad hwn.

Beth yw Gorchymyn?

Mae Gorchymyn yn ddogfen gyfreithiol sy'n cael ei pharatoi gennym at ddiben arbennig. Mae pwerau gennym dan sawl adran o Ddeddf Elusennau 1993 i baratoi rhai mathau o Orchymyn, er enghraifft,

  • breinio tir yn y Ceidwad Swyddogol; a
  • phenodi neu ddiswyddo ymddiriedolwyr.

Gall gorchymyn sydd wedi'i baratoi dan adran 26 Deddf Elusennau 1993:

  • roi pwerau newydd i ymddiriedolwyr;
  • awdurdodi ymddiriedolwyr i ymgymryd â gweithrediad y mae pŵer ganddynt, neu efallai bod pŵer ganddynt i'w wneud;
  • rhoi disgresiwn i'r ymddiriedolwyr ddiwygio'r darpariaethau gweinyddol yn nogfen lywodraethol eu helusen.

Ni allwn baratoi Gorchymyn:

  • sy'n awdurdodi'r ymddiriedolwyr i wneud unrhyw beth sy'n gor-redeg "gwaharddiad penodol" mewn Deddf Seneddol neu yn nogfen lywodraethol yr elusen; neu
  • awdurdodi'r ymddiriedolwyr i wneud unrhyw beth sy'n estyn neu'n addasu dibenion yr elusen; neu
  • sy'n gosod dyletswyddau neu gyfarwyddiadau ar yr ymddiriedolwyr nad ydynt yn ymwneud â'r pwerau a roddir yn y Gorchymyn.

Am wybodaeth bellach edrychwch ar OG 1 A2 adran 4.

Beth yw Cynllun?

Mae Cynllun yn ddogfen gyfreithiol rydym yn ei baratoi (fel rheol dan adran 16 Deddf Elusennau 1993) i newid bron unrhyw agwedd ar ymddiriedolaethau'r elusen. Yn ymarferol, byddwn yn paratoi Cynllun dim ond os yw achos yn cael ei baratoi i ni newid ymddiriedolaethau'r elusen ond mae'r newidiadau yn mynd y tu hwnt i gwmpas ein pwerau paratoi Gorchymyn.

Pryd mae angen Cynllun?

Gweler OG 1 A2 adran 5.

Sut mae Cynllun yn wahanol i Orchymyn?

Mae nifer o wahaniaethau allweddol. Er enghraifft, mae Cynllun yn newid ymddiriedolaethau elusen yn uniongyrchol; mae Gorchymyn yn rhoi pŵer i'r ymddiriedolwyr wneud rhywbeth. Mae cwmpas ein pwerau paratoi Cynllun yn ehangach na chwmpas ein pwerau paratoi Gorchymyn.

Fel arfer, bydd y Cynllun yn briodol:

  • os oes angen newid y ddogfen lywodraethol yn llwyr;
  • os oes angen newid dibenion yr elusen;
  • os oes angen gwneud newidiadau eraill y mae'r ddogfen lywodraethol neu Ddeddf Seneddol yn eu gwahardd yn benodol;
  • os yw elusennau yn dymuno cyfuno a byddai hyn yn golygu newid eu dibenion neu ganiatáu rhywbeth y mae'r ymddiriedolaethau neu Ddeddf Seneddol yn ei wahardd yn benodol.

Mae'r rhain i gyd yn feysydd lle na allwn baratoi Gorchmynion. Yn ogystal, ni fyddem yn paratoi Gorchymyn os yw'r newidiadau yn sensitif neu'n ddadleuol.

Mae'r gwahaniaethau eraill yn rhai gweinyddol. I grynhoi, gellir paratoi Cynllun dim ond ar ôl gwneud cais dilys ac ar ôl cyfnod o hysbysiad cyhoeddus. Ar ôl i ni baratoi'r Cynllun, mae cyfnod pellach ar gyfer hysbysiad cyhoeddus a'r cyfle i apelio i'r Uchel Lys yn erbyn ein Cynllun.

Mae OG 1 B4 yn esbonio pa hysbysiad, cyhoeddus a phersonol, y mae'n rhaid ei roi o'n bwriad i baratoi Cynllun.

Sut beth yw Cynllun?

Edrychwch ar y Cynlluniau diweddaraf ar y wefan.

Beth yw ystyr Cy-près?

Mae Cy-près yn air Ffrengig Normanaidd sy'n golygu "yn agos i hwn". Mae defnyddio'r athrawiaeth cy-près yn golygu y gallwn ni a'r Llysoedd bennu dibenion newydd ar gyfer elusen y mae ei hymddiriedolaethau presennol wedi "methu".

Beth yw'r drefn ymgeisio?

Nid oes unrhyw drefn ymgeisio ffurfiol ar gyfer Gorchymyn. Dylech ysgrifennu atom gan amlinellu'r rhesymau pam y teimlwch fod angen Gorchymyn.

Yn achos Cynllun, fel rheol yr ymddiriedolwyr elusen yn gweithredu gyda'i gilydd fel corff fydd yn gwneud cais am Gynllun.

Am wybodaeth bellach ar y drefn ymgeisio am Gynllun gweler OG 1 B2.

Elusennau bach

Oes darpariaethau arbennig ar gyfer elusennau bach (incwm llai na £5,000)?

Mae Adran 74 a 75 Deddf Elusennau 1993 yn cynnig modd i ymddiriedolwyr elusennau bach ddefnyddio incwm a chyfalaf eu helusen mewn ffyrdd mwy priodol ac effeithiol. Gall elusennau bach y mae'r darpariaethau yn gymwys iddynt gael yr opsiwn o ddewis un neu fwy o'r canlynol:

  • trosglwyddo eu hasedau i elusen arall neu elusennau eraill (bydd hyn yn arwain at ddirwyn eu helusen eu hunain i ben);
  • newid ymddiriedolaethau eu helusen; ac
  • ymrymuso eu hunain i wario cyfalaf eu helusen (bydd hyn hefyd yn arwain at ddirwyn yr elusen i ben).

Am fwy o fanylion, edrychwch ar ein cyhoeddiad CC44.

Beth yw ymagwedd newydd y Comisiwn at elusennau bach?

Yn dilyn ymgynghori â'r sector, cydnabyddwn y gallem wasanaethu anghenion elusennau bach yn well trwy ddatblygu uned ganolog a fyddai'n rheoleiddio'r elusennau lleiaf hyn yn fwy ysgafn. Bydd staff arbenigol yn darparu gwasanaeth llawn ar gyfer anghenion arbennig y grŵp arbennig hwn o elusennau megis awdurdodi gwerthu tir a drafftio cynlluniau a gorchmynion er mwyn galluogi diwygio elusennau.

Prif nod yr uned hon yw cynnig modd i ymddiriedolwyr elusennau llai wneud penderfyniadau syml - ond pwysig - heb fod angen iddynt gyfiawnhau penderfyniadau i ni yn fanwl bob tro. Bydd materion lle y bydd ymddiriedolwyr yn gallu gwneud penderfyniadau yn fwy cyflym ac yn fwy effeithlon yn cynnwys, er enghraifft, y busnes o newid sawl agwedd ar ddogfen lywodraethol eu helusen.

Bydd yr Uned Elusennau Bach yn swyddfa'r Comisiwn yn Lerpwl yn ymdrin â holl elusennau bach Lloegr sydd ag incwm o lai na £10,000.

Pryd fydd yr ymagwedd ysgafnach newydd at elusennau bach yn dechrau?

Dylai swyddfa Lerpwl ymdrin â gwaith pob elusen fach newydd yn Lloegr erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r "ymagwedd ysgafnach" yn digwydd yn awr. Mae staff yn ceisio fod yn fwy ymarferol ac maent yn ceisio rhoi ymateb sy'n gymesur â maint yr elusen. Fodd bynnag, mae staff yn parhau i weithio yn unol â pholisi presennol. Os oes angen polisi newydd bydd yr ymagwedd newydd yn gymwys dim ond ar ôl i ni ddiweddaru arweiniad gweithredol ac ati.

A fydd y taflenni gwybodaeth a'r arweiniad ysgrifenedig newydd ar gael cyn bod uned Lerpwl yn gwbl weithredol?

Mae Is-adran Bolisi'r Comisiwn wrthi'n gweithio ar yr arweiniad newydd gofynnol. Rydym yn ceisio cwblhau'r rhan fwyaf o'r arweiniad erbyn lansio'r uned elusennau bach newydd.

Pryd fydd uned elusennau bach Lerpwl ar agor i bob elusen fach?

Dylai gwaith pob elusen fach newydd yn Lloegr gael ei ymdrin gan swyddfa Lerpwl erbyn diwedd y flwyddyn.

Beth am elusennau bach yng Nghymru?

Bydd elusennau bach yng Nghymru yn cael eu trin yn yr un modd â phob elusen fach arall gydag ymagwedd ysgafnach at reoleiddio. Ond bydd yr elusennau hyn yn gyfrifoldeb yr uned Elusennau Cymru newydd yn swyddfa Taunton y Comisiwn fel rhan o'r gwasanaetha canolog newydd ar gyfer elusennau yng Nghymru. Mae'r Comisiwn Elusennau yn ceisio sefydlu presenoldeb yng Nghymru, wrth i gronfeydd fod ar gael.

Fydd y taflenni gwybodaeth a'r arweiniad ysgrifenedig ar gael yn Gymraeg?

Bydd y taflenni gwybodaeth a'r cyhoeddiadau yn ein cyfres "CC" ar gael yn Gymraeg. Bydd Arweiniad Gweithredol, sy'n cael ei baratoi ar gyfer ein staff , yn parhau i fod ar gael yn Saesneg yn unig.

Beth sy'n digwydd os yw ymddiriedolwyr yn anfon gwybodaeth neu ymholiadau i'r swyddfa anghywir?

Bydd staff y Comisiwn yn ailgyfeirio post mor gyflym â phosib er mwyn sicrhau bod yr oedi lleiaf posib wrth brosesu gohebiaeth.

Beth am achosion sydd wedi cael eu cychwyn cyn bod y newidiadau yn cael eu cyflwyno?

Ceisiwn ddelio ag achosion hyd y diwedd yn y swyddfa wreiddiol.

Pa fanteision ydy'r ymagwedd newydd hon yn eu cynnig i elusennau bach?

Bydd yr ymagwedd newydd yn cynnig nifer o fanteision i elusennau bach.

Yn aml bydd elusennau bach yn cysylltu â'r Comisiwn am gymorth gyda threfn neu benderfyniad gweddol ddibwys. Gall hyn olygu llawer o ohebiaeth a gwaith papur ar gyfer mater gweddol ddibwys ac sy'n golygu gwario symiau bach iawn o arian elusennol. Bydd yr ymagwedd newydd yn osgoi'r tâp coch ac unrhyw ohebiaeth ddiangen er mwyn delio â materion arferol yn gyflym ac yn effeithlon.

Mantais allweddol arall a gynigir gan yr uned elusennau bach yw y bydd staff arbenigol yn delio â'r elusennau hyn. Bydd profiad a hyfforddiant gan yr aelodau staff hyn o ran delio ag anghenion arbennig y grŵp arbennig hwn o elusennau.

Sut mae'r Comisiwn yn bwriadu ail-leoli adnoddau a arbedwyd gan y newidiadau hyn?

Bydd yr uned elusennau bach yn delio ag elusennau sydd ag incwm o lai na £10,000 y flwyddyn. Bydd adnoddau a arbedwyd trwy sefydlu'r uned hon yn cael eu defnyddio i ddelio ag elusennau sydd ag incwm o fwy na hyn. Mae gan yr elusennau mwy a chanolig hyn incwm o £24.285 biliwn; mae hyn yn cyfrif am 99% o'r holl incwm elusennol. Felly mae'r Comisiwn yn canolbwyntio ei adnoddau yn ôl risg.

Mae'r newidiadau hyn yn bellgyrhaeddol. Oedd y Comisiwn wedi ymgynghori â'r sector / ymddiriedolwyr elusennau bach cyn gwneud y penderfyniad hwn?

Fel rhan o adolygiad 'gwasanaeth o ansawdd gwell' parhaol, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori gyda grwpiau'r sector gwirfoddol y flwyddyn ddiwethaf. Roeddent yn cynnwys digwyddiadau yn Llundain, Newcastle, Manceinion, Exeter, Caerdydd a Nottingham lle y cyfarfu uwch aelodau staff y Comisiwn â chynrychiolwyr o drawstoriad eang o'r sector elusennol.

Fydd ymddiriedolwyr elusennau bach yn gallu ymdopi â'u cyfrifoldebau newydd?

Bydd y Comisiwn yn parhau i gefnogi elusennau gyda materion gweinyddol cymhleth. Mae pob ffydd gennym y bydd pob ymddiriedolwr, gyda chymorth ein harweiniad newydd, yn gallu delio â materion mwy arferol heb unrhyw anawsterau, ac y bydd hyn yn arbed amser ac arian.

Safonau

Beth yw nodweddion elusen sy'n cael ei rhedeg yn dda?

Gweler ein cyhoeddiad CC60

Materion treth a TAW

Ble alla i gael gwybod am y posibilrwydd y bydd rhaid i'm helusen dalu treth neu adennill treth?

Mae Cyllid y Wlad yn rhoi gwybodaeth fanwl am faterion treth ar gyfer elusennau ac fe welwch y wybodaeth ar ei wefan ar http://www.hmrc.gov.uk/charities .

Fel elusen, allwn ni osgoi talu TAW ar wasanaethau neu nwyddau y byddwn yn eu prynu?

Mae Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi yn delio â chyngor ar faterion TAW ac fe welwch hwn ar ei wefan ar http://www.hmrc.gov.uk/charities . Mae arweiniad byr ar y materion TAW sy'n ymwneud â thâl mynediad ar gyfer elusennau diwylliannol ar gael ar ein tudalen cofrestru TAW.

Ymddiriedolwyr a bod yn ymddiriedolwr

Beth yw ymddiriedolwyr elusennau?

Ymddiriedolwyr elusennau yw'r bobl sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am reoli a gwneud penderfyniadau elusen. Gall fod enw arall arnynt - aelod o'r pwyllgor rheoli neu'r pwyllgor gwaith, llywodraethwr, cyfarwyddwr, neu ryw deitl arall. Beth bynnag fo'u henw, os ydynt yn aelod o'r bwrdd neu'r pwyllgor sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am elusen, maent yn ymddiriedolwr elusen.

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gyfeiriad a pherfformiad eu helusen. Os oes ychydig iawn neu dim staff gan elusen, gallant ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r elusen o ddydd i ddydd. Os yw'n elusen mwy, bydd staff yn ymgymryd â gwaith yr elusen fel arfer a bydd yr ymddiriedolwyr yn gyfrifol am fonitro a rheoli eu gweithgareddau.

Rwy'n ymddiriedolwr newydd, beth mae disgwyl i mi wneud?

Edrychwch ar ein taflen Croeso i ymddiriedolwyr newydd. Mae'n cyflwyno rhai materion efallai y bydd angen i chi wybod amdanynt a meysydd y bydd angen i chi wybod mwy amdanynt o bosib.

Beth yw cyfrifoldebau ymddiriedolwyr elusennau?

Gweler ein cyhoeddiad CC3.

All ymddiriedolwyr gael tâl (heblaw treuliau parod) gan eu helusen?

Gweler ein taflen CC 11.

All defnyddiwr gwasanaethau neu gyfleusterau elusen fod yn ymddiriedolwr?

Gweler ein cyhoeddiad CC24.

Beth yw ymddiriedolwr ex officio?

Ystyr ymddiriedolwr ex officio yw ymddiriedolwr trwy rinwedd ei swydd. Fel rheol mae'n ymwneud â swyddi megis ficer plwyf, maer tref ac ati. Mae gan ymddiriedolwyr ex officio yr un cyfrifoldebau ag ymddiriedolwyr elusennau eraill.

Beth yw ymddiriedolwyr dal?

Mae ymddiriedolwyr dal, neu ryw enw tebyg arall, yn unigolion a benodir i ddal y teitl cyfreithiol i eiddo elusen. Gall y ddogfen lywodraethol roi dyletswyddau neu gyfrifoldebau eraill i ymddiriedolwyr dal ac felly mae'n bwysig bod yr elusen yn edrych ar y ddogfen ym mhob achos. Gweler hefyd ymddiriedolwr gwarchodaeth sydd ag ystyr cysylltiedig ond gwahanol.

Beth yw ymddiriedolwr gwarchodaeth?

Mae ymddiriedolwr gwarchodaeth yn gorfforaeth a benodir i gael gwarchodaeth, yn wahanol i reolaeth, eiddo ymddiriedolaeth. (Eithriadau yw'r Ymddiriedolwr Cyhoeddus, Cyfreithiwr y Trysorlys a'r Ceidwad Swyddogol, yr unig unigolion sy'n gallu gweithredu fel ymddiriedolwyr gwarchodaeth). Os yw ymddiriedolwr gwarchodaeth yn cael ei benodi i ddal eiddo elusen, mae'r gwaith o weinyddu'r elusen yn cael ei adael yn nwylo'r ymddiriedolwyr elusennau. Cyflwynwyd y term ymddiriedolwr gwarchodaeth gan adran 4 Deddf Ymddiriedolwyr Cyhoeddus 1906. Nid yw ymddiriedolwr gwarchodaeth yn ymddiriedolwr elusen. Gweler hefyd ymddiriedolwr dal sydd ag ystyr cysylltiedig ond gwahanol.

All elusen benodi enwebedig neu ymddiriedolwr gwarchodaeth?

Gweler ein cyhoeddiad CC42.

Mae un o'n hymddiriedolwyr elusen yn gadael ac rydym eisiau prynu anrheg ffarwel iddo. Allwn ni ddefnyddio arian yr elusen i brynu'r anrheg?

Gallwch. Er na all ymddiriedolwyr gael eu talu am eu gwasanaethau fel arfer, nid yw hyn yn atal ymddiriedolwyr rhag rhoi anrheg fach fel arwydd o'u gwerthfawrogiad i ymddiriedolwr sy'n ymddeol, ac mae'n bosib y teimlant ei fod er lles morâl da i wneud hynny.

Rydym wedi derbyn cais am restr o'n hymddiriedolwyr, ond dim ond pwyllgor sydd gennym. Ydych chi'n gwybod pwy yw'r ymddiriedolwyr?

Ymddiriedolwyr eich elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol dan ddogfen lywodraethol yr elusen am reoli gweinyddiad eich elusen, waeth beth fo'u henw. Yn achos cymdeithas anghorfforedig (h.y. cymdeithas nad yw'n gwmni cofrestredig hefyd) y pwyllgor gwaith neu'r pwyllgor rheoli yw’r ymddiriedolwyr elusen.

Rwy'n ymddiriedolwr elusen - sut galla i gael fy nhalu am fy ngwaith fel ymddiriedolwr o fewn yr elusen?

Ni all ymddiriedolwyr gael budd o'u swydd fel ymddiriedolwyr ac un o brif egwyddorion bod yn ymddiriedolwr yw ei bod yn swydd wirfoddol. Ni allwch gael eich talu oni bai fod y pŵer hwn wedi'i ddatgan yn nogfen lywodraethol yr elusen neu oni bai ein bod yn rhoi caniatâd i chi.

Yswiriant indemniad ymddiriedolwyr

Beth yw yswiriant indemniad?

Mae yswiriant indemniad ymddiriedolwyr (a elwir yn "yswiriant atebolrwydd" weithiau) yn yswiriant personol sy'n gwarchod (neu’n indemnio) ymddiriedolwyr yn erbyn y perygl o atebolrwydd personol yn codi o'u tor-ymddiriedaeth. Nid yw hyn yr un fath â'r elusen yn indemnio ei hun trwy yswirio yn erbyn colli cronfeydd sy'n deillio o weithredoedd a diffygion yr ymddiriedolwyr.

Gall elusen ddarparu yswiriant indemniad ar gyfer ei hymddiriedolwyr os oes pŵer penodol i wneud hynny yn y ddogfen lywodraethol. Os nad oes pŵer o'r fath, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr wneud cais i ni am awdurdod i brynu hwn o gronfeydd yr elusen.

Mae ein cyhoeddiad CC49 yn esbonio pryd y gellid defnyddio cronfeydd elusen i dalu am yswiriant indemniad ymddiriedolwyr naill ai'n uniongyrchol neu trwy ad-dalu'r premiymau a'r hyn y mae angen i ymddiriedolwyr ei ystyried cyn ei brynu.