Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Cynlluniau ar y Rhyngrwyd


Croeso i Safle Mynediad Cyhoeddus Cynlluniau ar y Rhyngrwyd:

Mae cynllun yn ddogfen gyfreithiol a ddefnyddiwn i newid, disodli neu ehangu dogfen lywodraethol elusen. Mae angen cynllun pan na all elusen weithredu'n effeithiol yn unol â'i dogfen lywodraethol bresennol ac ni all yr ymddiriedolwyr wneud y newidiadau angenrheidiol eu hunain. Mae paratoi cynlluniau yn ffordd bwysig o gyflawni nod y Comisiwn o sicrhau bod elusennau'n gallu gweithredu ar gyfer eu dibenion o fewn fframwaith cyfreithiol, cyfrifyddol a llywodraethol effeithiol. Mae effaith ein cynlluniau ar elusennau yn sylweddol ac fe'i mesurir yn nhermau ariannol yn ôl yr effaith a gaiff y cynllun ar ddefnyddio incwm yr elusen.

Fel arfer, byddwn yn paratoi cynllun am un neu ragor o'r rhesymau canlynol:

  • Moderneiddio neu ehangu amcanion elusen er mwyn caniatáu i'w hincwm gael ei ddefnyddio yn fwy effeithiol er budd ei buddiolwyr; pan fydd y newid yn sylweddol yr effaith fydd incwm gros yr elusen ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf,
  • Uno elusennau sy'n arwain at arbedion mewn costau gweinyddol a defnydd mwy effeithiol o gronfeydd elusennol; yr effaith fydd costau rheoli a gweinyddol y flwyddyn ddiwethaf yr elusennau hynny sydd ddim yn bodoli mwyach;
  • Disodli dogfen lywodraethol sy'n annigonol neu heb fod yn gyfoes â darpariaethau gweinyddol modern sy'n galluogi ymddiriedolwyr i weinyddu eu helusen yn fwy effeithiol; pan fydd dogfen lywodraethol newydd sbon yn cael ei darparu yr effaith fydd incwm ariannol gros yr elusen ar gyfer y flwyddyn ddiweddaf,
  • Rhoi pwerau newydd i ymddiriedolwyr neu awdurdodi trafodion penodol sydd er lles gorau'r elusen; bydd yr effaith ar gyfer trafodiad penodol yn dibynnu ar werth y trafodiad.

Mae'r broses paratoi cynllun statudol yn cynnwys rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynllun drafft ac mae manylion llawn y broses i'w gweld yn ein cyhoeddiad CC36.

Gwybodaeth Bellach:

Gwneud Sylwadau am Gynlluniau

Math o Gynlluniau - Ffigurau ar gyfer Cynlluniau Cyfredol y gellir cynnig sylwadau arnynt:

Moderneiddio neu Ehangu amcanion elusen 1
Cyfuno neu Uno elusennau 0
Gwella Dull Llywodraethu elusen 2
Rhoi Pwerau i Ymddiriedolwyr elusen 0

Cynlluniau a Gorchmynion ar gael i gynnig sylwadau arnynt:

Cynlluniau Drafft

Cynlluniau Wedi'u Selio

Chwilio yn ôl:

Enw:
   
Ardal:
 
Rhif Cofrestredig:
   
Statws: