Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Y Comisiynwyr a'r Cyfarwyddwyr Gweithredol

Rheoli'r Comisiwn heddiw

Bwrdd aelodau anweithredol y Comisiwn sy'n gyfrifol am lywodraethu, strategaeth a chyfeiriad y Comisiwn yn y dyfodol. Mae gwneud penderfyniadau corfforaethol sy'n effeithio ar weithrediad y Comisiwn o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i'r Grŵp Gweithredol. Mae'r grŵp hwn yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr ac mae'n cynnwys y tri Chyfarwyddwr a Phenaethiaid Swyddogaethau allweddol. Mae'r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am Elusennau a Gwasanaethau Cyfreithiol, Polisi ac Effeithiolrwydd, Gwasanaethau Corfforaethol a Gwybodaeth am Elusennau. Mae dyletswyddau'r Cyfarwyddwyr yn cynnwys gweithredu'r rhaglenni a'r polisïau sy'n deillio o'r Bwrdd a sicrhau darparu gwasanaeth effeithiol.

Mae'r Bwrdd yn cael ei gynorthwyo gan Bwyllgor Archwilio a Phwyllgor Tâl y Gwasanaeth Sifil. Mae'r Cyfarwyddwyr unigol yn cael eu cynorthwyo gan bwyllgorau sy'n cynnwys eu huwch aelodau staff eu hunain a chynrychiolwyr prif rannau eraill o'r sefydliad.

Aelodau'r Comisiwn

Cadeirydd

Y Fonesig Suzi Leather

Y Fonesig Suzi LeatherYmunodd Y Fonesig Suzi Leather â'r Comisiwn Elusennau fel y Cadeirydd yn Awst 2006.

Mae gan Suzi berthynas hirsefydlog â'r trydydd sector, gan wirfoddoli'n gyntaf dros 20 mlynedd yn ôl i Age Concern. Mae wedi treulio y rhan fwyaf o'i gyrfa yn y mudiad defnyddwyr, gan weithio ar lefel ranbarthol, genedlaethol ac Ewropeaidd, ond bu ei hymrwymiad i'r trydydd sector bob amser yn amlwg trwy ei gwaith gwirfoddol a phrosiectau cymunedol.

Yn fwyaf diweddar roedd yn Gadeirydd yr Awdurdod Ffrwythloni Ddynol ac Embryoleg, a'r Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol. Cyn hynny roedd Suzi wedi cadeirio Ymddiriedolaeth GIG Gymunedol Exeter a'r Fro yn ogystal â'r Fforwm Iechyd, sy'n ceisio hybu'r agenda iechyd cyhoeddus yn yr ardal leol. Hi oedd Dirprwy Gadeirydd cyntaf yr Asiantaeth Safonau Bwyd a bu'n aelod o Ymchwiliad y Gymdeithas Frenhinol i Glefydau Heintus Da Byw. Yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2006 fe'i gwnaethpwyd yn Fonesig Ymerodraeth Prydain.

Mae cefndir academaidd helaeth gan Suzi ym maes gwyddorau gwleidyddol, gwaith cymdeithasol a phrawf. Mae ei diddordebau arbennig yn cynnwys polisi bwyd, maeth a thlodi, anghenion defnyddwyr incwm isel ac effaith polisïau Ewrop ar ddefnyddwyr y DU.

Simon Jones

Simon JonesYmunodd Simon Jones fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Gyda'i wybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector elusennau yng Nghymru, roedd Simon yn bodloni gofyniad Deddf Elusennau 2006 ar gyfer gwybodaeth o'r fath i gael ei gynrychioli ar Fwrdd y Comisiwn. Mae Simon yn ymgynghorydd ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru lle yr oedd yn Brif Weithredwr tan 2004. Mae'n gyn-Gadeirydd y Comisiwn Annibynnol a fu'n adolygu Cynllun Sector Gwirfoddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ar hyn o bryd mae'n cadeirio Rhwydwaith Cymorth Cymunedau’n Gyntaf ac mae ganddo brofiad eang o'r cyfryngau, gan gynnwys bod yn gyflwynydd ar Radio Wales.

Sharmila Nebhrajani

Sharmila NebhrajaniYmunodd Sharmila Nebhrajani fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Ar hyn o bryd mae Sharmila yn Gyfarwyddwr Cyllid a Phrif Swyddog Gweithredu - BBC Future Media and Technology, Dirprwy Gadeirydd yn yr Awdurdod Ffrwythloni Ddynol ac Embryoleg, aelod o'r Awdurdod Meinweoedd Dynol ac yn aelod o'r Dosbarthwr Loteri'r Gemau Olympaidd. Mae hefyd yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac aelod o ICAEW.

Dr Andrew Purkis OBE

Dr Andrew Purkis OBEYmunodd Dr Andrew Purkis OBE fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Ar hyn o bryd mae Andrew yn Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol ac yn gyn-Brif Weithredwr Cronfa Goffa Diana, Tywysoges Cymru, Ysgrifennydd Materion Cyhoeddus ar gyfer Archesgob Caergaint ac yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Cyngor Diogelu Lloegr Gwledig.

Theo Sowa

Theo SowaYmunodd Theo Sowa fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Mae Theo yn ymgynghorydd annibynnol sy'n gweithio ar ystod eang o faterion rhyngwladol gyda ffocws ar ddatblygiad cymdeithasol a materion plant a phobl ifanc. Mae ei gwaith yn cynnwys gwerthuso, polisi a datblygiad sefydliadol gydag UNICEF, UNDP, Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, Cronfa Datblygu Menywod Affrica, DflD a Sefydliad Stephen Lewis, ymysg eraill.

Simon Wethered

Simon WetheredYmunodd Simon Wethered fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007 ac mae'n un o ddau Aelod y Comisiwn sydd â chymhwyster cyfreithiol. Mae Simon yn ymgynghorydd cyfreithiol sy'n arbenigo mewn elusennau gyda Charles Russell LLP ac roedd yn gyn-bartner yno. Mae ganddo 37 o flynyddoedd o brofiad fel cyfreithiwr, naw yn arbenigo mewn gwaith elusennau. Mae'n aelod o Gymdeithas y Gyfraith Elusennau, yn aelod cyswllt o Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Elusennau ac yn gyd-olygydd llawlyfr Charity Law Butterworth.

John Williams

John WilliamsYmunodd John Williams â'r Comisiwn Elusennau fel Comisiynydd anweithredol yn Ionawr 2005. Mae ganddo gefndir ym maes hysbysebu, marchnata a chyfathrebu corfforaethol gan arbenigo mewn rheolaeth enw da a strategaeth gyfathrebu. Mae'n gyd-sylfaenydd ac yn gyn Gadeirydd y gwasanaeth ymgynghori cyfathrebu corfforaethol Fishburn Hedges, ar ôl dechrau ei yrfa ym maes hysbysebu defnyddwyr gyda J Walter Thompson. Mae wedi cynghori cleientiaid yn amrywio o'r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth, prifysgolion a nifer o elusennau.

Yn Fishburn Hedges, roedd John wedi datblygu diddordeb arbennig mewn cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac roedd hefyd wedi adeiladu practis yn gwasanaethu'r sector gwirfoddol, gan gwmpasu hunaniaeth gorfforaethol, cysylltiadau cyhoeddus, strategaeth codi arian a rheolaeth argyfwng. Fe arweiniodd y tîm allanol a oedd wedi helpu i drawsffurfio The Spastics Society a'i droi'n Scope dros gyfnod o bum mlynedd. Mae John yn parhau i fod yn uwch ymgynghorydd rhan-amser gyda Fishburn Hedges ochr yn ochr â nifer o rolau anweithredol.

Bu'n wirfoddolwr yn y sector elusennol am sawl blwyddyn. Mae John yn Gadeirydd y felin drafod llywodraethu ac arweinyddiaeth, Tomorrow’s Company ac yn aelod bwrdd Busnes yn y Gymuned. Tan yn gynnar yn 2006, roedd yn Ddirprwy Gadeirydd ChildLine ac roedd wedi chwarae rôl ganolog wrth lywio ei uniad â'r NSPCC. Mae John hefyd yn gyn ymddiriedolwr Cymdeithas Lles y Teulu ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Cafodd John ei benodi'n Gadeirydd Richmond Theatre Productions, cwmni masnachol annibynnol yr oedd ef wedi'i gydsefydlu, yn Nhachwedd 2006.

John Wood

John Wood Fe ymunodd John Wood â'r Comisiwn ar 1 Chwefror 2008 ac mae'n un o ddau Aelod o'r Comisiwn sydd â chymwysterau cyfreithiol.

Mae John yn ymgynghorydd gyda Herbert Smith LLP. Roedd yn bartner yn y cwmni am 25 o flynyddoedd ac yn gyfrifol am yr adran Ymddiriedolaeth ac Elusennau.

Mae'n aelod o'r Charity Law Association ac yn sylfaenydd ac yn aelod pwyllgor yr Association of Contentious Trust and Probate Specialists. Mae'n aelod gweithredol o'r Trust Law Committee hefyd.

Y Cyfarwyddwyr Gweithredol

Prif Weithredwr

Andrew Hind

Andrew HindRoedd Andrew Hind, cyn-brif swyddog gweithredu'r BBC World Service, wedi ymuno â'r Comisiwn Elusennau fel ei brif weithredwr cyntaf yn 2004.

Mae gan Andrew brofiad helaeth o weithio gyda'r sector elusennau. Roedd yn uwch swyddog gweithredol gydag ActionAid (1986-1991) a Barnardo's (1992-1995) cyn symud i'r BBC yn 1995. Mae Andrew hefyd wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr sawl prif elusen, gan gynnwys VSO, Pwyllgor y DU UNICEF, Cronfa Goffa Diana, Tywysoges Cymru a nifer o elusennau llai yn ei gymuned leol yng Ngogledd Llundain.

Yn 1988 roedd Andrew yn gyd-sylfaenydd Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Elusennau - sefydliad sy'n hybu rhagoriaeth ym maes rheolaeth ariannol elusennau. Roedd yn Gadeirydd y Grŵp o 1992-1994. Fe yw awdur 'The Governance and Management of Charities', ac mae'n gyn-feirniad y Gwobrau Elusennau Cenedlaethol. Derbyniodd Andrew y Wobr Cyrhaeddiad Arbennig am ymrwymiad a gwasanaeth hir i'r sector gwirfoddol yng Ngwobrau Elusennau 2008.

Y Cyfarwyddwyr

Nick Allaway

Nick AllawayYmunodd Nick Allaway â'r Comisiwn fel Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwybodaeth am Elusennau a Gwasanaethau Corfforaethol yn gynnar yn 2004. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid am chwe blynedd yn y Gronfa Cyfleoedd Newydd (Cronfa Loteri Fawr bellach). Mae Nick yn gyfrifol am reoli gwasanaethau Cyllid, Adnoddau Dynol, TG a Rheoli Cyfleusterau y Comisiwn. Yn gynharach yn ei yrfa bu'n gweithio mewn swyddi rheoli amrywiol yn y llywodraeth ganolog mewn adrannau mor amrywiol â Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Swyddfa'r Cabinet a'r Amgylchedd. Mae'n gyfrifydd cymwysedig.

Rosie Chapman

Rosie ChapmanMae Rosie Chapman yn Gyfarwyddwr Gweithredol Polisi ac Effeithiolrwydd yn y Comisiwn Elusennau, ac yn gyfrifol am arwain datblygiadau polisi'r Comisiwn, ei heffeithiolrwydd elusennau a gwaith partneriaeth, cynllunio strategol a gweithgareddau materion corfforaethol.

Cyn ymuno â'r Comisiwn yn 2001, treuliodd Rosie chwe blynedd yn y Gorfforaeth Dai mewn amryw o rolau, yn olaf fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Polisi Rheoleiddio). Yn y gorffennol mae wedi gweithio i Gymdeithas Dai New Islington & Hackney, gan weithredu fel ysgrifennydd cwmni i sawl sefydliad elusennol, ac mewn llywodraeth leol.

Mae Rosie yn Gymrawd y Sefydliad Ysgrifenwyr a Gweinyddwyr Siartredig, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn aelod bwrdd Homes for Haringey.

Kenneth Dibble

Kenneth DibbleKenneth Dibble yw Cyfarwyddwr Gweithredol Adran y Gyfraith a Chydymffurfio.  Mae Kenneth yn gyfrifol am ddarparu a rheoli gwasanaethau cyfreithiol y Comisiwn a'i swyddogaeth Cydymffurfio a Chymorth.  Mae hefyd yn gyfrifol am wasanaethau cwsmeriaid y Comisiwn a'i Raglen Ryngwladol.

Mae gan Kenneth dros ugain mlynedd o brofiad ym maes y gyfraith a rheoleiddio elusennau gyda'r Comisiwn.  Cafodd yrfa ym myd bancio ac yswiriant cyn hynny.

Bargyfreithiwr wrth ei alwedigaeth, mae Kenneth hefyd yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Bancwyr.

David Locke

David Locke

David Locke yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Elusennau, ac mae'n gyfrifol am ddarparu a rheoli gwasanaethau un-i-un y Comisiwn i elusennau, gan gynnwys y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Cofrestru, Cyngor a Gorchmynion ac Elusennau Mawr.

Ymunodd David â'r Comisiwn yn 2002 fel cyfreithiwr cyn cael swydd fel Pennaeth Gwasanaethau Elusennau yn 2005 a'i swydd bresennol ym Medi 2007.

Mae David yn gyfreithiwr cymwysedig a chyn gweithio i'r Comisiwn fe dreuliodd mwy na deg mlynedd yn gweithio mewn canolfannau cynghori yn rheoli'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd.

Y Strwythur

Penodwyd Cadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Elusennau yn Awst 2006 a Hydref 2004 cyn pasio Deddf Elusennau 2006 a gyflwynodd y Comisiwn corfforedig.

O 16 Gorffennaf 2007, penododd y Gweinidog dros y Trydydd Sector bedwar aelod arall o'r Comisiwn hyd at yr uchafswm (fel y pennwyd yn Neddf Elusennau 2006) o naw aelod – wyth aelod o'r Comisiwn a'r Cadeirydd.

Mae gan y Comisiwn y swyddogaeth gyffredinol o hybu'r defnydd effeithiol o adnoddau elusennol trwy:

  • annog datblygu dulliau gweinyddu gwell;
  • rhoi gwybodaeth neu gyngor i ymddiriedolwyr elusen ar unrhyw fater sy'n effeithio ar yr elusen; ac
  • ymchwilio i gamddefnydd a'i unioni.

Gall y Llys hefyd weithredu rhai o'r pwerau y gall y Comisiwn eu gweithredu o dan Ddeddf Elusennau 1993 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006.

Mae aelodau'r Comisiwn yn bennaf gyfrifol am gyfeiriad strategol a gwaith y Comisiwn. Mae amryw o swyddogaethau ganddynt gan gynnwys gwneud penderfyniadau mewn achosion o bwys. Yn ymarferol, bydd swyddogion awdurdodedig sy'n gweithredu o dan bwerau dirprwyedig yn gweithredu'r rhan fwyaf o bwerau'r Comisiwn Elusennau.