|
Mae'r Comisiwn yn ymrwymedig i gyflawni ei waith mewn modd mor agored â phosib. Fel rhan o hyn, rydym yn troi ein harweiniad ysgrifenedig mewnol ar y gyfraith ac arfer elusennau yn fformat electronig ar gyfer y Rhyngrwyd. Mae cynhyrchu'r "Arweiniad Gweithredol" hwn yn brosiect mawr a fydd yn cymryd peth amser i'w gwblhau: byddwn yn ychwanegu mwy o Arweiniad i'r safle wrth iddo fod ar gael. |
|
Mae Arweiniad Gweithredol wedi'i ysgrifennu i helpu ein staff ymgymryd â'u gwaith mewn ffordd deg a chyson. Ni all ymdrin â phob sefyllfa yn derfynol, a bydd angen i ni ystyried ffeithiau pob achos bob amser: os oes angen, bydd staff yn ceisio cyngor cyfrifeg a chyfreithiol proffesiynol. Ni fwriedir iddo ymdrin â materion treth neu bolisïau Adrannau eraill y Llywodraeth. |
|
Yn ein Harweiniad Gweithredol rydym wedi ceisio tynnu sylw at ofynion cyfreithiol a rhai gweithdrefnau allweddol trwy ddefnyddio symbolau wrth ochr y paragraff y maent yn cyfeirio ato. |
|

|
Mae'r symbol hwn yn dangos gofyniad cyfreithiol. |
|

|
Mae'r symbol hwn yn dangos amgylchiadau pan fydd ein staff yn debygol o geisio cyngor gan gyfreithiwr y Comisiwn. |
|

|
Mae'r symbol hwn yn dangos yr amgylchiadau pan fydd ein staff yn debygol o geisio cyngor gan gyfrifydd y Comisiwn. |
|
|
Rydym yn ymrwymedig i wneud Arweiniad Gweithredol ar gael i'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ychydig iawn o wybodaeth gael ei thrin yn gyfrinachol. Mae enghreifftiau yn cynnwys rhai manylion am orfodi'r gyfraith, a lle y gallai dadlennu ragfarnu gweinyddu cyfiawnder. |
| |
Mae hyn yn unol â pholisi'r llywodraeth ar Lywodraeth Agored a rhyddid gwybodaeth fel y pennwyd yn y Cod Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth y Llywodraeth a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. |
|

|
Bydd clicio ar y saeth i fyny yn mynd â chi yn ôl i ddechrau'r ddogfen rydych yn ei darllen. |
|

|
Bydd clicio ar y saeth i lawr yn mynd â chi i ddiwedd prif destun y ddogfen a rhestr o dermau diffiniedig. |
| |
Mae mynegai yn nhrefn yr wyddor i'r pynciau y mae Arweiniad Gweithredol wedi cael eu cyhoeddi arnynt. Wrth i fwy o Arweiniad gael ei ryddhau ar y Rhyngrwyd, caiff y mynegai hwn ei ehangu. Gallwch glicio o'r mynegai yn nhrefn yr wyddor i fynegai i Arweiniad ar bob pwnc arbennig, ac yna i'r Arweiniad manwl ei hun. Os yw'r Arweiniad (mewn achosion eithriadol) yn cynnwys un ddogfen yn unig fe ewch yn syth i'r ddogfen honno o'r mynegai yn nhrefn yr wyddor. |
| |
Mae termau sydd ag ystyr arbennig yng nghyd-destun Arweiniad Gweithredol wedi'u diffinio naill ai yn y rhestr termau gyffredinol neu, os yw eu hystyr yn benodol iawn, mewn rhestr termau sy'n cyfeirio at gyfres arbennig o Arweiniad. |
| |
Byddem yn croesawu eich barn am yr Arweiniad ac a fu'n ddefnyddiol i chi. |
| |
Anfonwch e-bost at ein canolfan gyswllt gyda'ch sylwadau. |
|
Ewch i : Mynegai yn nhrefn yr wyddor i Arweiniad Gweithredol. Ewch i : Rhestr rifiadol o'r Arweiniad Gweithredol. |
|

|
|